Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:53, 18 Medi 2019

Diolch yn fawr, David. Mae'ch Cymraeg chi yn ardderchog, a liciwn i'ch clywed chi yn siarad mwy ohoni hi, os gwelwch yn dda. Rydym ni'n cymryd camau pwrpasol mewn llawer o feysydd er mwyn symud tuag at y filiwn. Mae hyn yn cynnwys camau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac i osod seilwaith a chyd-destun i ganiatáu i hynny ddigwydd.