2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 18 Medi 2019.
5. Pa amcanion allweddol y mae'r Gweinidog wedi'u gosod ar gyfer gweithgarwch hyrwyddo Llywodraeth Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Siapan? OAQ54332
Wel, credaf fod pob un ohonom yn gyffrous iawn, onid ydym, ynglŷn â chwpan y byd? Mae hwn yn gyfle enfawr, yn fy marn i, i ni fel cenedl Gymreig roi cyhoeddusrwydd i ni'n hunain ar lwyfan y byd. Gwn ein bod eisoes wedi anfon cynrychiolwyr bwyd a diod yno, a chafwyd ymateb eisoes ac rydym wedi sicrhau rhai contractau yn barod o ganlyniad i hynny. Mae gennym daith fasnach. Mae gennym 17 o gwmnïau yn cyfranogi yn y daith honno. Mae gennym dargedau clir iawn o ran ein disgwyliadau. Hoffem weld cynnydd mewn allforion o ganlyniad i hynny, ond mae'n ymwneud â mwy na busnes yn unig; mae'n ymwneud â chodi ein proffil. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym ddôm 9 troedfedd a fydd yn cael ei osod yng nghanol Japan, a dyma fydd canolbwynt ein gweithgarwch hyrwyddo. Mae hyn yn ymwneud â chodi proffil Cymru yn rhyngwladol. Yn amlwg, bydd bwyd a diod yn rhan allweddol o hynny. Twristiaeth: byddai gweld cynnydd yn nifer y twristiaid hefyd yn rhan allweddol o'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl fel budd.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rhaid i mi ddweud, mae'n rhaid na wneuthum sylwi, nid oeddwn yn sylweddoli bod gennym ddôm yn Japan. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn dal ein hanadl yn aros am y lluniau o'r dôm hwnnw pan fydd yn cyrraedd y glannau hynny. Ond yr hyn sy'n allweddol, ar ddiwedd y broses hon, yw nad ydym yn dweud, 'Gwariodd Llywodraeth Cymru x ac anfon y o bobl yno.' Mae angen i ni fesur pa mor llwyddiannus y buom.
Mae'n braf clywed bod y broses o hyrwyddo bwyd a diod yn dangos difidendau eisoes, ond wrth ddatblygu'r strategaethau hyrwyddo ar gyfer cwpan rygbi'r byd, pwy a ddefnyddioch i gefnogi datblygiad y strategaeth, er mwyn i ni wybod ein bod yn cael y gwerth gorau am ein harian? Oherwydd bydd llawer o wledydd eraill yn ei ddefnyddio fel llwyfan i hyrwyddo'u nwyddau, a'r hyn sy’n hanfodol bwysig, fel yr arferai'r WDA ei wneud, yw sicrhau bod Cymru'n sefyll allan ar lwyfan gorlawn. Felly, a ydych wedi ymgysylltu'n llawn â'r conswl anrhydeddus ar gyfer Japan yma, er enghraifft, ac yn arbennig, cwmnïau Japaneaidd sydd wedi lleoli yma sy’n gallu rhoi'r arbenigedd mewnol hwnnw i ni ynglŷn â sut i ymdrin â diwylliant Japan er mwyn i ni allu agor drysau i'r cwmnïau y bwriadwn eu hanfon yno?
Diolch. Rwy'n credu y dylwn bwysleisio nad dôm fel un Peter Mandelson ydyw; dôm oddeutu 9 troedfedd ydyw. Nid yw mor ddrud â hwnnw, ond rwy'n credu y bydd yn denu llawer iawn o sylw. Rydym wedi cael pobl i noddi’r dôm ac mae'n gyfleuster hollgynhwysol lle mae pethau'n cael eu taflunio ar y waliau ac mae'n gyffrous iawn. Mae llawer o gwmnïau wedi manteisio ar y cyfle i hyrwyddo'u hunain allan yno. Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos iawn ag undeb rygbi Cymru ac rwy'n credu eu bod wedi gwneud gwaith gwych hyd yn hyn, os edrychwch ar y croeso a gafodd y tîm yn Kitakyushu.
Ac wrth gwrs, mae gennym bresenoldeb Cymreig yn Japan yn barod. Mae gennym swyddfa yno. Mae gennym 40 mlynedd o sefydlu perthynas â chwmnïau Japaneaidd. Mae gennym Glwb Hiraeth, felly mae llawer o bobl sydd wedi gweithio yng Nghymru wedi dychwelyd i Japan. Mae'r holl rwydweithiau hynny'n cael eu gweithredu o ganlyniad i'r gweithgarwch hyrwyddo hwn. Felly, wrth gwrs, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r conswl anrhydeddus ar gyfer Japan ac mae'r holl rwydweithiau hynny’n fwy prysur o ganlyniad i gwpan y byd.