Part of the debate – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 5 Medi 2019.
Hoffwn dynnu sylw at yr eglurhad a roddodd Mark Reckless am bwynt 1 yn ei gynnig, lle dywedodd fod y feirniadaeth ynglŷn â natur ddiduedd llywydd y ddeddfwrfa wedi'i hanelu at Lefarydd Tŷ'r Cyffredin. Buaswn i'n dweud, gadewch i ni fod yn gwbl glir fod y Dirprwy Lywydd a'r Llywydd yn gweithredu'n amhleidiol yn y Siambr hon, yma a thu allan i'r Siambr yn y cyfarfodydd a gawn gyda hwy. Credaf ei bod yn werth gwneud hynny'n glir.
Yr araith a wnaeth Neil McEvoy, sydd bellach wedi gadael—. Dywedodd Neil McEvoy nad yw'n warth cyfansoddiadol ond ei bod yn waradwyddus fod y cyfansoddiad yn dibynnu ar uniondeb Prif Weinidog y dydd. Yn wir, defnyddiais yr un termau bron yn y grŵp Llafur y bore yma pan ddisgrifiais sut y teimlwn am y cyfansoddiad. Mae'n wendid yng nghyfansoddiad y DU, a chredaf fod hynny wedi'i adlewyrchu yn y geiriau a ddefnyddiodd Mark Reckless yn ogystal am Dŷ'r Cyffredin: cyfansoddiad gwan yw hwn, ac yn wir, cyfansoddiad sy'n methu. A buaswn yn dweud y byddem yn dod o hyd i atebion gwahanol i'r cyfansoddiad diffygiol hwnnw mae'n debyg, ond serch hynny rwy'n credu ein bod bellach yn cytuno ar draws y Siambr hon fod angen i gyfansoddiad y DU newid.
Buaswn yn dweud bod arnom angen cyfansoddiad ysgrifenedig wedi'i godio yn y wlad hon sy'n amlwg yn gwahanu pŵer y weithrediaeth a phŵer seneddol ac sydd hefyd yn dilyn egwyddor sybsidiaredd. Mae egwyddor sybsidiaredd yn awgrymu bod pŵer yn cael ei ddatganoli i'r lefel fwyaf priodol i natur y penderfyniad sy'n cael ei wneud. Mae'n berffaith bosibl drwy gonsensws trawsbleidiol i sicrhau argymhelliad a fyddai'n cyflawni'r amcan hwnnw. Ond buaswn yn dweud nad refferendwm yw'r allwedd i ddatgloi'r diwygio cyfansoddiadol hwnnw. Rwyf wedi siarad yn faith yn y Siambr hon am fy ngwrthwynebiad i'r egwyddor o refferenda nad ydynt prin byth yn ddemocrataidd, ac rwy'n tynnu sylw'r Siambr at araith a wnaed gan Bernard Jenkin AS, un yr ystyrir ei fod yn un o brif gefnogwyr Brexit. Dywedodd yn y Senedd ddydd Mercher,
Mae chwerwder y dadleuon heno yn adlewyrchu methiant ein cyd-ddealltwriaeth ynglŷn â pha fandad sy'n gyfreithlon: y cynrychioliadol neu'r uniongyrchol. Mae gennym gyfansoddiad yn awr sy'n cynnwys syniadau am gyfreithlondeb sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd, ac oni chefnwn ar refferenda, dylai'r Tŷ hwn fod yn barod i weithredu penderfyniadau poblogaidd nad yw'n eu hoffi, ond mae wedi dangos peth amharodrwydd i wneud hynny.
Buaswn yn dadlau bod yr amser ar gyfer refferenda yn dod i ben. Ni allwn weld rhagor o refferenda yn y wlad hon heb rannu'r wlad mewn modd na ellir ei wrthdroi. Ac felly, beth a wnawn yn lle hynny? Wel, yr allwedd, yn fy marn i, i ddatgloi diwygio cyfansoddiadol yw diwygio etholiadol, a chyn y gallwn wneud unrhyw beth pellach gyda newid cyfansoddiadol, credaf fod angen diwygio etholiadol o'r gwraidd i'r brig yma yn y Senedd hon ac yn San Steffan. Rwy'n credu mai dyna'r allwedd sylfaenol i newid cyfansoddiad y wlad heb orfod cynnal refferendwm. Byddai system etholiadol gwbl gyfrannol yn ei gwneud yn ofynnol i fwy nag un blaid hyrwyddo newid cyfansoddiadol y gallant gytuno yn ei gylch, ac yn wir, byddai'n rhaid i'r pleidiau hynny gydweithio wedyn i'w gyflawni. Credaf y bydd y system honno o ddiwygio etholiadol yn caniatáu ac yn cyflawni hynny. Ond gyda'i alwad am refferendwm, nid dyna y mae gwelliant Plaid Cymru yn ceisio ei wneud, a dyna pam na fyddaf yn cefnogi'r gwelliant hwnnw gan Blaid Cymru.