Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Gwelwyd byrbwylltra, diofalwch a diffyg gofal nad yw'n Brydeinig am bobl y wlad hon yn y ddadl a gawsom dros Brexit heb gytundeb. Rwy'n poeni'n fawr am bobl ym mhob un o gymunedau'r wlad hon, nid y gymuned a gynrychiolaf yn unig. Ac nid yw'n ddigon da i bobl ddweud yn syml, 'Fe gawn adael heb gytundeb ac i'r diawl â'r costau, i'r diawl â'r canlyniadau, ac i'r diawl â bywydau'r bobl yr ydym yn eu difetha.' Nid yw hynny'n ddigon da mewn unrhyw ddadl ar unrhyw adeg. Gadewch imi ddweud nad yw hyn yn nodweddiadol o Brydain—[Torri ar draws.] Nid dim ond esgeulustod troseddol ydyw, mae eich ymagwedd yn gwbl annodweddiadol o Brydain. Felly, rwy'n poeni'n fawr am ddyfodol amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu. Rwy'n poeni'n fawr am y cymunedau sy'n cael eu cynnal gan y diwydiannau hynny. Rwy'n poeni'n fawr am y teuluoedd sy'n cael eu cynnal gan y gwaith hwnnw, ac ni fyddaf byth yn defnyddio fy mhleidlais a fy lle i yn y lle hwn er mwyn tanseilio eu dyfodol.
Ond a gawn ni ddweud hefyd fod angen i ni gael dadl go iawn am ddyfodol y Deyrnas Unedig. Rwy'n ddiolchgar fod y Gweinidog wedi gallu ymuno â ni ar gyfer y sgwrs hon y prynhawn yma, ac rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Gweinidog am ei sylwadau a'i ddidwylledd wrth fynychu'r pwyllgor, ac nid dim ond ateb cwestiynau ond ceisio cael sgwrs, dadl a thrafodaeth gyda'r pwyllgor mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymagwedd.
Ond rydym yn gweld newid mawr iawn yn natur y Deyrnas Unedig, creu strwythurau newydd lle na chredaf fod gennym sicrwydd o'r didwylledd, y tryloywder a'r atebolrwydd sydd eu hangen arnom. Rwy'n croesawu llawer o'r newidiadau a welir, a fydd yn creu Teyrnas Unedig lawer mwy cyfartal gyda seneddau ymreolaethol, yn enwedig yma ac yng Nghaeredin, yn gwneud penderfyniadau a fydd yn llywio bywydau pobl yn ein gwledydd, ond gan weithio gyda'r Senedd yn San Steffan er mwyn sicrhau bod gennym drefniant cyfartal lle gall pob un ohonom gyfrannu at ddyfodol y DU hon.
Rwy'n gobeithio y bydd goruchwyliaeth a chraffu democrataidd yn rhan o hynny, ac mae angen inni weithio'n galed—ac rwyf am gyfeirio rhai o fy sylwadau at y Gweinidog yma. Credaf fod angen i bob un ohonom, Lywydd, a chi fel Llywydd, o bosibl, hyd yn oed, sicrhau bod yna atebolrwydd democrataidd sefydliadol o fewn y Deyrnas Unedig sy'n dwyn y strwythurau a grëir gan y fframweithiau cyffredin i gyfrif am eu penderfyniadau.
Gadewch imi wneud un sylw olaf, a gwn fy mod yn profi amynedd y cadeirydd, os nad Aelodau eraill. Gwyn Alf Williams, wrth gwrs, a ofynnodd y cwestiwn enwog, 'Pa bryd oedd Cymru?', ac rwy'n credu bod rhaid i ni yn awr ofyn cwestiwn tebyg, sef 'Beth fydd Cymru?' I mi, mae'r wlad hon bob amser wedi bod yn wlad sydd wedi edrych tuag allan ac wedi edrych ar y byd ac wedi cofleidio'r byd. Bu inni brofi globaleiddio cyn i neb fathu'r ymadrodd. Deallasom beth yw rhyngwladoldeb, ac yma yn y lle hwn, ym Mae Caerdydd, y gwelwyd un o'r cymunedau metropolitanaidd, cosmopolitanaidd cyntaf yn y byd. Ac mae gennym gyfrifoldeb, rwy'n credu, nid yn unig i chwarae ein rhan yn llawn o fewn y Deyrnas Unedig a strwythurau eraill, ond mae gennym gyfrifoldeb i weithio law yn llaw â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru yn parhau i gael ei chynrychioli mewn prifddinasoedd rhyngwladol ac mewn materion rhyngwladol. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio law yn llaw â Llywodraeth y DU ac eraill i sicrhau ein bod yn cryfhau statws Cymru yn rhyngwladol ar y llwyfan rhyngwladol, a'n bod yn cryfhau cynrychiolaeth Cymru ledled y byd.
Lywydd, rwy'n ddiolchgar ichi am ganiatáu'r datganiad hwn y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod pwyllgorau'n gallu dod â'r datganiadau hyn i'r Siambr, a chyda rhai eithriadau, rwy'n credu ein bod wedi cael dadl gadarnhaol iawn ar y datganiad hwn.