Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 5 Medi 2019.
Ac mae diogelwch yn fwy na hynny, hefyd, fel roedd Dr Dai Lloyd yn sôn—diogelwch i bobl lle mae'n rhaid iddyn nhw gael triniaeth, lle na fydd y feddyginiaeth ar gael. Pobl yn mynd heb dabledi. Dyna beth rŷm ni'n siarad amdano pan fyddwn ni'n sôn am ddiogelwch yn y dyfodol.