Part of the debate – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 5 Medi 2019.
Mae'n bwysig heddiw i ni egluro pa mor beryglus a gwrthun oedd gweithred Johnson i atal Senedd San Steffan rhag trafod mewn cyfnod mor argyfyngus, ac mae'n bwysig i ni ddweud pa mor niweidiol i Gymru ydy 'no deal', ond mae modd i ni wneud mwy na lleisio barn yn unig gan fod cyfle hefyd heddiw i drafod ffordd ymlaen drwy'r dryswch. Dwi'n credu bod cyfrifoldeb ar arweinwyr gwleidyddol i gynnig gobaith, i arwain trafodaeth, ac, yn y cyd-destun presennol, mae hynny'n golygu annog ein cydwladwyr i ystyried o ddifri sut ddyfodol sydd orau i gymunedau Cymru. Does dim dwywaith fod Brexit, a Brexit di-gytundeb yn enwedig, yn cael ei yrru gan ideoleg benodol sy’n codi o fath ddinistriol o genedlaetholdeb cul, asgell dde, breintiedig. Mae angen trechu’r ideoleg yma sy’n sathru pawb a phopeth ddaw yn ei ffordd. Ond mae hi’n bwysig cofio nad oedd pawb a bleidleisiodd dros Brexit yn cael eu gyrru'r ideoleg honno. Roedd gweithred cymaint o’n cydwladwyr ni yn ein cymunedau tlotaf wrth bleidleisio dros Brexit yn weithred yn codi o rwystredigaeth, yn codi o deimlad o annhegwch dwfn, yn waedd yn erbyn tlodi a theimlo’n ddiymadferth. Fe addawyd y byddai bywyd yn well gyda Brexit, ond yn raddol mae’r freuddwyd yn cael ei dryllio, ac mae mwy a mwy yn sylweddoli mai celwydd oedd y cwbl. A gyda’r sylweddoliad, daw’r teimlad o fod yn ddiymadferth unwaith eto, ac mae’n rhaid i ni ochel rhag hynny.
Mae dyletswydd arnom ni, gynrychiolwyr etholedig ein pobl, i beidio â gadael i anobaith gymryd gafael. Felly, dwi’n credu bod dau ddewis yn ein hwynebu ni fel seneddwyr. Fe fedrwn ni gladdu ein pennau yn y tywod a gobeithio, drwy ryw ryfedd wyrth, fod ffordd ymlaen o fewn y gyfundrefn gyfansoddiadol anghyfartal, doredig bresennol, neu fe fedrwn ni wynebu realiti. Y realiti hwnnw ydy bod yn rhaid i bethau newid. Dwi yn digwydd credu mai annibyniaeth i Gymru—cymryd yr awenau ein hunain a phenderfynu ein tynged ein hunain—ydy’r ffordd orau ymlaen. Rydych chi’n gwybod hynny. Rydych chi’n gwybod mai dyna ydy fy marn i. Ond edrychwch ar welliant 4. Dydy pleidleisio dros welliant 4 ddim yn ymrwymo Cymru i annibyniaeth, wrth gwrs. Beth mae’r gwelliant yn ei wneud ydy ein hymrwymo ni a phobl Cymru i feddwl o ddifri am ein dyfodol cyfansoddiadol ac yna dod ag opsiynau gerbron pobl Cymru. Dwi’n deall beth sydd gan Hefin i’w ddweud ynglŷn â refferenda, ond mae’n rhaid ffeindio ffordd o ddod ag opsiynau o flaen pobl Cymru.
Mae gwelliant 4 yn cynnig llwybr clir ymlaen: cynnal trafodaeth synhwyrol fydd yn adlewyrchu ac yn dod ynghyd yr amrediad gwahanol o safbwyntiau ar sut mae’n rhaid i ddemocratiaeth Cymru esblygu, a dyletswydd Llywodraeth, a neb arall, ydy arwain y gwaith. Rŵan, fydd y confensiwn ei hun ddim yn newid dim byd, wrth gwrs, ond gall ei gasgliadau greu newid a chreu gobaith am ddyfodol gwell. Nid siop siarad sydd ei angen, a dyna pam mae ein gwelliant ni’n cynnig mynd ag opsiynau manwl at ein pobl ar ddiwedd y trafod. Dewch i ni ystyried a dewch i ni gynnig gobaith i bawb, gan gynnwys y rhai yn ein cymunedau tlotaf, fel nad ydyn nhw’n mynd yn ôl i deimlo’n ddiymadferth a rhwystredig. A pha well ymateb gan Senedd Cymru i weithredoedd byrbwyll Johnson na rhoi cychwyn ar drafodaeth ystyriol a gobeithiol efo’n pobl am ddyfodol ein gwlad?