Part of the debate – Senedd Cymru am 1:23 pm ar 5 Medi 2019.
Diolch o galon, Llywydd, a diolch i chi hefyd am gytuno i'r alwad gan y Prif Weinidog ar gyfer yr adalwad yma. A dweud y gwir, mae'n dilyn cynnig tebyg gyda ni yn gynharach yn ystod yr haf, oherwydd roedden ni'n rhagweld bryd hynny y cwrs di-hid oedd yn cael ei ddilyn gan Boris Johnson fel Prif Weinidog. Mae'n sicr yn gyfnod argyfyngus i ni fel cenedl, ac mae yn briodol bod ein Senedd genedlaethol yn cwrdd ar adeg fel hyn i leisio barn ar ran pobl Cymru.