Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 18 Medi 2019.
Mae hi'n bwysig ein bod ni yn sicrhau bod ein hegwyddorion a'n gwerthoedd yn cael eu gweld drwy'r byd. Dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig, ynghyd â'r strategaeth yna, i ddweud yn glir hefyd bod cyber security yn un o'r prif bethau rŷm ni eisiau sicrhau bod pobl yn ei ddeall—bod Cymru yn un o'r llefydd lle mae yna arbenigrwydd yn y maes yma. A dyma'r peth dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n amlygu. Ac mae yn anodd gweld ble—. Mae yna berthynas agos, dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni gydnabod, rhwng beth sy'n digwydd ym maes amddiffyn a cyber security commercial. Ac felly, wrth gwrs, mae'n anodd i ni dynnu'r rheini oddi wrth ei gilydd. Mae yna berthynas, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig nad ydym ni'n tynnu i ffwrdd o wthio cyber security pan mae yna gyfle gyda ni.