Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 18 Medi 2019.
Rwy’n sicr yn derbyn y pwynt ein bod am gefnogi amrywiaeth barn a chynnig llwyfan i'r holl safbwyntiau hynny, yn y Siambr hon ac yn y gwaith sy'n digwydd ar ein hystâd yn gyffredinol. Mae hon yn ddarlith sy'n cael ei chynnal mewn partneriaeth â Gŵyl y Gelli. Enillydd y wobr newyddiaduraeth yng Ngŵyl y Gelli eleni oedd Carole Cadwalladr a hi yw'r darlithydd gwadd. Rwyf hefyd yn credu ei bod yn bwysig cofio ei bod yn dod o Gaerdydd. Mae’n newyddiadurwr ymchwiliol sydd wedi ennill llawer o wobrau. Pa un a ydych yn cytuno â'i barn ar unrhyw fater y mae'n ei arddel, mae'n rhywun y gallwn fod yn falch ohoni a hithau’n Gymraes sydd wedi cael cryn ganmoliaeth a sylw gan gefnogwyr yr ymgyrch i aros, sydd yr un mor ddilys yn y lle hwn â chefnogwyr yr ymgyrch i adael. Ac rwy'n eich annog i gyd, os oes tocynnau ar ôl, oherwydd mae wedi bod yn boblogaidd iawn—pob tocyn sydd ar ôl—rwy'n eich annog i gyd, os gallwch ddod o hyd i’r amser, i wrando ar Carole Cadwalladr a gofyn cwestiwn iddi, efallai, yn hytrach na gofyn y cwestiwn hwn i mi. [Chwerthin.]