Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 18 Medi 2019.
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cadarnhau bod profion theori ar gael yn Gymraeg ym mhob canolfan yng Nghymru, a bod y DVSA yn bwriadu cyhoeddi fersiwn ar-lein o’r deunydd adolygu cyn diwedd y flwyddyn. Mae’r deunydd adolygu eisoes ar gael yn Gymraeg mewn ffurf papur.