Trafnidiaeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 17 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:26, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Llywydd, gwelais wybodaeth a gyhoeddwyd gan yr Aelod dros yr haf pryd yr oedd yn cwyno mai dim ond 97 y cant o drenau ar reilffordd y Cambrian a oedd wedi rhedeg dros yr haf. Rwy'n credu bod pobl yn Thameslink a fyddai'n meddwl eu bod nhw wedi cyrraedd nefoedd y rheilffyrdd pe byddai ei Lywodraeth yn gallu darparu 97 y cant o'r holl wasanaethau a gynlluniwyd ar y rheilffordd honno. Bydd yr Aelod wedi gweld y cyhoeddiad ddoe o fuddsoddiad gwerth £194 miliwn mewn gorsafoedd rheilffordd ledled Cymru, a bydd hynny'n sicr yn rhoi sylw i'r pwynt a wnaeth yr Aelod, a oedd yn bwynt teg, ynghylch—