8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gwasanaethau Endosgopi yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:32, 18 Medi 2019

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig iawn yma heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wasanaethau endosgopi yma yng Nghymru. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ymchwiliadau manwl a gynhaliwyd gan y pwyllgor, a thros y misoedd nesaf byddwn yn cyflwyno dadleuon byr ar ein canfyddiadau mewn nifer o feysydd, fel deintyddiaeth, hepatitis C a gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Cytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad undydd i wasanaethau endosgopi oherwydd, ar yr adeg honno, roedd mwyafrif y byrddau iechyd yng Nghymru yn methu â chyflawni amseroedd aros am brofion a all wneud diagnosis o ganser y coluddyn. Dywedwyd wrthym hefyd fod nifer frawychus o fach o bobl gymwys yn cymryd rhan yn y rhaglen sgrinio coluddion. Sgrinio ydy’r ffordd orau i wneud diagnosis o ganser y coluddyn yn gynnar, ond, rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2018, dim ond 55 y cant o’r bobl sy’n gymwys i sefyll y prawf sgrinio coluddyn yng Nghymru a gwblhaodd y broses. Mae nifer y rhai sy’n manteisio yn uwch ymhlith menywod o'i gymharu â dynion. Mae cydberthynas gref hefyd ag amddifadedd, oherwydd mae nifer y rhai sy’n cymryd rhan yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 45 y cant o’i gymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, sy’n 63.3 y cant.

Ynglŷn â chyflwyno'r prawf FIT, ers mis Ionawr 2019, dechreuodd Cymru ddisodli’r prawf sgrinio cyfredol gyda phrawf symlach a chywirach o’r enw prawf imiwnogemegol ysgarthol—y prawf FIT—y disgwylir iddo gynyddu nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio. Mae pryderon, fodd bynnag, bod unedau endosgopi yn ysbytai Cymru eisoes yn ei chael hi’n anodd ymdopi efo'r galw, ac felly, er bod y prawf sgrinio newydd yn welliant cadarnhaol, gallai roi rhagor o straen ar wasanaeth sydd eisoes wedi’i or-ymestyn.

Rydym yn derbyn bod yn rhaid rheoli’r galw’n briodol, ond rydym yn siomedig bod y trothwyon ar gyfer y profion imiwnogemegol ysgarthol yn is yng Nghymru, ac rydym yn pryderu y bydd Cymru, heb gynllun clir i wneud y defnydd gorau o’r rhaglen, yn cwympo ymhellach y tu ôl i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Hoffem pe bai Llywodraeth Cymru, drwy’r rhaglen gwella endosgopi genedlaethol, yn gosod cerrig milltir ar gyfer sicrhau bod y rhaglen yn cael ei defnyddio i’r eithaf, o ran oedran a sensitifrwydd, fel y gellir mesur yn ôl y cerrig milltir hyn a monitro cynnydd yn y gobaith y gellir sicrhau y gwneir y defnydd gorau posibl o’r rhaglen cyn 2023. 

Gan droi at amseroedd aros, yn 2015, ymrwymodd Llywodraeth Cymru arian ychwanegol i wella amseroedd aros am brofion diagnostig, gan gynnwys ar gyfer pobl sy'n aros am driniaethau endosgopi ar ôl cael canlyniad sgrinio cadarnhaol. Darparwyd cyllid ychwanegol hefyd yn 2016-17. Fodd bynnag, er gwaethaf y cyllid ychwanegol hwn, mae ystadegau amseroedd aros yn dal i beri pryder, ac mae angen ymrwymiad clir y bydd byrddau iechyd yn cyrraedd y targed amseroedd aros uchaf am brofion diagnostig, sef wyth wythnos, erbyn diwedd 2019.

Disgrifiodd tystion yn ystod ein hymchwiliad ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â materion yn ymwneud â chapasiti fel dull adweithiol a thymor byr. Rhoddodd nifer o fyrddau iechyd fanylion am ysbytai sy’n contractio darparwyr allanol preifat ar gyfer darparu gwasanaethau’n fewnol i wneud triniaethau endosgopi o fewn y bwrdd iechyd ar benwythnosau, yn ogystal â rhoi gwaith ar gontract allanol, lle caiff cleifion eu hanfon at ddarparwyr preifat mewn safleoedd y tu allan i’r bwrdd iechyd, i ymdopi efo’r galw. Er bod angen rhagor o fuddsoddiad i reoli amseroedd aros, mae angen dull mwy cynaliadwy hefyd, gan fod rhoi gwaith ar gontract allanol a chontractau i ddarparu gwasanaethau’n fewnol yn ddrud ac nid yw’n darparu datrysiad hirdymor.

At y gweithlu nawr: mae angen newidiadau i natur a sgiliau’r gweithlu presennol, ac ymrwymiad nid yn unig i gynyddu nifer y gastroenterolegwyr ac endosgopyddion meddygol eraill, ond hefyd i ddatblygu endosgopyddion nyrsio ac endosgopyddion anfeddygol eraill. Roedd y pwyllgor yn siomedig, felly, i glywed bod rhai nyrsys yn cael cyflogau llai nag eraill yng Nghymru i wneud gwaith endosgopi. Mae angen mynd i’r afael efo hyn.

Y neges gan dystion oedd bod angen ffocws a brys i sicrhau nad yw Cymru ar ei hôl hi o’i chymharu â chenhedloedd eraill. Roedd Bowel Cancer UK, er enghraifft, eisiau gweld cynllun gweithredu cenedlaethol, gyda cherrig milltir allweddol, fel y gallai Llywodraeth Cymru gael ei dwyn i gyfrif am gyflawni a gweithredu’r cynllun. Nododd tystion y pwynt hefyd y bu nifer o adolygiadau, a bod y materion, neu'r problemau, yn amlwg. Gweithredu ac atebion yw’r hyn sydd ei angen nawr.

Felly, gwnaethom un argymhelliad cyffredinol yn ein hadroddiad: erbyn mis Hydref 2019, dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r rhaglen gwella endosgopi genedlaethol i greu a chyhoeddi cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol sy’n mynd i’r afael efo’r galw nawr ac yn y dyfodol am wasanaethau sydd ag amserlenni a thargedau clir ar gyfer gwella. Rwy’n croesawu ymateb cadarnhaol y Gweinidog i’n hadroddiad, a dwi’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn, ac wedi ymrwymo i gyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer gwasanaethau endosgopi o fewn yr amserlen chwe mis a nodwyd gan y pwyllgor. Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y rhaglen endosgopi genedlaethol yn gynharach heddiw. Dwi'n falch bod y cynllun gweithredu wedi ei ddrafftio, ac edrychaf ymlaen at ei gyhoeddi, yn unol ag argymhelliad y pwyllgor.

I gloi, fel y dywed y Gweinidog ei hun, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau cynaliadwyedd y gwasanaethau endosgopi fel y gall pobl gyrraedd yr archwiliadau sydd eu hangen arnynt er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl. Mae’n bryd gwneud cynnydd nawr, a hyderaf y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r arweinyddiaeth gref sydd ei hangen i gyflawni’r agenda hwn. Diolch yn fawr.