1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 18 Medi 2019.
2. Pa ystyriaethau y mae'r Gweinidog wedi'u rhoi i sicrhau nad yw cyllideb Llywodraeth Cymru, sydd ar y gweill, yn lleihau gwasanaethau i rai dros 60 oed yng Nghymru? OAQ54305
Rydym yn asesu effaith ystod o ffactorau ar gynlluniau gwario Llywodraeth Cymru yn barhaus, gan gynnwys yr amcanestyniadau demograffig diweddaraf. Byddaf yn cyfarfod â'r comisiynydd pobl hŷn ar 9 Hydref, fel rhan o fy ngwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid cyn y gyllideb sydd i ddod.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb? Ac mae'n bwysig iawn eich bod yn cyfarfod â'r comisiynydd pobl hŷn i drafod yr anghenion hyn. Rydym wedi gweld toriadau Llywodraeth y DU i bensiynwyr; maent wedi taro Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth er enghraifft, gan sicrhau bod ganddynt ystyriaethau anos i'w gwneud mewn perthynas â'u pensiwn y wladwriaeth. Rydym wedi gweld sut y cawsant wared ar drwyddedau teledu, neu'r modd y maent wedi goruchwylio’r broses o gael gwared ar drwyddedau teledu i rai pobl. Mae'n bwysig fod y grŵp hwn o bobl bob amser wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru. Maent bob amser wedi gallu elwa ar y consesiynau teithio i bobl dros 60 oed ar fysiau. Maent hefyd wedi gallu elwa ar nofio am ddim i bobl dros 60 oed. Yn amlwg, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth gan etholwyr yn dilyn cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig y llythyr gan y Dirprwy Weinidog yr wythnos diwethaf, a nododd y newidiadau i'r consesiynau nofio am ddim. Mae'r bobl hyn yn ystyried hyn yn fuddiol i'w hiechyd, i’w lles, er mwyn cael gwared ar unigrwydd ac arwahanrwydd, i fod yn rhan bwysig iawn o gymdeithas sifil mewn gwirionedd. A wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau na fydd y cymunedau hyn yn cael eu hanghofio yng nghyllideb Cymru, ac y cânt gymorth i barhau â'r gweithgareddau hyn?
Yn sicr, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi. Mae gofal cymdeithasol yn un maes sy'n arbennig o bwysig i bobl hŷn, a dyna un o'n prif feysydd blaenoriaeth trawslywodraethol. Fel rhan o fy ystyriaethau ar gyfer y gyllideb, bûm ar gyfres o ymweliadau dros yr haf, a bydd ambell i un ohonynt o ddiddordeb arbennig. Y cyntaf oedd un o brosiectau’r gronfa gofal integredig yng Nghaerdydd, sydd yno i gefnogi pobl hŷn, ac yna, roedd yr ail ymweliad â datblygiad tai Maes Arthur yn Aberystwyth, datblygiad tai cymdeithasol sy'n helpu pobl hŷn i symud i eiddo llai o faint sy’n haws ymdopi ag ef, ac mae hynny’n rhyddhau eiddo gyda mwy o ystafelloedd gwely i deuluoedd hefyd. Felly, mae’r ddau ymweliad a wneuthum yn berthnasol i bobl hŷn yn benodol.
O ran y fenter nofio am ddim, wrth gwrs, mae cwestiwn i'r Dirprwy Weinidog yn ddiweddarach y prynhawn yma o ran gallu archwilio hynny ymhellach, ond mae'n bwysig cydnabod y bydd cynnig nofio am ddim ar gael i bobl ifanc a phobl dros 60 oed o hyd, cynnig wedi'i ddarparu gan awdurdodau lleol, yn seiliedig ar ddealltwriaeth awdurdodau lleol o'u cymunedau, gyda ffocws ar ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig. Ond bydd pobl dros 60 oed hefyd yn parhau i fod yn gynulleidfa darged, ac mae'n bwysig fod awdurdodau lleol yn dod o hyd i'r ffordd orau o ymgysylltu â'r gynulleidfa darged honno i ddeall sut y gall nofio am ddim ddiwallu'r anghenion hynny orau.
Ac o ran mater y pàs bws am ddim, gwn i chi gael cyfle i drafod eich pryderon gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac rwy'n siŵr y bydd y trafodaethau hynny'n parhau, oherwydd wrth gwrs, mae honno'n ddeddfwriaeth a fydd yn ddarostyngedig i'r broses graffu lawn yn y Cynulliad.
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru, wrth gwrs, yn darparu gwasanaethau sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr, a gwasanaethau y mae mawr eu hangen ar ein pobl hŷn yn wir. Fodd bynnag, er bod ganddynt y ganran uchaf o bobl dros 65 oed yng ngogledd Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn hanesyddol, wedi cael eu taro gan eich setliadau gwael. Mae'r awdurdod lleol bellach yn wynebu diffyg o £12.5 miliwn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Byddai'n cymryd cynnydd o 23.1 y cant yn y dreth gyngor i dalu am y pwysau ar y gwasanaeth, gan olygu unwaith eto fod llai fyth o arian yn mynd i bocedi ein pensiynwyr. Mae’n rhaid i hyn ddod i ben, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw gwneud hynny. Mae’r arian yn cael ei ddarparu i chi gan Lywodraeth y DU. Caiff £1.20 ei wario yma yng Nghymru am bob punt a werir yn Lloegr. Y peth yw, a wnewch chi ymrwymo yn awr i ddefnyddio peth o'r £600 miliwn ychwanegol hwn gan y Canghellor i roi terfyn ar y strategaeth o gwtogi setliadau llywodraeth leol yn barhaus, yn enwedig ein hawdurdodau lleol yng ngogledd Cymru?
Wel, dyna i chi wyneb. Mae'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi wynebu toriadau i’w chyllideb ers degawd—. Mae pobl wedi bod yn byw gyda chyni ers degawd, a Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am hynny, mae'n rhaid i mi ddweud. Ond wedi dweud hynny, credaf ei bod yn bwysig cydnabod hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir yn ein trafodaethau cynnar ar y gyllideb y bydd iechyd yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth, ond rydym yn wirioneddol awyddus i sicrhau y gallwn gynnig y setliad gorau posibl i awdurdodau lleol.
O ran fformiwla ariannu'r awdurdodau lleol, caiff honno ei phennu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ac mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau wedi dweud yn glir iawn ein bod yn agored i syniadau ynglŷn â ffyrdd eraill o ymdrin â'r fformiwla, ond nid yw'r awdurdodau lleol eu hunain wedi pwyso arnom am newidiadau i'r fformiwla honno.
Pryder mawr i lawer o bobl yn y Rhondda ar hyn o bryd, a rhywbeth a allai leihau mynediad at wasanaethau, yw mater adnewyddu pasys bws. Ni fydd y pàs bws presennol yn ddilys ar ôl mis Rhagfyr, felly yn naturiol, mae pobl yn awyddus i sicrhau bod ganddynt yr hyn sydd, i lawer o bobl, yn cynrychioli'r unig ffordd o gyrraedd y byd y tu allan i ddrws eu tŷ. Yn anffodus, gwelwyd problemau mawr o'r cychwyn cyntaf. Am ryw reswm, dim ond ar-lein y bu modd gwneud ceisiadau, ac rydym yn sôn am bensiynwyr. Nid yw rhai pensiynwyr ar-lein, wrth gwrs, ac ni fydd ganddynt ffrindiau na theulu i'w helpu, ac mae'r awgrym gan Trafnidiaeth Cymru y gallai gofalwr helpu yn chwerthinllyd, gan y gŵyr pob un ohonom nad yw gofalwyr yn cael digon o amser i wneud eu gwaith fel y mae hi.
Ar ôl wythnos, cyhoeddwyd y byddai ceisiadau papur yn cael eu derbyn. Ni allwn ond dyfalu a yw hynny'n ymwneud â'r ffaith fod gwefan adnewyddu pasys bws Trafnidiaeth Cymru wedi methu ac na fu modd ei defnyddio ers wythnos diwethaf. Pam na chafodd y pasys bws hyn eu hadnewyddu'n awtomatig? Nid oes unrhyw un wedi mynd yn iau ers gwneud eu cais cyntaf, nac oes? Weinidog, a wnaiff y Llywodraeth hon dderbyn cyfrifoldeb am y llanast hwn, ac os oes angen, rhoi mwy o adnoddau tuag at hyn fel nad oes unrhyw un sy'n gymwys am bàs bws ar eu colled o ganlyniad i aflerwch rhywun arall?
Wel, ailadroddaf yr hyn a ddywedais ddoe, a chredaf fod Leanne Wood yn y Siambr pan ddywedais hyn ddoe, sef y bydd y cardiau teithio consesiynol presennol yn parhau i fod yn ddilys tan 31 Rhagfyr. Felly, y neges allweddol yw nad oes brys i wneud cais am eich pàs bws newydd; mae gennym tan ddiwedd y flwyddyn. A'r rheswm pam fod gennym basys bws newydd yw na fydd y sglodion cyfredol yn gweithio yn y system ar ôl 31 Rhagfyr, ond caiff y rhai newydd eu fformatio fel y gallant weithio mewn lleoliad trafnidiaeth integredig, ac rydym yn siarad o hyd am bwysigrwydd teithio integredig. Mae'n wir, wrth gwrs, fod llawer iawn o draffig ar y wefan yn y dyddiau cynnar, ac arweiniodd hynny at fethiant y wefan, sy'n amlwg yn anffodus, ond mae gwaith wedi'i wneud bellach i wella profiad a chapasiti'r wefan honno. Ac mae trafodaethau'n mynd rhagddynt i weld sut y gellir cynorthwyo pobl hŷn i wneud cais am eu pàs bws os nad oes ganddynt rywun i'w helpu i wneud hynny. Rwy'n siŵr y bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gallu darparu diweddariadau pellach maes o law.
Weinidog, o ganlyniad i doriadau i gyllidebau llywodraeth leol dros y blynyddoedd, mae pobl dros 60 oed wedi cael eu heffeithio'n anghymesur. Rydym wedi gweld canolfannau dydd a llyfrgelloedd yn cau, ac mae hynny wedi cynyddu unigrwydd ac arwahanrwydd yn y grŵp oedran hwn. Weinidog, sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau nad yw eich penderfyniadau cyllidebol yn y dyfodol yn cyfrannu at gynyddu unigrwydd ac arwahanrwydd?
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir fod mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn flaenoriaeth i ni. Gwnaed gwaith gwych gan y pwyllgor a fu'n edrych ar hynny, ac mae'n llywio gwaith Llywodraeth Cymru o ran sut y gallem fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn y dyfodol.
Drwy awdurdodau lleol, mae cyllid Llywodraeth Cymru yn mynd tuag at gydgysylltwyr cymunedol neu froceriaid lleol—rhoddir enwau gwahanol iddynt mewn gwahanol rannau o Gymru. Maent yn gwneud gwaith cwbl anhygoel yn cysylltu pobl hŷn sy'n wynebu unigrwydd ac arwahanrwydd â'r math o wasanaethau a'r holl gyfleoedd cymdeithasol sydd i'w cael mewn cymunedau. Ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n wirioneddol awyddus i barhau i'w gefnogi, gan fy mod wedi gweld drosof fy hun y gwaith anhygoel a wnânt.