Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 17 Medi 2019.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 hon i amlinellu prif argymhellion a chasgliadau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o ran y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).
Bydd yr Aelodau'n gallu gweld o'n hadroddiad bod y rhan fwyaf o'n pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Nid yw Suzy Davies a Janet Finch-Saunders yn cefnogi bod y Bil yn mynd y tu hwnt i Gyfnod 1, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n amlinellu'r rhesymau dros eu safbwynt yn ddiweddarach y prynhawn yma.
Cyn imi fanylu ar pam mae'r rhan fwyaf o'n pwyllgor yn cefnogi'r Bil, rwyf am ddiolch i bawb a gyflwynodd dystiolaeth yn nodi eu barn. Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhieni a'r cynrychiolwyr hynny o sefydliadau a siaradodd yn uniongyrchol â ni. Mae'n cymryd amser ac ymdrech i bobl wneud hyn. Yn achos y rhai nad ydynt yn gyfarwydd â'r lle hwn, gall hefyd gymryd dewrder. Fel pwyllgor, hoffem ni gofnodi ein diolch i bawb a gyfrannodd. Hoffwn i hefyd gofnodi diolchiadau'r pwyllgor i'n tîm pwyllgor, fel sy'n wir bob tro, sydd wedi rhoi cefnogaeth eithriadol i'r pwyllgor wrth inni ymgymryd â'n gwaith craffu.
O'r cychwyn cyntaf, rwyf eisiau pwysleisio ein bod yn llwyr gydnabod y safbwyntiau cryf ar ddwy ochr y ddadl ynghylch a ddylai'r Bil hwn ddod yn gyfraith. Gobeithiaf fod hyd ein hadroddiad a'r manylion sydd ynddo'n dangos pa mor bwysig yw hi i ni ystyried pob math o safbwynt. Gwyddom ni na fydd cyfran o'r boblogaeth yn cytuno â'n casgliadau. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio bod y dull yr ydym ni wedi'i ddefnyddio yn dangos i gefnogwyr a gwrthwynebwyr y Bil ymrwymiad y Pwyllgor i graffu teg a chadarn ac i ystyried y dystiolaeth a'r safbwyntiau a glywsom.
I'r perwyl hwn, gwahoddwyd campws gwyddor data y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gynnal dadansoddiad diduedd o'r safbwyntiau a fynegwyd yn ein hymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil. Hoffwn ni gofnodi ein diolch iddyn nhw am eu gwaith. Cawsom ni amrywiaeth eang o wybodaeth, clywsom amrywiaeth eang o safbwyntiau, a rhoddwyd ystyriaeth fanwl i ehangder y dystiolaeth a oedd ar gael i ni.
Rhan bwysig o'n gwaith oedd clywed gan y rhai sy'n gweithio yn y rheng flaen, yn darparu gwasanaethau ac yn meddu ar gyfrifoldeb statudol i amddiffyn plant a gweithredu er eu budd gorau. Roedd hyn yn cynnwys yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, gwasanaethau cymdeithasol, cynrychiolwyr athrawon ac amrywiaeth eang o weithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon teulu, nyrsys, ymwelwyr iechyd, pediatregwyr a seiciatryddion. Dywedodd pob un wrthym ni y bydd y Bil hwn yn gwella eu gallu i amddiffyn plant sy'n byw yng Nghymru gan y bydd yn gwneud y gyfraith yn glir.
Dywedwyd wrthym ni y byddai bod â chyfraith gliriach o gymorth i'r rhai hynny sydd yn y rheng flaen i amddiffyn plant yn well, gan gynnwys y rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed. Dywedodd gweithwyr proffesiynol wrthym ni y bydd y Bil hwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol oherwydd ei fod yn darparu llinell glir iddynt, ac yn bwysig, ffin glir y gall rhieni, plant a'r cyhoedd yn ehangach ei deall yn glir.
Rydym ni'n cydnabod nad oedd y rhan fwyaf o'r unigolion a ymatebodd i'n hymgynghoriad o safbwynt personol yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Clywsom ni amrywiaeth eang o resymau dros eu gwrthwynebiad ac rydym ni wedi adlewyrchu'r safbwyntiau hyn yn fanwl yn ein hadroddiad. Roedd mwyafrif yr ymatebion gan unigolion yn canolbwyntio ar sut y byddai dileu'r amddiffyniad yn effeithio ar rieni. Roeddem ni'n glir iawn mai ein prif nod fel pwyllgor yw pwyso a mesur yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei dweud wrthym ni am yr effaith y gallai'r Bil hwn, neu y bydd yn ei chael ar blant, ac a fydd yn gwella'r amddiffyniad y mae'r gyfraith yn ei ddarparu ar eu cyfer.
Ystyriwyd gennym ni hefyd y cyfoeth o dystiolaeth academaidd sy'n bodoli yn y maes hwn. Mae hyn yn amgylchynu amrywiaeth o faterion, gan gynnwys ystyried y dystiolaeth am effeithiau tymor byr a thymor hir cosbi corfforol ar blant, a'r effaith ar ganlyniadau plant mewn gwledydd sydd eisoes wedi'i wahardd.
At ei gilydd, mae'r rhan fwyaf o'n Pwyllgor o'r farn bod dadl gref y bydd y Bil hwn yn lleihau'r risg o niwed posibl i blant a phobl ifanc. Nid ydym ni'n argyhoeddedig y gallai nifer fawr o erlyniadau ddeillio o basio'r Bil hwn. Nid oes unrhyw dystiolaeth o hynny, ac nid barn yr heddlu na Gwasanaeth Erlyn y Goron yw honno ychwaith.
Fe welwyd bod Cymru'n arwain y ffordd i blant a phobl ifanc a chafodd gydnabyddiaeth ryngwladol pan gyflwynodd hi'r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) yn 2011. Dyma'r ddeddfwriaeth gyntaf o'i math yn y DU, yn ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn mewn cyfraith ddomestig. Rydym ni, a'r pwyllgorau a'n rhagflaenodd, wedi dweud yn gyson wrth Lywodraeth Cymru fod yn rhaid i'r ymrwymiad deddfwriaethol hwn i hawliau gael ei wireddu ym mywydau plant.
Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wedi bod yn glir iawn ei fod eisiau i'r gyfraith ar gosbi corfforol newid yn y DU. Yn fwyaf diweddar, yn 2016, dywedodd y dylem wahardd fel mater o flaenoriaeth bob cosb gorfforol yn y teulu, gan gynnwys diddymu'r holl amddiffyniadau cyfreithiol, megis 'cosb resymol'.
Mae'r rhan fwyaf o'n pwyllgor yn credu na allwn ni, fel gwlad, ddewis a dethol erthyglau'r confensiwn yr ydym ni'n cydymffurfio â nhw. I ni, bydd pasio'r ddeddfwriaeth hon yn enghraifft glir o sut y mae'n bosibl troi'r dyletswyddau deddfwriaethol presennol hyn yn realiti ystyrlon i blant Cymru.
Yn yr amser sydd ar ôl, hoffwn i droi at y pethau y mae'r rhan fwyaf o'n pwyllgor o'r farn y mae eu hangen i sicrhau bod y Bil hwn yn cyflawni ei nodau datganedig. Wrth argymell y dylai'r Bil ddatblygu, rydym ni'n glir iawn ei bod yn hanfodol bod dau beth ar waith i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn gweithio er lles plant a'u teuluoedd. Yn gyntaf, fe gredwn ni fod cael ymgyrch gynhwysfawr i godi ymwybyddiaeth yn hanfodol. Mae hyn yn sylfaenol i lwyddiant y ddeddfwriaeth hon. Nid ydym ni yn amau bwriad y Llywodraeth bresennol i gynnal yr ymgyrch hon i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Fodd bynnag, er y bydd gweinyddiaethau'r dyfodol yn etifeddu'r cyfreithiau yr ydym ni yn eu pasio, efallai na fyddant yn rhannu'r un lefel o ymrwymiad i'r dulliau sy'n allweddol i'w gweithredu'n effeithiol. Felly, rydym ni'n croesawu'r ffaith bod y Dirprwy Weinidog yn derbyn ein hargymhelliad y dylid diwygio'r Bil i osod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth a chynyddu ymwybyddiaeth o effaith y ddeddfwriaeth.
Yn ail, rydym ni'n argymell bod cymorth cyffredinol yn cael ei ddarparu i rieni ledled Cymru. Mae llawer mwy y mae'n rhaid ei wneud i gynorthwyo teuluoedd a'r heriau anochel a ddaw yn sgil rhianta. Rydym ni o'r farn bod rhoi cymorth i rieni ddysgu am ddewisiadau yn hytrach na chosb gorfforol, a'u defnyddio wrth ddisgyblu eu plant yn hanfodol i sicrhau bod y Bil yn cyflawni amcanion datganedig y Llywodraeth. Bydd hyn yn galw am newid sylweddol a buddsoddiad strategol.
O ystyried y pwysigrwydd y mae'r pwyllgor yn ei roi ar ddarparu cymorth cyffredinol digonol i rieni, hoffwn i holi'r Dirprwy Weinidog ychydig ymhellach am ei hymateb i argymhellion 7 a 18. Roeddem ni yn croesawu'r sicrwydd a roddwyd gan y Dirprwy Weinidog yn ystod y broses graffu bod ymarfer ar y gweill i fapio'r cymorth sydd ar gael i rieni yng Nghymru. Felly, rydym ni'n siomedig na fydd canlyniadau'r ymarfer mapio ar gael i ni mewn pryd i lywio cyfnodau diwygio'r Bil hwn. Mae hyn yn peri pryder arbennig i ni o gofio mai dymuniad y Dirprwy Weinidog i beidio ag achub y blaen ar yr ymarfer mapio yw'r rheswm a roddwyd dros fethu â derbyn ein hargymhelliad 18 yn llawn, sy'n galw am y newid sylweddol hwnnw o ran cymorth cyffredinol gyda rhianta cadarnhaol. Byddwn i yn ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog nodi pam na ddechreuwyd yr ymarfer mapio hwn yn gynharach er mwyn sicrhau bod gan y Cynulliad gymaint o wybodaeth â phosibl ar gael iddo. Er mwyn rhoi sicrwydd i gefnogwyr a gwrthwynebwyr y Bil hwn y bydd digon o gymorth ar gael i rieni law yn llaw â'r newid hwn yn y gyfraith, byddwn i'n annog y Dirprwy Weinidog i ailystyried yr amserlen bresennol ar gyfer yr ymarfer mapio.
Hoffwn i gloi drwy ddiolch i'r Dirprwy Weinidog a'i swyddogion am yr ymateb manwl a roddwyd cyn y ddadl, ac i ailadrodd fy niolch i bawb a gyfrannodd at ein gwaith craffu Cyfnod 1. Diolch yn fawr.