Part of the debate – Senedd Cymru am 1:11 pm ar 5 Medi 2019.
Llywydd, bydd y Llywodraeth yn pleidleisio yn erbyn pob gwelliant heddiw. Rydym yn gwneud hyn oherwydd, ar y diwrnod pan fo angen i'r Cynulliad hwn anfon neges glir ar ddau brif bwnc y cyfnod, sef y bygythiad i'n democratiaeth a'r bygythiad o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, mae'r gwelliannau hyn yn tynnu sylw oddi wrth y dibenion canolog hyn.