9. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:55 pm ar 17 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:55, 17 Medi 2019

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n falch iawn o gael cyfrannu at y ddadl yma er mwyn amlinellu argymhellion y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas, wrth gwrs, â goblygiadau ariannol y Bil sydd gennym ni dan sylw y prynhawn yma. Rŷn ni wedi gwneud, fel pwyllgor, naw o argymhellion i gyd ac rwy’n falch bod y Dirprwy Weinidog, wrth gwrs, wedi derbyn saith o’r rheini yn llawn ac wedi derbyn dau arall mewn egwyddor. Ac mi wnaf i ganolbwyntio, yn fy nghyfraniad i heno, ar ein canfyddiadau allweddol ni o blith y rheini.

Mae’r rhan fwyaf o gostau’r Bil, wrth gwrs, yn gysylltiedig â gwaith codi ymwybyddiaeth gan Lywodraeth Cymru. Yn ystod y sesiynau tystiolaeth, fe wnaethon ni glywed bod deddfwriaeth debyg yn cael ei hystyried gan Senedd yr Alban, ac yn wahanol i ddull Llywodraeth Cymru, mae Bil yr Alban yn rhoi dyletswydd ar wyneb y Bil sy’n ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion yr Alban godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o effaith y Bil. Nawr, o ystyried y bydd yr ymgyrch yn hanfodol o ran gweithredu’r Bil, rŷn ni’n credu y dylid defnyddio’r un dull yng Nghymru. A dwi'n falch iawn nawr, wrth gwrs, fod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn ein hargymhelliad cyntaf ac argymhelliad tebyg gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac y bydd yn cyflwyno gwelliant i’r perwyl hwnnw.

Rŷn ni hefyd yn falch o glywed bod y Dirprwy Weinidog wedi rhoi ei chymeradwyaeth ar gyfer ymgyrch ddwys, gan ddyrannu oddeutu £2.2 miliwn dros gyfnod o tua chwe blynedd, ac y bydd yn cyhoeddi rhagor o fanylion am yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth, yn benodol sut y mae'n bwriadu cyrraedd unigolion perthnasol. Rŷn ni’n edrych ymlaen at weld y wybodaeth hon yn cael ei chynnwys, wrth gwrs, mewn memorandwm esboniadol diwygiedig ar ddiwedd Cyfnod 2.

Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, fe glywon ni nad oedd y costau i'r gwasanaethau cymdeithasol yn hysbys ar hyn o bryd oherwydd diffyg data sylfaenol. Nawr, gan fod yr amddiffyniad cosb resymol eisoes yn bodoli, dyw gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ddim yn casglu gwybodaeth benodol am gosb gorfforol. O ystyried y cyfnod hir ar gyfer datblygu’r Bil hwn, rŷn ni yn credu y dylai mwy o gynnydd fod wedi cael ei wneud o ran pennu cost sylfaenol ar gyfer atgyfeiriadau i wasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, rŷn ni yn falch bod y Dirprwy Weinidog wedi cytuno i flaenoriaethu'r gwaith hwn a bod swyddogion Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio gydag awdurdodau lleol i geisio cael amcangyfrif o nifer yr atgyfeiriadau cyfredol i wasanaethau cymdeithasol.

Nawr, fe amcangyfrifir ei bod hi'n debygol y bydd rhyw 274 o atgyfeiriadau y flwyddyn i’r heddlu mewn perthynas â diddymu’r amddiffyniad, a bod yna gost fesul uned o £650, sy'n rhoi cyfanswm cost, felly, o £178,000. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud y byddai nifer yr achosion sy'n arwain at erlyniad yn lleihau dros amser o ganlyniad i'r ymgyrch ymwybyddiaeth. Mi ddywedodd y Dirprwy Weinidog wrthym ni hefyd y byddai erlyniadau yn digwydd dim ond os yw hynny er budd y cyhoedd ac er budd y plentyn, ac yr hoffai drafod atebion cymunedol megis cynlluniau dargyfeirio a rhai o'r materion gododd Leanne Wood yn gynharach. Rŷn ni'n falch ei bod hi wedi derbyn argymhelliad 5 gan y Pwyllgor Cyllid a bod gwaith yn cael ei wneud o ran y goblygiadau cost ar gyfer cynlluniau dargyfeirio.

Rŷn ni hefyd yn falch bod y Dirprwy Weinidog wedi cytuno ar argymhelliad 6 ac y bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i ddarparu data sy'n dangos cysylltiad clir rhwng nifer yr achosion a gaiff eu hatgyfeirio i’r heddlu a nifer yr erlyniadau sy'n dod, wedyn, yn sgil hynny.

Dwi am gloi jest wrth sôn ychydig am y grŵp gweithredu. Mae’n ymddangos fel pe bai gan y grŵp gweithredu rôl allweddol i'w chwarae wrth asesu'r gweithgareddau sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r Bil yn llwyddiannus. Fodd bynnag, dyw’r asesiad effaith rheoleiddiol ddim yn cynnwys costau adnoddau’r grŵp. Mae’r pwyllgor yn credu bod yr amser y bydd gweithwyr proffesiynol yn ei dreulio fel aelodau o’r grŵp hwn yn gost cyfle—an opportunity cost—ac felly fod yn rhaid i’r grŵp gynnig gwerth am arian. Rŷn ni'n falch, felly, fod y Dirprwy Weinidog wedi cytuno ar argymhelliad 8 ac y bydd yn cyhoeddi cynllun gwaith lefel uchel ar gyfer y grŵp gweithredu. Ac felly, gyda hynny o sylwadau, gaf i ddiolch i chi am eich gwrandawiad?