Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 17 Medi 2019.
A beth am wefan Paratoi Cymru, hefyd? Rwyf yn dirwyn i ben, Dirprwy Lywydd. A allwch chi ddweud wrthym ni faint o bobl sydd wedi manteisio ar hynny o ran y sefydliadau eraill nad ydynt yn fusnesau y gallai fod angen cymorth arnynt? Felly, yn hytrach na rhygnu ar yr un hen dant, hoffwn glywed yn union pa gynnydd rydych chi'n ei wneud trwy weithio gyda Llywodraeth y DU i wireddu ewyllys pobl Cymru wrth gyflwyno Brexit cyn gynted â phosib.