Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 18 Medi 2019.
Wel, credaf fod pob un ohonom yn gyffrous iawn, onid ydym, ynglŷn â chwpan y byd? Mae hwn yn gyfle enfawr, yn fy marn i, i ni fel cenedl Gymreig roi cyhoeddusrwydd i ni'n hunain ar lwyfan y byd. Gwn ein bod eisoes wedi anfon cynrychiolwyr bwyd a diod yno, a chafwyd ymateb eisoes ac rydym wedi sicrhau rhai contractau yn barod o ganlyniad i hynny. Mae gennym daith fasnach. Mae gennym 17 o gwmnïau yn cyfranogi yn y daith honno. Mae gennym dargedau clir iawn o ran ein disgwyliadau. Hoffem weld cynnydd mewn allforion o ganlyniad i hynny, ond mae'n ymwneud â mwy na busnes yn unig; mae'n ymwneud â chodi ein proffil. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym ddôm 9 troedfedd a fydd yn cael ei osod yng nghanol Japan, a dyma fydd canolbwynt ein gweithgarwch hyrwyddo. Mae hyn yn ymwneud â chodi proffil Cymru yn rhyngwladol. Yn amlwg, bydd bwyd a diod yn rhan allweddol o hynny. Twristiaeth: byddai gweld cynnydd yn nifer y twristiaid hefyd yn rhan allweddol o'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl fel budd.