Y Prawf Gyrru Theori yn Gymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:04, 18 Medi 2019

Wel, dwi bron ag eistedd lawr yn syth a dweud diolch yn fawr iawn am hynny. Mae hwn yn fater sydd wedi mynd yn ôl sbel. Dwi'n meddwl mai yn 2014-15 roeddwn i'n cyfathrebu efo'r DVSA ynglŷn â'r mater yma, achos dŷch chi'n hollol iawn wrth gwrs fod y profion ar gael yn Gymraeg ers blynyddoedd, ond wrth nad ydy'r deunydd ymarfer ar-lein ar gael yn Gymraeg—sypreis, sypreis—beth mae pobl yn ei wneud wrth ymarfer yn Saesneg yw penderfynu gwneud y prawf yn Saesneg hefyd. Dwi'n falch bod hyn yn digwydd rŵan. Mi ges i lythyr, 19 Ionawr 2015 oedd hi: