13. Dadl Fer: Hapus i Redeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 6:05, 18 Medi 2019

Fel dwi wedi dweud yn aml iawn yn y lle hwn, dydw i ddim yn ffan o'r hyn a elwir yn 'strategaeth'. Dwi'n fwy o ffan o'r hyn mae rhywun yn ei alw yn 'gynlluniau gweithredol', a dyna pam mae'r bartneriaeth yma mor bwysig, yn gweithio ar nifer o flaenoriaethau i wella data a ffyrdd o newid ymddygiad drwy ddatblygu'r hyn dŷn ni'n ei alw'n 'arsyllfa gweithgarwch corfforol'. Mae hwnna wedyn yn datblygu gwaith cyfathrebu ac ymgyrchu ar y cyd, ac yn integreiddio ein rhaglenni mewn ysgolion, Campau'r Ddraig, rhwydwaith ysgolion iach Cymru ac ysgolion eco er mwyn i hyn i gyd fod yn gynnig cynhwysfawr o ymarfer corfforol i gefnogi'r cwricwlwm newydd. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor yn y Cynulliad yma, y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Yn dilyn eu hymchwiliad nhw i weithgarwch corfforol plant a phobl ifanc, dŷn ni'n gallu symud ymlaen gyda'r argymhellion a gafodd eu gwneud gan y pwyllgor, ac mi fydd y camau yma yn dod yn rhan annatod o gynllun gweithredol 'Pwysau iach, Cymru iach'. Ac mae hyn yn ategu'r gwaith o wella iechyd ar draws ein poblogaeth.

Dwi'n falch iawn o glywed Rhianon yn sôn am hanes datblygu milltir y dydd, oherwydd dwi wedi cael y cyfle i fynd i sawl ysgol i weld milltir y dydd yn digwydd. Dwi am fod bach yn blwyfol a sôn yn arbennig am ysgol yn ardal hyfryd iawn o'r enw Llansantffraid Glan Conwy, ar waelod dyffryn Conwy lle dwi'n byw, a chael gweld y disgyblion yn gallu mwynhau rhedeg ar hyd cae ysgol a oedd ddim yn rhy wastad. Roedden nhw'n gallu rhedeg lan a rhedeg lawr, ac roedden nhw wirioneddol yn mwynhau eu hunain, ac roedden nhw'n deall beth oedden nhw'n ei wneud a pham oedden nhw'n ei wneud o. Mae 36 y cant o'n hysgolion, sef 450 ohonyn nhw, yn cymryd rhan yn y filltir y dydd. Felly, mae yna waith eto i wella yn y fan yna, ac mi fuaswn i'n annog hynny.

Dŷn ni hefyd wedi ymrwymo i gynyddu nifer y plant sy'n beicio, yn cerdded neu yn mynd ar sgwter i'r ysgol. Rydym ni'n aildendro ar gyfer rhaglen teithio llesol i'r ysgol, ac mae'n rhaid imi ddweud, fel tad-cu i bedwar o blant ifanc o oed ysgol, er bod un ohonyn nhw wedi mynd i'r ysgol uwchradd yn ddiweddar iawn, mae o'n beth annifyr iawn gen i i weld y perygl gwirioneddol sydd tu fas i gymaint o ysgolion pan fydd pobl yn defnyddio ceir a'u gyrru nhw mor agos ag y medran nhw tuag at yr ysgol. Wnaf i ddim enwi ysgolion, ond dwi'n ei weld o'n digwydd yn y de ac yn y gogledd, a dyna pam mae damweiniau wedi digwydd—mae damweiniau difrifol wedi digwydd yn y sefyllfa yna. Felly, mae angen inni weithredu nodau Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, yn sicr gan gynnwys mwy o lwybrau diogel o lawer i ysgolion, er mwyn annog pobl i ddefnyddio'r llwybrau yna yn hytrach na defnyddio ceir rhieni neu deulu i bigo pobl lan o'r ysgol.

Mae ein hysgolion ni'n rhan hanfodol, gyda rhan hanfodol i'w chwarae, yn annog plant a phobl ifanc i wneud mwy o weithgaredd corfforol, ac mae yna lot o waith wedi cael ei wneud, gan gynnwys darpariaeth yn y cwricwlwm newydd. Un o'r pedwar pwrpas ydy i ddysgwyr yn y cwricwlwm newydd ddatblygu yn unigolion iach a hyderus, ac mae hynna yn golygu cymryd mwy o weithgaredd corfforol, medru defnyddio gwybodaeth am effaith ymarfer corff a deiet ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl, a'r holl ddaioni a ddaw o hynny. Mae ymarfer corff a chwaraeon yn creu cyfleoedd hefyd i newid cymunedau, fel y dywedodd Rhianon, yn dod â phobl ynghyd at ei gilydd. A dyna pam rydym ni wedi bod yn gwario, fel Llywodraeth, yn barod yn y maes yma. Yn 2018-19, fe wnaethom ni gyfrannu dros £21 miliwn—£21.64 miliwn—i Chwaraeon Cymru o gyfanswm eu cyllideb o £43.24 miliwn. O'r swm hwn, mae £16 miliwn ar gyfer gweithredu ac ymarfer chwaraeon cymunedol. Mae hwnna'n neges glir iawn o beth yw blaenoriaeth y Llywodraeth yma. 

Mae cyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon Cymru hefyd yn benderfynol o'n cefnogi ni wrth greu Cymru egnïol drwy eu gwaith ar chwaraeon cymunedol. A gaf i ganmol yn arbennig Athletau Cymru? Yn 2015, fe wnaethon nhw lansio rhaglen rhedeg cymdeithasol, Rhedeg Cymru. Dwi yn un sydd yn hapus yn gwisgo dillad glaw coch gyda 'Rhedeg Cymru' wedi ei ysgrifennu arno fo, yn dilyn cymryd rhan yn lansio'r gweithgaredd yna. Mae'r rhaglen wedi cael effaith aruthrol ers cychwyn. Mae yna, erbyn hyn, 331,000 o oedolion yn rhedeg yn rheolaidd ledled Cymru. Mae yna gynnydd wedi bod o 176,000 o oedolion yn 2009.  Felly, mae yna gynnydd yn parhau i ddigwydd yn y niferoedd sydd yn rhedeg. Mae llwyddiant rhaglen Athletau Cymru yn seiliedig ar gyfleoedd rhedeg cyfeillgar, cefnogol a chynhwysol ar gyfer unigolion a grwpiau sydd am redeg.

Rydyn ni am i bobl fwynhau gwell iechyd a lles drwy fwy o hamddena yn yr awyr agored a byw bywydau mwy egnïol. Roeddwn i'n mwynhau'n fawr clywed Rhianon yn cyfeirio at Gwmcarn. Mae o'n lle nodedig iawn, dwi'n meddwl. Dwi wedi bod yna sawl gwaith, yn enwedig ar ymweliad yn ddiweddar, a dwi'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd y cyfan wedi gallu cael ei ailagor. Dwi'n siŵr y bydd yr ymarfer arbennig a welwn ni—pobl yn rhedeg yn yr ardal yna—yn rhan o hynny. Ond dwi hefyd yn cymeradwyo pobl efallai sydd ddim yn teimlo fel rhedeg, ond sydd yn gerddwyr cyflym a thalog, a dwi wedi cael cyfle i gerdded gyda cherddwyr Treorci ac eraill yn ystod y cyfnod yn y swydd yma. 

Ond i grynhoi bellach, mae'r holl gyllid rydyn ni wedi'i wario—cyhoeddiad a wnaed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a finnau ym mis Mehefin—wedi tynnu sylw at 17 o brojectau cronfa iach ac egnïol sydd yn werth £5.4 miliwn. Dŷn ni hefyd yn cydweithio â'r adran iechyd ynglŷn â phapurau doctor, 'presgripsiynu' cymdeithasol, os mai dyna'r gair cywir—a dwi'n edrych ar y meddyg da dros y ffordd i mi yn fanna. Mae hyn yn cysylltu pobl ag asedau cymunedol, yn rhoi pŵer iddyn nhw reoli eu hiechyd a'u llesiant. Mae'r cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff wedi bod yn gynllun dŷn ni'n sicr yn meddwl y bydd yn cyfrannu tuag at heneiddio yn dda yng Nghymru.

Diolch yn fawr i Rhianon am roi cyfle i mi ddod mas fel rhedwr, os rhedwr hŷn, rhesymol yn ei redeg, ac a gaf i ddiolch iddi hi am ei disgrifiad o bwysigrwydd rhedeg. Ac, felly, dewch i ni wneud hi'n rhan o ddyletswydd pob un ohonom ni fel Aelod Cynulliad ac aelod o'r Llywodraeth i redeg Cymru bob amser. Diolch yn fawr.