13. Dadl Fer: Hapus i Redeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 6:00, 18 Medi 2019

Ond, beth sydd gen i i'w ddweud y prynhawn yma yw ymateb yn fwy cyffredinol ynglŷn â phwysigrwydd symud ac ymarfer corfforol, ac i droi'r ddadl fer yma, fel, yn wir, mae Rhianon wedi gwneud yn barod, yn rhyw fath o apêl ar i bawb ohonom ni yng Nghymru ddysgu gwers pwysigrwydd ymarfer corff yn rheolaidd a'r manteision i iechyd corfforol a meddyliol sy'n dod yn sgil hynny. Fel y dywedwyd, mae ymarfer yn gostwng y risg o ddioddef afiechydon, ac mae'n ffordd o reoli cyflyrau sydd gyda ni eisoes. Mae'r dystiolaeth yn amlwg ac mae pwysigrwydd gweithgaredd corfforol rheolaidd bob dydd yn glir. Pe bai ymarfer corff yn gyffur, fe fyddai'n cael ei ystyried yn rhyw fath o ffisig neu driniaeth wyrthiol—moddion gwyrthiol ar gyfer iechyd—gan fod modd iddo atal a helpu cymaint o afiechydon.

Yn ogystal â bod yn dda ar gyfer iechyd yr unigolyn, fel y dywedaist ti, Rhianon, mae ymarfer corff hefyd yn ffordd o ddod ag unigolion at ei gilydd i fwynhau gweithgareddau ar y cyd. Mae o'n ffordd o gryfhau ysbryd cymunedol, a dyma'n union y mae'n ei wneud pan fydd yna gymaint o redwyr yn dod at ei gilydd, a dyna mae o'n ei wneud hefyd pan fydd rhedwyr unigol hyd yn oed yn pasio'i gilydd ar lwybrau yn ddyddiol, wrth redeg. Mae pobl yn dod i adnabod ei gilydd gan eu bod nhw'n rhannu ymarfer corfforol. Ac mae teimladau o unigrwydd ac o fod yn ynysig mewn cymdeithas yn deimladau, dŷn ni'n deall, sydd yn cynyddu ac mae cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol yn gyhoeddus gyda'r wisg briodol, yn amlwg, a gyda'r esgidiau priodol—mae hynny'n bwysig iawn, yn enwedig pan fydd rhywun yn mynd yn hŷn—. Af i ddim i hysbysebu siop arbennig yng Nghaerdydd lle byddaf i'n mynd i adnewyddu fy esgidiau rhedeg, ond mae o'n beth pwysig iawn i ni gael esgidiau cyfforddus a diogel bob amser, ac mae'r ffordd dŷn ni'n gwisgo a'r ffordd dŷn ni'n paratoi ar gyfer rhedeg yn allweddol.

Yn anffodus, mae'r sefyllfa rydym ni ynddi hi, yn ôl y wybodaeth ddiweddaraf sydd gyda ni fel Llywodraeth yn arolwg cenedlaethol Cymru, yn datgelu mai dim ond 53 y cant o oedolion—hynny yw, ychydig dros hanner oedolion Cymru—sydd yn dweud iddyn nhw wneud 150 o funudau o ymarfer corff yn yr wythnos flaenorol. Dwi ddim eisiau swnio fel rhyw bregethwr anghydffurfiol—er bod gen i bregethwr anghydffurfiol ardderchog yn y gynulleidfa'n gwrando arnaf i, a diolch yn fawr i ti—drwy ddweud ein bod ni'n condemnio hyn, ond mae o yn rhywbeth y dylai pobl ei ailystyried. A beth sydd yn arbennig o boenus ydy bod dynion yn fwy tebygol o ymarfer na menywod, bod pobl ddifreintiedig o ardaloedd llai breintiedig a phobl dros 75 oed yn llai tebygol o wneud unrhyw fath o ymarfer nag unrhyw ran arall o'r boblogaeth. Hynny yw, mae hwnna, mewn gwirionedd, yn groes i beth fyddai rhywun yn gobeithio amdano fo o ran gwerth ymarfer.

Felly, mae codi graddfeydd gweithgaredd corfforol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae gen i, fel Dirprwy Weinidog yn y swydd yma, gyfrifoldeb penodol ynglŷn â hyn ac mae o'n gyfirfoldeb yr ydw i'n ei gymryd o ddifrif. Rydyn ni wedi ymrwymo i godi lefelau gweithgarwch corfforol. Er mwyn cyflawni hynny, dŷn ni wedi sefydlu Partneriaeth Gweithgarwch Corfforol Cymru. Dyma un o'r cyfarfodydd mwyaf adeiladol dwi wedi bod ynddo, a dwi wedi bod yn y swydd yma bron i ddwy flynedd erbyn hyn, gan fod Iechyd Cyhoeddus Cymru, Chwaraeon Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn dod at ei gilydd, yn swyddogion a phenaethiaid, a swyddogion Llywodraeth Cymru, i ysgogi a chefnogi cydweithio o bob math. A dyma, dwi'n meddwl, ydy'r ffordd ymlaen yn y maes yma, sef bod y cyrff cyhoeddus sydd gyda ni yn gweithio drosom ni mewn gwahanol gyfeiriadau—Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr ochr iechyd, Chwaraeon Cymru o ran fy adran i, a Chyfoeth Naturiol Cymru o ran yr adran sydd yn gyfrifol ynglŷn â'r amgylchedd—yn dod at ei gilydd. Ac mi fydd yna, mae'n dda gen i gyhoeddi, gynhadledd genedlaethol yn y gwanwyn i'r rhanddeiliaid yma ddod at ei gilydd i ddatblygu cynllun gweithredu.