Gwlad — Gŵyl Cymru'r Dyfodol

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:15, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Gallaf gadarnhau bod Guto Harri, a oedd yn arfer gweithio i Boris Johnson o'r Telegraph, ymysg y siaradwyr a wahoddwyd i gymryd rhan yn Gwlad, ac mae'n rhaid i mi ddweud—ac fe'i clywais yn cael ei ddweud wrth i chi siarad, Janet Finch-Saunders—fod trafodaeth wleidyddol yn rhywbeth rydym yn rhagori arni yn y Siambr hon, yn yr adeilad hwn, ac mae angen i ni hyrwyddo mwy o drafodaeth wleidyddol yng Nghymru yn hytrach na llai ohoni. Felly, mae'r rhestr o siaradwyr—mae rhai yn siaradwyr, rhai yn gyfranwyr, bydd rhai'n aelodau o'r cyhoedd, gobeithio, a ddaw i'r adeilad hwn, a chymryd rhan mewn dadl ddemocrataidd am y tro cyntaf. Dylid annog hynny i gyd, ac rwy'n annog pob un ohonoch, os yn bosibl, i fynychu unrhyw un o'r digwyddiadau a gofyn i'ch etholwyr ac eraill o'ch cwmpas i fynychu cynifer o ddigwyddiadau—. Mae angen i ni gael gŵyl ddemocratiaeth yn y lle hwn ac ar yr adeg hon.