Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 18 Medi 2019.
Felly, rydym yn cael y trafodaethau clir hynny gyda llywodraeth leol, o ran yr hyn y maent wedi'i nodi yw'r pwysau arnynt yn eu cyllideb, ond hefyd eu huchelgeisiau i wneud mwy yn y blynyddoedd i ddod. Mae gennyf gyfarfod gyda'r Gweinidog llywodraeth leol gyda'r is-grŵp cyllid llywodraeth leol, sef y grŵp lle mae gan holl arweinwyr a phrif weithredwyr yr awdurdodau lleol gyfle i siarad â mi a'r Gweinidog llywodraeth leol am faterion cyllid. Felly, byddwn yn siarad yn ein cyfarfod nesaf, yr wythnos nesaf rwy'n credu, ac yn cael trafodaethau cynnar am y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Oddeutu pythefnos yn unig sydd wedi bod ers ein cyhoeddiad ar gyllid y cylch gwariant, felly, ar hyn o bryd, ni allaf wneud y math o gyhoeddiadau y mae pob un ohonom yn awyddus i'w clywed, ond fe geisiaf roi'r math hwnnw o sicrwydd cyn gynted â phosibl.