Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 18 Medi 2019.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am y cyfle i siarad i'r cynnig yma gan Blaid Cymru i ddatgan cefnogaeth y Cynulliad yma i'r streiciau ysgol dros yr hinsawdd. Fridays for future, youth for climate, youth strike for climate—beth bynnag neu pa bynnag fathodyn ŷch chi eisiau rhoi arno fe, nid oes amheuaeth ei fod e nawr yn fudiad rhyngwladol o bobl ifanc sydd wedi penderfynu bod yr amser wedi dod i'w llais nhw gael ei glywed yn y drafodaeth a'r gwrthsafiad sydd ei angen i fynnu gweithredu i atal cynhesu byd eang ac i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd rŷm ni yn ei brofi ar hyn o bryd.
Nawr, rŷm ni'n gwybod y stori, wrth gwrs, yn dyddio yn ôl i weithred Greta Thunberg, pan gynhaliodd hi'r brotest yn Awst 2018—dim ond 12 mis yn ôl—y tu allan i'r Riksdag yn Sweden, yn dal arwydd 'school strike for the climate', a hithau wedyn yn penderfynu ei bod hi'n teimlo ei bod hi'n gorfod gwneud hyn bob dydd Gwener tan y byddai Llywodraeth Sweden yn alinio â chytundeb Paris. Hi fathodd y slogan 'Fridays for future', ac, fel rwy'n dweud, mewn cwta 12 mis rŷm ni wedi gweld y mudiad yma yn ymledu i bob rhan o'r byd.
Mi fydd hi, wrth gwrs, yn cymryd rhan mewn streiciau ysgol yn yr Unol Daleithiau ddydd Gwener yma, 20 Medi, ac mi fydd yna streiciau nawr yn digwydd ar bob cyfandir ar draws y byd, o Wlad yr Iâ i Gyprus yn Ewrop, i India a Phacistan, i Awstralia, Japan, y Philippines, De Affrica, gwledydd De America, yr Unol Daleithiau, fel yr oeddwn i'n ei ddweud, a Chanada. Yma yng Nghymru, wrth gwrs, mi fydda i'n ymuno â chriw o bobl ifanc o sir Conwy a fydd yn dod at ei gilydd ym Mae Colwyn. Rwy'n gwybod y bydd yna weithredu hefyd yn Wrecsam, fel y bydd mewn sawl tref a rhan o Gymru. Mae'r amseru yr wythnos yma yn arwyddocaol hefyd, wrth gwrs, o gofio bod yna uwchgynhadledd ar yr hinsawdd yn cael ei chynnal gan y Cenhedloedd Unedig yr wythnos nesaf.
Nawr, mae'r streiciau yma wedi bod yn hynod, hynod o effeithiol, nid yn unig yn troi pennau ac yn denu sylw ac yn ennyn trafodaeth o gwmpas yr argyfwng hinsawdd mewn ystafelloedd dosbarth ac ar fuarthau ysgol, ie, ac mewn cartrefi, mewn tafarndai ac mewn senedd-dai, wrth gwrs, fel rŷm ni yn ei wneud heddiw ac fel rŷm ni wedi'i wneud lawer tro cyn heddiw. Ond, ar y cyd â'r hyn y mae Extinction Rebellion wedi bod yn ei wneud dros y cyfnod diwethaf, mae'r naratif gwleidyddol, wrth gwrs, o gwmpas newid hinsawdd wedi newid yn llwyr. Yn wir, mae'r derminoleg wedi newid. Dŷn ni ddim yn dweud 'newid hinsawdd' bellach—rŷm ni'n cydnabod mai argyfwng hinsawdd sydd gennym. Ac roeddwn yn falch iawn, wrth gwrs, fod y Senedd yma wedi cefnogi cynnig Plaid Cymru i ddatgan argyfwng hinsawdd, sef y Senedd gyntaf, o beth rwy'n ddeall, yn y byd i wneud hynny. Roedd hi'n dda hefyd gweld Llywodraeth Cymru yn datgan yr un peth yn ogystal.
Mae'r momentwm sydd wedi cael ei adeiladu gan y bobl ifanc yma, ac eraill, wrth gwrs, wedi creu yr amgylchfyd newydd yna o safbwynt gwell dealltwriaeth ynglŷn â'r hyn sydd angen ei gyflawni. Nawr, dwi yn deall y bydd rhai pobl efallai'n meddwl dŷn ni ddim eisiau annog pobl ifanc i beidio â bod yn y dosbarth—i fod yn colli ychydig oriau neu ddiwrnod o addysg bob hyn a hyn—a bod yna risg i addysg y plant yn sgil hynny. Ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n ddim byd o'i gymharu â'r risg sy'n dod yn sgil goblygiadau'r newid hinsawdd y maen nhw yn ei wynebu llawer mwy nag y bydd nifer ohonom ni yn ei wynebu.