Mawrth, 17 Medi 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Cyn galw'r Prif Weinidog, dwi eisiau hysbysu'r Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi.
Felly, cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Rees.
1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru? OAQ54303
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyllid ychwanegol a ddarparwyd yn ddiweddar i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU? OAQ54326
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar yr M4 yn ardal Abertawe? OAQ54294
4. Pa gynlluniau wrth gefn ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ar gyfer pobl Islwyn yn dilyn cyhoeddi'r ddogfen Operation Yellowhammer? OAQ54347
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch lefelau nitrogen deuocsid ar hyd coridor yr A470 yng Nghanol De Cymru? OAQ54316
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad y gwasanaethau a ddarperir gan Trafnidiaeth Cymru? OAQ54313
7. Pa gamau sydd ar waith i atal treth gyngor ychwanegol ar ail gartrefi rhag cael ei hosgoi? OAQ54350
Gymaint â dwi eisiau ymuno yn y drafodaeth yna, mi ofynnaf i fy nghwestiwn i.
Diolch i'r Prif Weinidog. Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan...
1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gais diweddar Llywodraeth Cymru i'r Uchel Lys i ymyrryd mewn camau cyfreithiol yng nghyswllt addoediad? OAQ54312
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'i gyd-aelodau Cabinet ynghylch datblygu cynigion deddfwriaethol i sicrhau gostyngiadau mewn allyriadau cerbydau? OAQ54325
4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y gost i'r trethdalwr yn sgil Llywodraeth Cymru'n ymuno â'r achos aflwyddiannus yn yr Uchel Lys mewn perthynas ag addoediad? OAQ54307
5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ar ddyfodol pwerau datganoledig yng Nghymru? OAQ54314
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.
Yr eitem nesaf, wedyn, yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar wella sicrwydd deiliadaeth. A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James.
Cafodd eitem 5, sef datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Gynllun Gwên - 10 mlynedd o wella iechyd y geg plant yng Nghymru, ei chyhoeddi ar ffurf datganiad ysgrifenedig.
Felly, rydym ni am symud at eitem 6, sef datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynglŷn â goblygiadau Cylch Gwario 2019 Llywodraeth y DU i Gymru. Rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid...
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, y wybodaeth ddiweddaraf am Brexit a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3 a 7 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 4, 5 a 6 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Sy'n dod â ni at y ddadl olaf, a'r ddadl hynny ar egwyddorion cyffredinol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau...
Eitem 10 ar ein hagenda yw cynnig i dderbyn y penderfyniad ariannol sy'n ymwneud â'r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau...
Daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, byddaf yn symud ymlaen at y bleidlais. Iawn. Felly, y bleidlais gyntaf heno yw'r ddadl ar...
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd Brexit heb gytundeb yn ei chael ar brifysgolion Cymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia