Part of the debate – Senedd Cymru am 1:06 pm ar 5 Medi 2019.
Nawr, wrth gwrs, rydym yn gwrthwynebu’n gryf yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ceisio ei gyflawni yn ogystal â'r dulliau y mae'n eu defnyddio. Mae'r Cynulliad hwn eisoes, lawer gwaith, wedi mynegi ei wrthwynebiad llwyr i adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Ac nid yw'r wybodaeth am baratoadau Whitehall ar gyfer canlyniad o'r fath, sydd bellach yn wybodaeth gyhoeddus, ond yn tynnu sylw at yr aflonyddwch anhrefnus tymor byr y gallwn ddisgwyl ei wynebu os bydd Boris Johnson yn ein gwthio dros ymyl y clogwyn hwnnw ar 31 Hydref. Nawr, fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn gweithio’n galetach fyth wrth i’r bygythiad hwn ddod yn agosach. Ar bob pwynt yn y broses, rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth fanwl yn dangos sut y byddai Brexit yn effeithio ar Gymru a'r camau a gymerwyd gennym yn ddiflino i ddeall y risgiau, a chyn belled ag y gallwn, i’w lliniaru. Pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, bydd y Llywodraeth hon yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau a'r cyhoedd yng Nghymru, gan nodi'r cynllun gweithredu a roddir ar waith gennym ar gyfer yr hydref hwn.
Lywydd, nid niwed dros dro fydd y niwed a achosir drwy adael heb gytundeb. Mae'n bygwth difrod systematig difrifol i'n heconomi. Dywed Banc Lloegr y bydd canlyniad o’r fath yn lleihau potensial allforio’r DU, a hynny’n barhaol. Cred y Trysorlys y bydd yn arwain at economi 8 y cant i 10 y cant yn llai ymhen 15 mlynedd na phe baem yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Minette Batters, wedi dweud y byddai’n drychinebus yn gymdeithasol ac yn economaidd i ffermio ym Mhrydain—neges a adleisiwyd dro ar ôl tro dros yr haf pan fynychais sioeau amaethyddol ledled Cymru gyda fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths. Ac mae Make UK, sefydliad y gweithgynhyrchwyr, wedi dweud y byddai'n drychinebus i fwyafrif gweithgynhyrchwyr y DU a bywoliaeth y miliynau o bobl y maent yn eu cyflogi a'u teuluoedd.
Lywydd, nid gor-ddweud yw honni mai’r hyn y mae'r Prif Weinidog hwn a'i Brexit heb gytundeb yn ei fygwth yw dileu haenau cyfan o economi Cymru, gan golli llawer o swyddi medrus ar gyflogau da, yn union fel y gwnaeth Llywodraeth Thatcher yn yr 1980au. Efallai ei fod yn Brif Weinidog sy’n barod i ddiarddel yr Aelod Seneddol sydd wedi gwasanaethu hiraf, ŵyr Winston Churchill, ei berthnasau ei hun o’i blaid, ond ni fydd byth yn gallu cael gwared ar y niwed bwriadol a wnaed i Gymru yn ystod blynyddoedd Thatcher ac y mae bellach yn bygwth ei ail-greu yn ein hamser ni. Gallai'r arafu yn yr economi a achosir gan Brexit heb gyfnod pontio gostio 40,000 i 50,000 o swyddi yng Nghymru yn unig.
A does bosibl, Lywydd, nad y cyfeiliornad mwyaf o Brexit heb gytundeb Boris Johnson yw'r syniad y bydd yn osgoi'r angen am negodi gyda'r Undeb Ewropeaidd. Y diwrnod ar ôl gadael heb gytundeb mewn modd anhrefnus, bydd yr angen am berthynas strategol, gadarnhaol gyda'n marchnad fwyaf ac agosaf yn aros. Mae'r Prif Weinidog yn siarad yn uchel am ddatblygu cytundeb masnach rydd dwfn ac eang. Cyn y gall ef neu unrhyw un o’r eithafwyr Brexit y mae wedi’u casglu o’i gwmpas gamu drwy’r drws hyd yn oed ym Mrwsel, bydd yr Undeb Ewropeaidd yn galw am setlo'r tri mater heb eu datrys yn y cytundeb ymadael a ddiystyrir ganddynt: hawliau dinasyddion, talu ein biliau a’r ffin ar ynys Iwerddon. Bydd gadael ar 31 Hydref heb gytundeb yn gadael gwaddol o gywilydd a chwerwder a fydd yn ei gwneud yn anos byth dod i gytundeb ar y tri mater anosgoadwy hynny.
Felly, mae'n rhaid i ni yn y Siambr hon wrthsefyll Brexit heb gytundeb gyda'n holl nerth. Fel y nododd y Cynulliad hwn yn ôl ym mis Mehefin, rhaid inni gefnogi’r penderfyniad i fynd yn ôl at y bobl, naill ai mewn refferendwm lle byddwn ni, fel Llywodraeth Cymru, yn rhoi ein cefnogaeth lwyr i aros yn yr Undeb Ewropeaidd neu, fel sy'n ymddangos yn debygol bellach, mewn etholiad cyffredinol.