Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 17 Medi 2019.
Cynigiaf y gwelliannau yn enw Plaid Cymru. Mae'r etholaeth yr wyf fi'n ei chynrychioli, y Rhondda, o bosibl yn un o'r Cymoedd mwyaf adnabyddus ar draws y byd. Nawr, ar ôl cyflawni ei diben cyn belled ag y bo'r wladwriaeth Brydeinig yn y cwestiwn, gadawyd y Rhondda, fel llawer o gymoedd eraill, yn ogystal â chymunedau ledled y wlad nad ydyn nhw yn y Cymoedd, gan Lywodraethau olynol ar ddau ben yr M4 i bydru. Yn wahanol i rannau o'r DU a gafodd eu dad-ddiwydiannu'n fwriadol, ni chafodd y maes glo blaenorol yng Nghymru yr un gefnogaeth economaidd, ac, o ganlyniad, rydym ni ymhell y tu ôl i leoedd fel Sheffield, Caeredin, Nottingham, swydd Efrog o ran datblygu economaidd a chyfoeth. Mae gormod o lawer o bobl mewn gormod o'n cymunedau'n cael eu gorfodi i fyw gyda melltith tlodi, ac mae'n siomedig a dweud y lleiaf, ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, fod y Cymoedd ac yn benodol y cwm yr wyf i'n byw ynddo, y Rhondda—wedi gweld lefelau truenus o sylw a buddsoddiad.
Wrth gwrs, mae polisïau Llywodraethau yn San Steffan—yn bennaf cyni dros y degawd diwethaf neu fwy—wedi gwneud ein sefyllfa'n llawer iawn gwaeth. Mae rhai pobl ryfeddol yn cyflawni pethau rhyfeddol yn y Cymoedd, ond yn rhy aml mae hynny er gwaethaf y Llywodraeth, nid o'i herwydd. Pe bai'n rhaid i chi dalu am y gwaith a wneir gan wirfoddolwyr, byddai'n gwneud y Llywodraeth hon yn fethdalwr. Mae gweithwyr cymunedol ym mhobman yn rhedeg gorsafoedd radio, banciau bwyd, cynlluniau rhannu bwyd, canolfannau cymunedol a chlybiau ieuenctid, Sgowtiaid, Geidiaid, clybiau chwaraeon, pyllau padlo, cymorth i bobl hŷn ac anabl ac yn y blaen, i gyd am ddim, ond mae eu hymdrechion wedi'u llesteirio gan doriadau a chostau uwch—costau'r Llywodraeth yn aml.
Yr wythnos hon cefais gyfarfod â Chymdeithas Twnnel y Rhondda, grŵp o wirfoddolwyr sydd wedi gwneud gwaith rhagorol ers blynyddoedd lawer. Mae eu gwaith yn cael ei lesteirio gan ddiffyg gweithredu o ran y Llywodraeth, yn lleol ac yn genedlaethol: methu datrys y problemau perchenogaeth, methu dynodi'r ardal yn llwybr teithio llesol—rhwystrau, rhwystrau, drwy'r amser. Am symiau cymharol fach o arian, gallai llawer o'r prosiectau hyn a gweithredwyr cymunedol gyrraedd cymaint mwy o bobl ond, wrth gwrs, yr hyn y mae arnom ni ei angen mewn gwirionedd yw datblygu economaidd a swyddi. A dyna pam roeddwn i mor gyffrous pan glywais am gwmni cydweithredol a oedd wedi'i ffurfio yn y Rhondda a oedd yn cynnwys cyn-weithwyr Burberry. Ni wnaeth y cyffro hwnnw bara'n hir. Roedd y cwmni dillad cydweithredol hwn ar ddeall, pe baen nhw'n fusnes priodol, y byddai'r Llywodraeth yn eu hystyried ar gyfer contract i wneud gwisgoedd gweithwyr yn y sector cyhoeddus—gwisgoedd newydd i weithwyr trên, gwisgoedd y GIG ac yn y blaen. Mae'r rhain yn weithwyr medrus iawn sydd wedi arfer darparu cynnyrch o safon uchel. Mae ganddyn nhw safle yn yr hen ffatri Burberry a'u cynllun oedd defnyddio'r hanes eiconig hwnnw i adeiladu busnes i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf. Dychmygwch pa mor dorcalonnus yr oedden nhw o glywed bod y contract yn mynd i gwmni hyfforddi sy'n gweithio mewn cwm arall, gyda chefnogaeth menter tasglu'r Cymoedd, a hwythau heb ddim syniad eu bod yn cystadlu yn erbyn eraill. Oes, efallai fod posibilrwydd y gall y cwmni hwn fod yn llwyddiannus—nid ydynt wedi anobeithio—ond mae cwestiynau i'w hateb, ac nid wyf wedi cael atebion credadwy hyd yn hyn.
Er gwaethaf ymdrechion lu, rwyf wedi methu â chael syniad o ba gymorth ariannol neu gefnogaeth arall a allai fod ar gael ar gyfer y math hwn o ddatblygu neu unrhyw fath arall. Pan fyddaf yn gwneud ymholiadau am symiau penodol o arian ar gyfer y Cymoedd, caf wybod nad oes unrhyw ffigur i'w roi. Pan ofynnaf beth allwn ni ddisgwyl ei weld yn y Rhondda, caf wybod pa fuddsoddiad sydd ar gael mewn lleoedd eraill. Yr wythnos hon, mae ymgynghoriad Trafnidiaeth Cymru'n esgeuluso'r Rhondda, a phan ofynnir iddyn nhw ar Twitter am hynny, dywedir wrthym ni fod cyfarfodydd ym Mhontypridd ac yn Aberdâr. Rwy'n holi am y Rhondda—a gaf i bwysleisio nad yw'r Rhondda ym Mhontypridd nac yn Aberdâr? Rwyf wedi colli cyfrif ar nifer y cyfarfodydd yr wyf wedi'u cael gyda'r cyn-Weinidog a sawl gwaith rwyf wedi gofyn cwestiynau yr ydym yn gobeithio yr ymdrinir â nhw drwy'r gwelliannau hyn, ac rwy'n dal i aros am atebion.
Faint o gyllideb a ddyrennir i dasglu'r Cymoedd? Faint, a beth yn union y gallwn ni ddisgwyl ei weld yn y Rhondda? Dydw i ddim eisiau gwybod am leoedd eraill; rwyf eisiau gwybod am eich cynlluniau ar gyfer y Rhondda, ac o gofio nad wyf wedi gallu cael atebion i'r cwestiynau hyn hyd yma, ceir pwyllgor dros dro lle gall y rhai ohonom ni sy'n poeni am hyn graffu ar y penderfyniadau, y gwariant, datganiadau'r Gweinidogion. Mae angen i'r Llywodraeth hon ddangos i mi fod tasglu'r Cymoedd yn werth rhywbeth; dydw i ddim yn ei weld hyd yn hyn.