Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 5 Medi 2019.
Fel y gallwch chi ei ddychmygu, dwi wedi bod yn treulio'r haf yn teithio o gwmpas y sioeau amaethyddol a dwi wedi bod yn gwrando ar beth mae pobl yn ei ddweud a dwi wedi clywed y neges yn glir gan amaethwyr a phobl sy'n byw yng nghefn gwlad yn enwedig: mae nifer wedi pleidleisio dros adael dair blynedd yn ôl, ond mae llawer iawn o'r rheini nawr, o weld beth mae hynny'n ei olygu, ac yn enwedig o weld yr hyn sydd o'u blaenau nhw drwy Brexit heb gytundeb, wedi newid eu meddwl.
Maen nhw'n sôn yn gyson am bwysigrwydd allforio. Naw deg y cant o'r cig oen sy'n cael ei allforio—dŷn ni wedi clywed hyn, wrth gwrs—yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd. Saith deg dau y cant o holl allforion bwyd a diod Cymru'n mynd i'r Undeb Ewropeaidd, ac mae sicrhau mynediad di-dariff, dilyffethair i'r marchnadoedd hynny, y farchnad agosaf sydd gennym ni, y farchnad bwysicach a mwyaf gwerthfawr sydd gennym ni—500 miliwn o gwsmeriaid—mae amddiffyn mynediad i'r farchnad honno'n gorfod bod yn flaenoriaeth a dim byd arall.
Mae'r undebau amaeth, dwi'n gwybod, wedi dweud wrth bob un ohonoch chi sydd wedi ymweld â nhw yn y sioeau dros yr haf beth fyddai goblygiadau symud i dermau WTO: y tariffau ar gig oen, 46 y cant; rhwng 48 a hyd yn oed 84 y cant ar gig eidion. Mae ffermwyr, wrth gwrs, yn awyddus i gynnal a chadw'r safonau uchel o safbwynt lles anifeiliaid ac amgylcheddol maen nhw'n eu harddel ar hyn o bryd ac y byddai'n rhaid iddyn nhw barhau i'w harddel, wrth gwrs, petai nhw eisiau amddiffyn mynediad i'r farchnad Ewropeaidd, ond tra bo Boris Johnson yn cwyno am bobl yn torri ei goesau oddi tano fe yn y trafodaethau Brexit, mi fyddai ffermwyr Cymru'n cael eu coesau wedi torri oddi tanyn nhw hefyd wrth weld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dod i gytundebau masnach gyda'r Unol Daleithiau, er enghraifft, fyddai ddim, mae'n debyg, yn cwrdd â'r un safonau, ac mi fyddai hynny'n ergyd ddwbl i'n ffermwyr ni. A chofiwch fod pob punt sy'n mynd i ffermwyr Cymru o'r pwrs cyhoeddus yn cynhyrchu £7. Felly, dychmygwch am bob punt fydd yn cael ei golli faint o golled fydd hynny i'n cymunedau gwledig ni. Mae'r AHDB, wrth gwrs, wedi modelu nifer o senarios Brexit.