Cyhoeddiad Ariannol Llywodraeth y DU

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:15, 18 Medi 2019

Diolch i chi am eich ateb. Dwi ddim yn mynd i ymddiheuro am wneud ple eto arnoch chi i sicrhau bod awdurdodau lleol Cymru'n cael setliad gwell eleni. Dŷn ni wedi clywed eisoes am y £6 miliwn sydd ei angen ar sir Fôn i aros yn ei hunfan. Dŷn ni wedi gweld yn y papur bore yma bod Cyngor Sir y Fflint yn sefyll ar ymyl dibyn ariannol, a fydden i ddim yn licio dychmygu beth fyddai'r goblygiadau petai'r hwch yn mynd drwy'r siop yn fanna.

Nawr, yn flaenorol, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth wedi dweud fe fydd awdurdodau lleol ar flaen y ciw petai yna arian yn dod ar gael a byddwn i'n gofyn i chi o leiaf ailadrodd yr ymrwymiad yna ac i wneud hynny, wrth gwrs, gan wybod y byddai ariannu tecach i awdurdodau lleol, fel dŷn ni wedi'i glywed, yn gallu cyfrannu'n helaeth tuag at faterion iechyd drwy ariannu gwasanaethau cymdeithasol yn iawn, ond mi fyddai hefyd yn gallu caniatáu inni ddechrau mynd i'r afael â than-gyllido ysgolion yn eithriadol. Felly, yr hyn dwi eisiau clywed yw—ganddoch chi a'r Llywodraeth—y bydd awdurdodau lleol ar flaen y ciw eleni.