Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 5 Medi 2019.
Dyfyniadau bachog, sbin, celwyddau, dadleuon di-drefn, protestiadau, sloganau ar fysiau, addewidion wedi'u torri, ASau sy'n hanner gorwedd, ci cwtsh i dynnu sylw. Beth bynnag y bo, mae'n debyg o fod wedi digwydd yn ystod drama Brexit. Byddai'n sicr o roi dau dro am un i The Thick of It, beth bynnag. Ond mae sbin arwynebol a chwarae gemau'n un peth ym myd dirmygus y Senedd yn San Steffan sy'n llawn asbestos, ac mae realiti noeth yr hunan-niwed economaidd sy'n cael ei achosi gan gefnogwyr Brexit caled heb gytundeb yn fater arall yn gyfan gwbl ac yn un y dylem ochel rhag ei anwybyddu.
Roeddwn ychydig yn amheus ynglŷn â beth y gallai'r ddadl hon yma heddiw ei gyflawni pan glywais gyntaf ein bod yn cael ein had-alw. Yn union fel y gallai Greta Thunberg 16 oed fod wedi meddwl na fyddai ganddi unrhyw bŵer i wneud newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth fyd-eang pan ddechreuodd ei hymgyrch streic ysgol, efallai y byddwn ninnau hefyd yn meddwl nad oes gennym bŵer i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU yn hinsawdd wenwynig y wleidyddiaeth sydd ohoni ar hyn o bryd. Ond rydym yn gwneud cam â ni ein hunain os dechreuwn feddwl felly, ac rydym yn gwneud anghymwynas â'n hunain a'n rolau fel gwleidyddion etholedig yng Nghymru hefyd. Wedi'r cyfan, cyflwynasom y gwaharddiad ar ysmygu cyn y gallem ei weithredu'n gyfreithiol, fel safiad moesol, i ddangos beth oeddem yn barod i'w wneud pe bai'r pwerau hynny gennym ar flaen ein bysedd. Rydym wedi gwneud datganiadau o undod, fel y crybwyllwyd yn gynharach, gyda chenhedloedd eraill sy'n wynebu gwrthdaro a chythrwfl, ac wedi anfon staff meddygol i helpu'r rhai a glwyfwyd ym Mhalesteina. Os dychmygwn y gallwn fod yn ddigon cryf i wneud newidiadau, yn union fel y gwnaeth Greta, ac fel y mae'n dal i wneud, gallwn ninnau wneud hynny hefyd. Efallai nad ydym yn Senedd eto ar blac y tu allan i risiau'r Senedd, ond gallwn fod yn Senedd o ran ein gweithredoedd, ac yn y ffordd rydym yn cyfleu ein negeseuon i'r byd, ac yn yr ysbryd hwn yr ysgrifennais yr hyn roeddwn am ei ddweud heddiw.
Y diwrnod ar ôl canlyniad y refferendwm Brexit, ar wahân i sioc wrth ddeall y canlyniad, fel y rhan fwyaf ar y ddwy ochr, rwy'n dychmygu, fe ddeffrais i newyddion ynglŷn â sut y byddai Brexit yn effeithio ar Iwerddon a gogledd Iwerddon—ei phobl, ei ffiniau, ei heconomi a'i heddwch. Prin y gwelais unrhyw ran o'r ddadl hon yn ystod refferendwm Brexit ei hun. Roedd yr hyn a ddarllenais yn bethau y chwiliais yn ddygn amdanynt, fel merch i ddynes o'r Falls Road a oedd wedi byw drwy'r Trafferthion. Roeddwn i'n meddwl tybed pam nad oedd hyn yn uwch ar yr agenda wleidyddol. Wedi'r cyfan, os oedd Brexit yn mynd i daro rhywle'n galed, yn y fan honno y byddai'n gwneud hynny. Y diwrnod wedyn, roedd hi'n ymddangos bod pawb yn cydnabod pa mor anodd fyddai dod o hyd i ateb yno, a gallai camgymeriad neu dorri cytundeb arwain at fywydau a chymunedau toredig. Un peth yw i ba raddau y gwyddom am fanylion cytundeb Gwener y Groglith—ac nid wyf yn credu bod llawer yn Llywodraeth y DU yn gwybod llawer amdano—ond yr hyn y dylem oll ei wybod yn y Siambr hon yma heddiw yw pa mor drychinebus y byddai Brexit heb gytundeb i Iwerddon, a sut y bydd yn effeithio nid yn unig arnynt hwy, ond ar bob un ohonom yma yn y Siambr hon.
Mae gwleidyddion yn yr Unol Daleithiau eisoes wedi dweud na fyddent yn cefnogi cytundeb masnach UDA-DU pe bai telerau cytundeb Gwener y Groglith yn cael eu tanseilio—cytundeb sydd, mae'n siŵr, yn anhepgor i Boris a'i dîm os ydynt o ddifrif am gynnal yr hyn a elwir yn 'berthynas arbennig' â' r Unol Daleithiau. Mae'n rhaid eu bod yn gwybod pa mor ddwfn yw'r cysylltiadau rhwng cymunedau o bobl yn Iwerddon a'r Unol Daleithiau, y rôl annatod a chwaraeodd y Seneddwr George Mitchell ac eraill yn y trafodaethau pan oedd y Trafferthion ar eu hanterth. Ni fyddant fodlon gweld ffin galed Brexit heb gytundeb yn cael ei ffurfio.
A ydym hefyd yn credu na fydd y gymuned ehangach yn y byd yn ymateb os gwelir bod y DU yn anwybyddu ac yn diystyru'r cytundeb rhyngwladol hwn i'r fath raddau? Ofnaf fod y lleiafrif sydd am adael heb gytundeb na bargen doed a ddêl yn dod yn beryglus o agos i weithredoedd a fydd nid yn unig yn achosi niwed sylweddol i'n heconomi, ond hefyd i enw da'r DU y maent yn honni eu bod am ei ddiogelu. A ydynt o ddifrif eisiau pwyso'r botwm ar Brexit heb gytundeb a rhyddhau pwerau dieflig yn y wlad hon, yn enwedig yng ngogledd Iwerddon, na fyddwn yn sicr y gallwn eu rheoli'n hawdd?
Yn y wlad hon, rydym yn sôn yn rhy ysgafn am ryfel a thrais. Rydym yn coffáu'r rhai a ymladdodd mewn rhyfeloedd nad yw'r rhan fwyaf ohonom hyd yn oed yn eu cofio. Ond yng ngogledd Iwerddon, nid troednodyn i'r gorffennol yw trais. Mae llinellau heddwch yn dal i fodoli. Mae ymosodiadau'n dal i ddigwydd, fel gyda Lyra McKee, y newyddiadurwraig ifanc a gafodd ei saethu yn Belfast yn ddiweddar. Mae cefnogwyr Brexit heb gytundeb yn ddall ac yn hollol anghyfrifol i fod mor ddi-hid, pan fo heddwch mor fregus ar garreg ein drws.
Dyma baragraff byr a gefais gan fy mam, a symudodd i Gymru i ddianc rhag y trais a'r helynt ar strydoedd Belfast, pan ddywedais y byddwn yn siarad yma heddiw:
Fel plentyn a pherson ifanc yn fy arddegau, roedd tyfu fyny yn Belfast yn anodd. Bob dydd, gwelem saethu/ bomiau/ herwgipio/ chwiliadau. Ni châi llawer o hyn sylw ar y tir mawr. Nid oedd unrhyw deulu'n rhydd rhagddo a dioddefodd pob un ohonom ein trychinebau ein hunain.
Pan gafodd Bombay Street yn y Falls isaf ei rhoi ar dân gan deyrngarwyr, daeth y bobl i fod yn ffoaduriaid yn eu dinas eu hunain.
Rwy'n cofio eu helpu yn y canolfannau hamdden lle cawsant eu hadleoli, nes gallu dod o hyd i lety. Am wythnosau roedd gwrthgloddiau ar y ddau ben i'r stryd lle roeddwn i'n byw, a phreswylwyr yn cysgu ar y llawr, yn ofni rhagor o ymosodiadau.
Dyma'r realiti i'r bobl yng Ngogledd Iwerddon. Roedd pawb yn byw ar eu nerfau. Roedd rhieni'n poeni am eu plant, ac roedd lefelau recriwtio i grwpiau paramilwrol ar eu hanterth.
Nid oedd y rhan fwyaf o Gatholigion erioed wedi cyfarfod â Phrotestant ac i'r gwrthwyneb. Roedd anwybodaeth yn tanio anghytundeb.
Gyda chytundeb Gwener y Groglith, cafwyd awyrgylch newydd o obaith, wrth i hawl pobl Gatholig yn y gogledd i gael eu hystyried yn gydradd â'r gymuned deyrngarol gael ei chydnabod fel nod cyfreithlon.
Nid yw fy nghenhedlaeth i, sydd bellach yn eu 60au a'u 70au, yn dymuno gweld y lle'n dychwelyd i ddyddiau'r trafferthion. Rydym yn teimlo'n ddig wrth glywed sôn am gael ffin unwaith eto.
Ceir nifer gynyddol o bobl ifanc anfodlon, nad ydynt erioed wedi cael profiad o'r trafferthion, ac sy'n barod i ymgymryd â'r frwydr. Efallai mai ychydig yw'r nifer yn awr, ond gyda ffin i galedu calonnau a meddyliau, mae'n bosibl iawn y bydd y nifer yn tyfu.
Beth bynnag sy'n digwydd, ni ddylai heddwch yng Ngogledd Iwerddon fod yn elfen fargeinio yng nghynllun mawreddog Boris Johnson.
Pwy sy'n mynd i siarad dros bobl Gogledd Iwerddon?
Pwy sy'n mynd i hyrwyddo eu hachos?
A ydym am sefyll o'r neilltu a gwylio Iwerddon yn llithro i argyfwng sectyddol eto?
Mae angen i ni amddiffyn, a sefyll dros ein hawliau fel Ewropeaid a dinasyddion Iwerddon.
Dylem wrando ar ei geiriau hi ac eraill tebyg iddi. Nid ydym yn byw mewn gwagle. Bydd Brexit, wrth gwrs, yn effeithio ar Gymru'n uniongyrchol—ac mae fy nghyd-Aelodau wedi dweud hynny'n huawdl yma heddiw—a'r bywydau rydym yn eu byw yma yng Nghymru. Ond gadewch i ni beidio â thanamcangyfrif sut y gallai Brexit heb gytundeb newid bywydau pobl am byth yn agos at adref—yn nes at adref nag y gallwn byth ei ddychmygu.
Felly, gadewch inni beidio â sefyll o'r neilltu a gadael i hyn ddigwydd, a sefyll, siarad yn gadarn, a dweud wrth y byd na ddylai hyn ddigwydd.