Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:33, 18 Medi 2019

Weinidog, dwi ddim yn meddwl bod yr ateb yna yn ddigon da. Dro ar ôl tro, rydym ni'n cael addewidion gan eich Llywodraeth yn honni eich bod am fod yn gyfrifol, yn foesol, yn flaengar, a, dro ar ôl tro, rydych chi'n tanseilio'r addewidion hyn drwy weithredu mewn ffordd anghyfrifol, anfoesol a beth bynnag ydy'r gwrthwyneb i blaengar. Un maes sydd yn cael ei neilltuo yn llwyr yn y strategaeth yw gwneud defnydd o'r iaith Gymraeg er mwyn hyrwyddo diwylliant, treftadaeth a bywyd cymdeithasol unigryw ein cenedl. Mae strategaeth ryngwladol Gwlad y Basg, er enghraifft, yn cynnwys rôl ar gyfer y Etxepare Basque Institute, er mwyn hyrwyddo'r iaith Fasgeg a chynyddu proffil yr iaith a'r diwylliant yna o amgylch y byd. Er enghraifft, fe wnaethon nhw fynd eleni i'r Edinburgh fringe festival. Yr unig sôn am y Gymraeg yn eich strategaeth ryngwladol chi yw ambell gyfeiriad at y ffaith bod yr iaith yn bodoli. Ydych chi'n cytuno bod angen i chi ailystyried hyn eto, a rôl y Gymraeg o fewn eich strategaeth ryngwladol? A wnewch chi ymrwymo heddiw, fel cam cyntaf i unioni'r cam, y byddwch yn gwyrdroi'ch penderfyniad gwarthus i wrthod darparu gwersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid yng Nghymru—penderfyniad sy'n mynd yn gwbl groes i'r ymrwymiad yn eich cynllun noddfa i sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu cynnwys mewn cyfleoedd i ddysgu Cymraeg?