1. Dadl: Brexit ac Addoedi Senedd y DU

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 5 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:53, 5 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, gwyn fyd y rhai nad ydynt yn disgwyl dim gan na chânt eu siomi, ac nid oeddwn yn disgwyl clywed unrhyw ddadleuon newydd heddiw gan y penboethiaid 'aros' sydd wedi cyflwyno'r ddadl. Cawsom alargan huawdl gan David Melding, y teimlwn ei bod yn effeithiol iawn ac ymdriniaeth gyfansoddiadol ddiddorol gan Hefin David. Ond fel arall, rydym wedi mynd o gwmpas yr un cwrs ag y gwnaethom lawer, lawer gwaith o'r blaen, ac felly, efallai mai'r hyn y mae'r Cynulliad hwn wedi bod yn ei wneud heddiw yw'r hyn a wna orau, yn sicr mewn perthynas â Brexit, sef ystumio'n ddibwrpas a rhoi sglein ar ei gredoau gwrth-ddemocrataidd.  

Y gwir plaen amdani yw bod 53 y cant o bobl Cymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn ddiamod yn 2016, ond mae 100 y cant o'r Aelodau Llafur, Aelodau Plaid Cymru a'r unig Ddemocrat Rhyddfrydol, wrth gwrs, yn gefnogwyr 'aros'. Mae diffyg cysylltiad rhwng y bobl a'r Cynulliad hwn, fel sydd yn San Steffan yn wir. Roeddwn yn meddwl bod arweinydd Plaid Cymru wedi tanseilio ei ddadl ei hun drwy'r ormodiaith hurt a ddefnyddiodd, yn cymharu Boris Johnson ag Oswald Mosley, ac ati. Soniodd am ddirmyg Boris Johnson tuag at ddemocratiaeth. Credaf mai'r dirmyg mwyaf yw dirmyg ei blaid a'r Blaid Lafur tuag at benderfyniad pobl Prydain, a oedd yn eithaf diamwys, dair blynedd yn ôl—neu dros dair blynedd yn ôl bellach. Yn sicr mae'n afrealistig cyhuddo'r Prif Weinidog o fod yn unben ag yntau wedi dweud ei fod am gael etholiad cyffredinol i ddod o hyd i ffordd drwy'r cyfyngder. Nid yw unbeniaid fel arfer yn galw am etholiadau y gallent hwy eu hunain yn hawdd eu colli.

Nawr, mae'r cyfnod o amser y dadleuwyd yn ei gylch heddiw pan fyddai'r Senedd wedi'i haddoedi, yn ôl yr hyn a ddywedir, yn golygu ein bod yn cael gwared ar gyfle i graffu, ond gwyddom mai'r gwir amdani yw bod yr holl graffu ar yr holl ddadleuon wedi'i wneud ar y ddwy ochr lawer, lawer gwaith. Nid oes a wnelo hyn â chraffu seneddol o gwbl. Mae'n ymwneud yn llwyr â phenderfyniad gwrth-ddemocrataidd doed a ddêl y rhai sydd am aros i wrthsefyll ewyllys y bobl yn y refferendwm, a'r broblem fawr sydd gennym yn awr, y broblem gyfansoddiadol fawr sydd gennym yn awr, yw bod gennym Senedd 'aros' yn erbyn pobl sydd am 'adael'. Mae'r Cynulliad hwn yn fwy fyth o Senedd 'aros' yn erbyn pobl sydd am 'adael' am fod 53 y cant o bobl Cymru, yn union fel Lloegr, wedi pleidleisio dros adael, ond yn y fan hon, mae'r mwyafrif sydd dros 'aros' hyd yn oed yn fwy nag yn San Steffan. Felly, mae'n hen bryd cael etholiad cyffredinol. Mae arnom angen etholiad cyffredinol yn San Steffan i ysgubo carthffosydd y gweddillion gwrth-ddemocrataidd sy'n blocio'r system, oherwydd bydd yr etholiad cyffredinol hwnnw'n ymwneud ag un peth ac un peth yn unig, sef y Senedd yn erbyn pobl y wlad hon. Rwy'n credu nad oes gwobrau am ddyfalu beth fydd canlyniad hynny.

Pan bleidleisiodd ASau o blaid cychwyn erthygl 50, roeddent i gyd yn gwybod beth oeddent yn ei wneud, ac roedd hynny'n cynnwys pleidleisio dros adael heb gytundeb os na ellid cytuno ar gytundeb. Nawr, credaf y gellid bod wedi cytuno ar gytundeb pe bai gennym Lywodraeth â safbwynt negodi credadwy, ond cafodd hwnnw ei danseilio bob cam o'r ffordd gan y penboethiaid 'aros' a oedd eisiau i adael heb gytundeb gael ei dynnu oddi ar y bwrdd, yn cynnwys Canghellor y Trysorlys a'r Ysgrifennydd busnes a hanner y Cabinet, a'r Prif Weinidog ar y pryd, Theresa May, a oedd yn gyson amhendant, heb fod yn credu yn yr hyn roedd hi'n ei wneud. O dan yr amgylchiadau hynny, ni allai'r un Llywodraeth Brydeinig fod wedi llwyddo i gwblhau cytundeb a fyddai'n dderbyniol i'r rhai oedd yn cefnogi Brexit. Hyd nes y ffurfiodd Boris Johnson lywodraeth newydd, y gwir amdani yw bod gennym Lywodraeth o ddifrodwyr. Gwnaeth Philip Hammond a Greg Clark yn arbennig bopeth a allent i danseilio'r broses negodi ac yn wir i rwystro Brexit y pleidleisiodd pobl Prydain drosto. Roedd gennym y Prif Weinidog mwyaf anobeithiol ers yr Arglwydd North, fel y dywedais o'r blaen. I bob pwrpas, roedd ganddi strategaeth i'n cadw yn yr UE, a chrëwyd yr awyrgylch o argyfwng sydd gennym yn awr gan ei diffyg penderfyniad, ac mae gwn wrth ein pennau bellach. Rwy'n cytuno â Mark Reckless. Nid oeddem am fod mewn sefyllfa lle na cheir cytundeb. Wrth gwrs, mae cael cytundeb o fudd i bawb—cytundeb masnach rydd. Dyna beth oedd y cyfnod o ddwy flynedd y mae erthygl 50 yn ei ddarparu i fod i'w gyflawni. Ond oherwydd anhyblygrwydd yr UE, fel y nododd Yanis Varoufakis, Gweinidog cyllid Gwlad Groeg, yn fanwl iawn yn ei lyfr gwych, Adults in the Room, gan ei fod wedi gweld y cyfan o safbwynt Gwlad Groeg, roedd y drefn a orfodwyd gan yr UE yn union fel y gwnaethant i Wlad Groeg, gwlad y mae'r UE wedi gorfodi llymder digynsail arni, lle gwelwyd dirywiad o draean yng nghynnyrch gwladol gros Gwlad Groeg. Nawr, dyna gyni gwirioneddol yn lle'r cyni ffug y clywn amdano'n aml yn y Siambr hon.

Y gwir amdani yw bod y penboethiaid 'aros' yn credu y dylai pobl Prydain ddal i bleidleisio nes iddynt roi'r hyn y maent am ei gael iddynt. Mae hyn yn draddodiadol iawn yn yr UE. Rydym wedi cael refferenda yn Nenmarc, yn yr Iseldiroedd, yn Iwerddon ddwywaith ac yn Ffrainc, ac yng ngeiriau anfarwol Monsieur Juncker—fe ildiaf os yw'r Llywydd yn caniatáu hynny—'os yw'n "ie"'—ac roedd hyn yn ymwneud â refferendwm Ffrainc—'os yw'n "ie", ymlaen â ni, ac os yw'n "na", fe wnawn ni barhau.'

Fe ildiaf i'r cyn-Brif Weinidog.