Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:56, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Mewn atebion i mi ac i Aelodau Cynulliad eraill heddiw, nodaf eich bod wedi crybwyll iechyd yn gyntaf oll fel y flaenoriaeth, ac mae pob un ohonom, wrth gwrs, yn blaenoriaethu iechyd, ond a gaf fi ofyn i chi ddod ag iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd wrth i chi ystyried beth sy'n digwydd i gyllid llywodraeth leol? Oherwydd drwy bwmpio arian i mewn i iechyd, sy'n angenrheidiol ar gyfer iechyd yn nhyb rhai, mae pob perygl mai ychydig iawn o adnoddau a fydd ar ôl i'w gwario ar lywodraeth leol. Heb arian ar gyfer gofal cymdeithasol mewn llywodraeth leol, ni fyddwn byth yn datrys mater cronnol a chyfunol iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, a gawn ni sicrwydd y bydd gofal cymdeithasol a ddarperir drwy lywodraeth leol yn cael ei flaenoriaethu i'r un graddau ag iechyd yn y gyllideb ar gyfer 2020-21?