Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 18 Medi 2019.
Diolch i chi am eich cyfraniad. Rwy'n tybio eich bod yn swnio’n fwy gwybodus a than gyfaredd Carole Cadwalladr na’r rhan fwyaf ohonom. Buaswn yn dweud bod rhyddid i lefaru a'r hawl i fynegi unrhyw farn yn rhywbeth y mae'r Cynulliad hwn yn ei ystyried yn bwysig iawn ac yn awyddus i'w hyrwyddo, ac mae cymaint o groeso i Carole Cadwalladr siarad yma ag unrhyw un arall. Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at ei chlywed yn siarad, ac rwy'n gobeithio eich bod chi hefyd.