Cyhoeddiad Ariannol Llywodraeth y DU

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:14, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Yn seiliedig ar gylch gwario Llywodraeth y DU, bydd ein cyllideb ar gyfer 2020-21 yn is o 2 y cant mewn termau real na'r hyn ydoedd yn 2010-11, sy'n cyfateb i £300 miliwn yn is mewn termau real na'r hyn ydoedd ddegawd yn ôl. Yn fy natganiad llafar ddoe, nodais effaith adolygiad gwariant Llywodraeth y DU.