Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 17 Medi 2019.
Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn nad yw'r ddogfen Operation Yellowhammer yn rhagfynegiad o'r hyn sy'n debygol o ddigwydd, ond yn disgrifio'r sefyllfa waethaf bosibl at ddibenion cynllunio'r Llywodraeth? Ac a ydych chi hefyd yn cydnabod bod Llywodraeth y DU yn Llundain wedi cynyddu'r paratoadau i liniaru unrhyw effaith Brexit 'dim cytundeb' i'r Deyrnas Unedig gyfan, gan gynnwys Cymru?