Part of the debate – Senedd Cymru am 6:50 pm ar 17 Medi 2019.
Yn unol â’r drefn ar gyfer ein gwaith craffu ar bob Bil, bu’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn trafod materion yn ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad, y defnydd arfaethedig o is-ddeddfwriaeth, a materion eraill yr ydym yn ystyried eu bod yn berthnasol i ansawdd y ddeddfwriaeth.
Er mwyn i Fil fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, mae Deddf Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob un o’i ddarpariaethau gydymffurfio â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Gwnaethom godi’r mater hwn gyda'r Dirprwy Weinidog yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, yn benodol o ran taro cydbwysedd rhwng hawliau’r plentyn i gael ei amddiffyn a hawliau’r rhieni i ddisgyblu eu plentyn.
Rydym yn croesawu ymatebion y Dirprwy Weinidog i'r cwestiynau a ofynnwyd gennym, ac rydym yn nodi'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr asesiad effaith cydraddoldeb, sy'n ymdrin ag erthyglau perthnasol y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Fodd bynnag, rydym wedi datgan yn gyson y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y wybodaeth am gymhwysedd deddfwriaethol sy’n ymddangos yn ei memoranda esboniadol yn cynnwys digon o fanylion i sicrhau tryloywder ac i hwyluso gwaith craffu effeithiol ar Filiau.
Credwn y dylid sicrhau bod esboniad mwy cynhwysfawr o'r asesiadau a gynhaliwyd mewn perthynas â hawliau dynol yn cael ei gynnwys y memoranda esboniadol. Nodwn ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i adolygu'r cydbwysedd rhwng yr hyn sydd yn y memorandwm esboniadol a'r asesiadau effaith a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd ar ei gwefan.
Hoffwn fod yn glir nad ymgais ydy hwn i danseilio'r asesiadau o gymhwysedd deddfwriaethol a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru. Ein dull gweithredu yw sicrhau bod y materion hyn yn cael eu nodi mewn ffordd gydlynol, dryloyw a hygyrch, a hynny er mwyn hwyluso’r broses graffu a gwella dealltwriaeth ymhlith dinasyddion.
Gwnaethom nodi bod y Bil yn cynnwys un pŵer dirprwyedig sydd ar ffurf Gorchymyn. Bydd y Gorchymyn yn pennu’r dyddiad y daw darpariaethau'r Bil i rym, ac ni fydd yn destun gweithdrefn graffu. Felly, er ein bod yn fodlon â’r cydbwysedd rhwng yr hyn sydd wedi’i nodi ar wyneb y Bil a'r hyn sydd wedi’i adael i is-ddeddfwriaeth, rydym yn nodi’r ffaith y gall y Gorchymyn wneud darpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed. Yn sgil hynny, mae ein hadroddiad yn awgrymu y dylai ein pwyllgor olynol yn y chweched Cynulliad ystyried yn ofalus y defnydd a wneir o'r pŵer cychwyn hwn.
Yn awr, hoffwn symud ymlaen at ein dau argymhelliad. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron, fel y prif wasanaeth erlyn cyhoeddus ar gyfer Cymru a Lloegr, yn darparu cyngor ynghylch cyhuddiadau mewn perthynas ag achosion mwy difrifol neu gymhleth, a hynny’n seiliedig ar y cod ar gyfer erlynwyr y Goron a chanllawiau erlyn. Rydym yn cytuno efo'r Dirprwy Weinidog y bydd canllawiau safonol cyhuddo Gwasanaeth Erlyn y Goron yn hynod bwysig o ran cyflawni amcanion y Bil.
Ar y sail honno, mae ein hargymhelliad cyntaf yn awgrymu y dylai'r Dirprwy Weinidog weithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ac yn sicrhau bod y canllawiau safonol cyhuddo diwygiedig, ynghyd ag unrhyw ganllawiau cysylltiedig, ar gael i Aelodau'r Cynulliad ar ffurf drafft cyn trafodion Cyfnod 3 ar y Bil. Nodwn fod y Dirprwy Weinidog, er ei bod yn derbyn egwyddor yr argymhelliad hwn, wedi nodi nad oes modd iddi ddylanwadu ar Wasanaeth Erlyn y Goron ynghylch y broses o ddatblygu’r canllawiau neu’r amserlen gysylltiedig.
Yn olaf, rydym yn nodi bwriad y Dirprwy Weinidog i gynnal adolygiad ôl-weithredu. Yn ein barn ni, dylai'r Bil ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru werthuso ei effeithiolrwydd wrth gyflawni'r amcanion polisi dan sylw. Rydym yn tynnu sylw at Ddeddfau Cymreig eraill sy'n cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gwerthusiad ôl-weithredu yn cael ei gynnal; er enghraifft, Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 a Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018.
Ein hail argymhelliad, felly, yw y dylid diwygio'r Bil i'w gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn cynnal gwerthusiad ôl-weithredu o'r Bil yma. Awgrymwn y dylid cynnal gwerthusiad o'r fath cyn pen tair blynedd ar ôl i'r ddeddfwriaeth ddod i rym, ac y dylai Gweinidogion Cymru gyflwyno adroddiad ar ganfyddiadau’r gwerthusiad i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Rydym yn croesawu datganiad y Dirprwy Weinidog y bydd yn cyflwyno gwelliant at ddibenion gweithredu’r argymhelliad hwn. Nodwn, fodd bynnag, y bydd y gwerthusiad hwnnw’n digwydd o fewn cyfnod o bum mlynedd, yn hytrach na chyfnod o dair blynedd, fel y nodir yn ein hargymhelliad. Diolch yn fawr.