– Senedd Cymru am 3:32 pm ar 18 Medi 2019.
Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, 'Gwasanaethau endosgopi yng Nghymru'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig iawn yma heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wasanaethau endosgopi yma yng Nghymru. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ymchwiliadau manwl a gynhaliwyd gan y pwyllgor, a thros y misoedd nesaf byddwn yn cyflwyno dadleuon byr ar ein canfyddiadau mewn nifer o feysydd, fel deintyddiaeth, hepatitis C a gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Cytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad undydd i wasanaethau endosgopi oherwydd, ar yr adeg honno, roedd mwyafrif y byrddau iechyd yng Nghymru yn methu â chyflawni amseroedd aros am brofion a all wneud diagnosis o ganser y coluddyn. Dywedwyd wrthym hefyd fod nifer frawychus o fach o bobl gymwys yn cymryd rhan yn y rhaglen sgrinio coluddion. Sgrinio ydy’r ffordd orau i wneud diagnosis o ganser y coluddyn yn gynnar, ond, rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2018, dim ond 55 y cant o’r bobl sy’n gymwys i sefyll y prawf sgrinio coluddyn yng Nghymru a gwblhaodd y broses. Mae nifer y rhai sy’n manteisio yn uwch ymhlith menywod o'i gymharu â dynion. Mae cydberthynas gref hefyd ag amddifadedd, oherwydd mae nifer y rhai sy’n cymryd rhan yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 45 y cant o’i gymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, sy’n 63.3 y cant.
Ynglŷn â chyflwyno'r prawf FIT, ers mis Ionawr 2019, dechreuodd Cymru ddisodli’r prawf sgrinio cyfredol gyda phrawf symlach a chywirach o’r enw prawf imiwnogemegol ysgarthol—y prawf FIT—y disgwylir iddo gynyddu nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio. Mae pryderon, fodd bynnag, bod unedau endosgopi yn ysbytai Cymru eisoes yn ei chael hi’n anodd ymdopi efo'r galw, ac felly, er bod y prawf sgrinio newydd yn welliant cadarnhaol, gallai roi rhagor o straen ar wasanaeth sydd eisoes wedi’i or-ymestyn.
Rydym yn derbyn bod yn rhaid rheoli’r galw’n briodol, ond rydym yn siomedig bod y trothwyon ar gyfer y profion imiwnogemegol ysgarthol yn is yng Nghymru, ac rydym yn pryderu y bydd Cymru, heb gynllun clir i wneud y defnydd gorau o’r rhaglen, yn cwympo ymhellach y tu ôl i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Hoffem pe bai Llywodraeth Cymru, drwy’r rhaglen gwella endosgopi genedlaethol, yn gosod cerrig milltir ar gyfer sicrhau bod y rhaglen yn cael ei defnyddio i’r eithaf, o ran oedran a sensitifrwydd, fel y gellir mesur yn ôl y cerrig milltir hyn a monitro cynnydd yn y gobaith y gellir sicrhau y gwneir y defnydd gorau posibl o’r rhaglen cyn 2023.
Gan droi at amseroedd aros, yn 2015, ymrwymodd Llywodraeth Cymru arian ychwanegol i wella amseroedd aros am brofion diagnostig, gan gynnwys ar gyfer pobl sy'n aros am driniaethau endosgopi ar ôl cael canlyniad sgrinio cadarnhaol. Darparwyd cyllid ychwanegol hefyd yn 2016-17. Fodd bynnag, er gwaethaf y cyllid ychwanegol hwn, mae ystadegau amseroedd aros yn dal i beri pryder, ac mae angen ymrwymiad clir y bydd byrddau iechyd yn cyrraedd y targed amseroedd aros uchaf am brofion diagnostig, sef wyth wythnos, erbyn diwedd 2019.
Disgrifiodd tystion yn ystod ein hymchwiliad ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â materion yn ymwneud â chapasiti fel dull adweithiol a thymor byr. Rhoddodd nifer o fyrddau iechyd fanylion am ysbytai sy’n contractio darparwyr allanol preifat ar gyfer darparu gwasanaethau’n fewnol i wneud triniaethau endosgopi o fewn y bwrdd iechyd ar benwythnosau, yn ogystal â rhoi gwaith ar gontract allanol, lle caiff cleifion eu hanfon at ddarparwyr preifat mewn safleoedd y tu allan i’r bwrdd iechyd, i ymdopi efo’r galw. Er bod angen rhagor o fuddsoddiad i reoli amseroedd aros, mae angen dull mwy cynaliadwy hefyd, gan fod rhoi gwaith ar gontract allanol a chontractau i ddarparu gwasanaethau’n fewnol yn ddrud ac nid yw’n darparu datrysiad hirdymor.
At y gweithlu nawr: mae angen newidiadau i natur a sgiliau’r gweithlu presennol, ac ymrwymiad nid yn unig i gynyddu nifer y gastroenterolegwyr ac endosgopyddion meddygol eraill, ond hefyd i ddatblygu endosgopyddion nyrsio ac endosgopyddion anfeddygol eraill. Roedd y pwyllgor yn siomedig, felly, i glywed bod rhai nyrsys yn cael cyflogau llai nag eraill yng Nghymru i wneud gwaith endosgopi. Mae angen mynd i’r afael efo hyn.
Y neges gan dystion oedd bod angen ffocws a brys i sicrhau nad yw Cymru ar ei hôl hi o’i chymharu â chenhedloedd eraill. Roedd Bowel Cancer UK, er enghraifft, eisiau gweld cynllun gweithredu cenedlaethol, gyda cherrig milltir allweddol, fel y gallai Llywodraeth Cymru gael ei dwyn i gyfrif am gyflawni a gweithredu’r cynllun. Nododd tystion y pwynt hefyd y bu nifer o adolygiadau, a bod y materion, neu'r problemau, yn amlwg. Gweithredu ac atebion yw’r hyn sydd ei angen nawr.
Felly, gwnaethom un argymhelliad cyffredinol yn ein hadroddiad: erbyn mis Hydref 2019, dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r rhaglen gwella endosgopi genedlaethol i greu a chyhoeddi cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol sy’n mynd i’r afael efo’r galw nawr ac yn y dyfodol am wasanaethau sydd ag amserlenni a thargedau clir ar gyfer gwella. Rwy’n croesawu ymateb cadarnhaol y Gweinidog i’n hadroddiad, a dwi’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn, ac wedi ymrwymo i gyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer gwasanaethau endosgopi o fewn yr amserlen chwe mis a nodwyd gan y pwyllgor. Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y rhaglen endosgopi genedlaethol yn gynharach heddiw. Dwi'n falch bod y cynllun gweithredu wedi ei ddrafftio, ac edrychaf ymlaen at ei gyhoeddi, yn unol ag argymhelliad y pwyllgor.
I gloi, fel y dywed y Gweinidog ei hun, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau cynaliadwyedd y gwasanaethau endosgopi fel y gall pobl gyrraedd yr archwiliadau sydd eu hangen arnynt er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl. Mae’n bryd gwneud cynnydd nawr, a hyderaf y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r arweinyddiaeth gref sydd ei hangen i gyflawni’r agenda hwn. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Pwyllgor am wneud yr adroddiad hwn. Yn anffodus, roeddwn yn absennol ar y diwrnod y gwnaethoch yr adroddiad undydd, ond rwyf wedi darllen eich adroddiad, rwyf wedi darllen ymateb y Llywodraeth, ac wrth gwrs rwy'n adlewyrchu sylwebaeth llawer o fy etholwyr sy'n dod i fy ngweld mewn perthynas â'r mathau hyn o wasanaethau. A sylwais ar ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor, ac a bod yn blwmp ac yn blaen, roeddwn yn meddwl bod rhywfaint ohono—dim ond rhywfaint ohono—yn wan iawn, oherwydd rydych wedi derbyn yr argymhelliad a wnaed gan y pwyllgor. Fodd bynnag, rydych yn dweud bod gwasanaethau endosgopi o dan bwysau oherwydd newidiadau yn y boblogaeth, trothwy is ar gyfer archwiliadau canser, galw cynyddol am drefniadau cadw gwyliadwriaeth, a'r angen i ehangu rhaglen sgrinio'r coluddyn. Mewn ymateb, buaswn yn dweud, fan lleiaf, y dylai'r gwasanaeth allu ymateb yn awr i amcanion rhaglen sgrinio'r coluddyn. O ystyried bod cyfradd y rhai a gaiff eu sgrinio mor isel—55 y cant yn unig—dylai fod rhywfaint o slac yn y system eisoes beth bynnag. Mae'r cysyniad o anelu at gael cyfradd uwch o bobl wedi'u sgrinio heb sicrhau bod yr adnoddau wrth law i ddarparu'r rhaglen yn baradocs llwyr. A hoffwn nodi hefyd, er gwaethaf yr argymhellion a wnaed mor bell yn ôl â 2013, mai ychydig o gynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â'r heriau y mae gwasanaethau endosgopi ledled Cymru yn eu hwynebu. Felly, Weinidog, nid yw'r heriau a nodwch yn eich ymateb i'r pwyllgor yn newydd o gwbl. Mae awgrymu fel arall yn anonest ac yn bwysicach na dim, mae'n caniatáu rhywfaint o raff nad ydynt yn ei haeddu i'r rhai sy'n gyfrifol am gynllunio gwasanaethau. Gwelaf fod y grŵp gweithredu endosgopi eisiau i'r Llywodraeth fabwysiadu dull mwy cyfarwyddol, a phob clod i chi am symud i'r cyfeiriad hwnnw. Ond mae'n codi cwestiynau ynglŷn â'r gallu i gynllunio a darparu yn y byrddau iechyd.
O ystyried yr argyfwng sy'n wynebu gwasanaethau endosgopi, Weinidog, a allwch chi gyflymu'r broses o gyflwyno cynllun cenedlaethol? Cafodd yr ymrwymiad ei wneud ym mis Medi 2018, ond, flwyddyn yn ddiweddarach, mae'r cylch gorchwyl yn dal i gael ei gwblhau. Nid yw'n gyflym iawn ac yn y cyfamser, rwy'n pryderu bod gwasanaethau'n parhau'n ddisymud a bywydau pobl yn parhau i gael eu heffeithio. Os oes unrhyw ffordd y gallwch symud y broses honno yn ei blaen yn gyflymach fel y gallwn ddarparu gwasanaethau endosgopi da ledled Cymru, credaf y byddai hwnnw'n gam cadarnhaol iawn ymlaen.
Gallai cyflwyno'r Prawf Imiwnogemegol Ysgarthion wella'r nifer sy'n manteisio ar y rhaglen sgrinio. Dylai wella cyfraddau canfod canser y coluddyn a pholypau cyn-ganseraidd yn y coluddyn—fodd bynnag, ceir paradocs eto, oherwydd yr amseroedd aros annerbyniol, ac mae angen ymrwymiad clir gan y byrddau iechyd i fynd i'r afael â'r broblem hon, gan na all unrhyw raglen weithio heb fod y seilwaith yn ei le a phersonél wedi'u hyfforddi'n briodol.
Mae'r gweithlu presennol yn enbyd o brin o gastroenterolegwyr ac endosgopwyr meddygol ac anfeddygol eraill. Mae nyrsys sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau endosgopi ar gyfraddau cyflog anghyfartal ac is, ac rydym angen gweld bod achrediad y cyd-grŵp cynghori ar gyfer endosgopi gastroberfeddol—mawredd, onid yw'r GIG yn creu geiriau eithriadol o hir ar brydiau, a gaf fi ddweud y darn hwnnw eto? Mae angen inni weld bod achrediad y cyd-grŵp cynghori ar gyfer endosgopi gastroberfeddol yn cael ei roi ar waith fel ein bod yn gwybod, fel y gallwn fod yn sicr, fod pob bwrdd iechyd yn darparu gwasanaethau yn unol â'r arfer clinigol gorau.
Ond Weinidog, yr hyn sy'n peri rhwystredigaeth go iawn yw diffyg cynllunio ac ymrwymiad priodol gan rai byrddau iechyd. Gadewch i mi roi enghraifft i chi: roedd gan Ysbyty Glan Clwyd dîm sefydlog o dri gastroenterolegydd: mae un wedi ymddeol ac un wedi symud, ac eto nid oedd unrhyw flaengynlluniau wedi'u gwneud i ymdopi â'r newid hwn; nid oedd ganddynt gynllun B. Mae Wrecsam Maelor yn cael trafferth gyda staff locwm; mae trafferthion gyda'r capasiti ar benwythnosau. Felly, mae hon yn enghraifft wych o gamreoli. Nid oes cynllun wrth gefn, nid oedd unrhyw flaengynllunio, ac mae'n arwain at ganlyniadau dinistriol i unigolion. Derbyniodd claf terfynol yn dioddef o ganser y coluddyn ei wahoddiad i gyfarfod â'r meddyg ymgynghorol yn yr un mis ag y dywedodd meddyg ymgynghorol arall mewn ysbyty arall na fyddent yn byw i wneud hynny. Meddyliwch pa mor ofnadwy fyddai hynny, cael llythyr yn dweud, 'Dewch draw y mis hwn i gael cadarnhad o'ch diagnosis' a rhywun arall eisoes wedi dweud wrthych, 'Mae'n debyg y byddwch wedi marw erbyn hynny'. Mae angen i'r bwrdd iechyd hwnnw wneud yn well. Mae angen i'r GIG wneud yn well. Mae angen i ni i gyd wneud yn well.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar yr adroddiad, yn ddealladwy, ar bwysigrwydd gwasanaethau endosgopi i drin canser y coluddyn yng Nghymru, ac yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn nodi eu bod hefyd yn bwysig i driniaethau ar gyfer cyflyrau difrifol nad ydynt yn ganser fel clefyd Crohn a llid briwiol y coluddyn, a gwn fod Crohn's and Colitis UK wedi ymgyrchu dros wasanaethau endosgopi gwell yng Nghymru.
Yn ogystal â hynny, gyda'r adroddiad hwn mewn golwg, cyfarfûm â Norgine, cwmni yn fy etholaeth, sydd wedi'i leoli yn Nhir-y-Berth—cyflogwr mawr iawn, ac un o gwmnïau angori Llywodraeth Cymru, sy'n cynhyrchu cynhyrchion fferyllol sy'n trin y cyflyrau hyn ac a ddefnyddir hefyd wrth baratoi ar gyfer colonosgopïau. Felly, mae ganddynt ddiddordeb cryf iawn yn y maes hwn. Ac roedd cyfarfod â'r staff yno a thrafod rhai o'r materion yn dipyn o addysg. Mewn gwirionedd, pan euthum yno, roedd copi o adroddiad y pwyllgor ar eu desg. Felly, roedd yn dda fod y pwyllgor wedi ymchwilio i hyn ac mae'n dangos gwerth y gwaith rydych yn ei wneud. Mae'n cael ei glywed gan bobl ac mae wedi cael ei glywed gan y cwmni hwn.
Gofynasant i mi godi rhai materion allweddol, ac fe'u trafodais gyda hwy, oherwydd nid wyf yn arbenigwr yn y maes hwn. Nid oeddwn yn deall y materion yn llawn hyd nes i mi gael y sgwrs honno gyda hwy a darllenais eich adroddiad, sy'n adroddiad da iawn. Y mater allweddol iddynt hwy yw sut y gallwn fynd i'r afael ag effeithlonrwydd gwasanaethau—felly, gwneud mwy gyda'r hyn sydd gennym yn barod. Ac yn wir, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi hynny yn eu hymateb i argymhelliad allweddol yr adroddiad. Roedd Norgine yn pryderu nad archwiliwyd effeithlonrwydd yn benodol yn yr adroddiad ei hun. Dywedasant fod gwaith o ansawdd uchel ar baratoi'r coluddyn cyn colonosgopi yn faes allweddol y dylid mynd i'r afael ag ef fel rhan o'r cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol a bod mentrau i ysgogi enillion effeithlonrwydd a chynaliadwyedd cyffredinol yn allweddol i'r hyn y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud nesaf. Dywedasant wrthyf mai gwaith annigonol ar baratoi'r coluddyn yw'r prif reswm dros driniaethau colonosgopi aflwyddiannus a gall arwain at oedi neu golli diagnosis, triniaethau hwy ac anos a'r angen wedyn i ailadrodd triniaethau. Dywedasant eu bod yn gweithio'n barhaus i geisio gwella'r broses honno a bod eu cynnyrch wedi'i gynllunio i wneud hynny.
Felly, maent wedi gofyn am dri pheth allweddol mewn perthynas â chanlyniad yr adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru. Maent eisiau tri pheth: maent eisiau gweld y cynllun gweithredu endosgopi yn cael ei gyhoeddi ar fyrder, ac mae'r adroddiad wedi pwyso am hynny ac rydym yn dechrau gweld hynny'n digwydd. Ond yn ogystal â hyfforddiant a chapasiti ysbytai, mae'n bwysig fod meysydd ehangach ar gyfer gwella yn cael y lefel briodol o graffu—felly, gan edrych y tu hwnt i hyfforddiant a chapasiti ysbytai yn unig—ac os oes angen, dylai'r pwyllgor a/neu'r rhaglen endosgopi genedlaethol ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol i archwilio pa welliannau y gellid eu gwneud mewn perthynas â pharatoi'r coluddyn. Yr hyn y maent yn ei ddweud wrthych, Weinidog, yw bod ganddynt arbenigedd ac y byddent yn fwy na pharod i drafod hynny gyda chi. Cwmni Cymreig ydyw; maent wedi bod yn Nhir-y-Berth ers 50 mlynedd a byddent yn croesawu sgwrs gyda chi, yn enwedig mewn perthynas â'r broses baratoi well honno.
Nodaf eich bod wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw yn annog enillion effeithlonrwydd, ond rwy'n eich annog i ymgysylltu â'r cwmni hwnnw oherwydd dysgais lawer y diwrnod hwnnw a chredaf y gall deialog o'r fath helpu'n fawr yn y gwaith o gynllunio gwasanaethau yn y dyfodol.
Diolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am ei adroddiad ar wasanaethau endosgopi. Fel rwyf fi a llawer o bobl eraill wedi'i nodi, mae'r pwysau ar wasanaethau diagnostig yng Nghymru yn llesteirio ein gallu i wella cyfraddau goroesi canser. Canser y coluddyn yw'r ail ar y rhestr o ganserau sy'n lladd y nifer fwyaf o bobl yng Nghymru. Mae tua 17 o bobl yn marw o ganser y coluddyn bob wythnos. Rydym wedi colli dau o'n pobl ein hunain i'r clefyd erchyll hwn.
Fel gyda phob canser, mae diagnosis cynnar yn allweddol i oroesiad hirdymor. O gael diagnosis ar gam 1, mae 90 y cant o gleifion canser y coluddyn yn goroesi. Mae hyn yn gostwng i lai nag un o bob 10 pan gaiff ei ganfod ar gam 4. Sgrinio'r coluddyn yw'r ffordd orau o sicrhau diagnosis cynnar, ond caiff llai na 10 y cant o ganserau'r coluddyn eu canfod gan raglen sgrinio'r coluddyn Cymru.
Yn gynharach y mis hwn, disodlodd y Prawf Imiwnogemegol Ysgarthion yr hen brawf gwaed, a oedd yn llai cywir, ar gyfer sgrinio'r coluddyn i unrhyw un rhwng 60 a 74 oed. Yn anffodus, bydd y Prawf Imiwnogemegol Ysgarthion yn llawer llai sensitif oherwydd materion yn ymwneud â chapasiti mewn gwasanaethau endosgopi. Byddwn yn parhau i golli llawer o ganserau oherwydd nad oes gennym weithlu digonol. Unwaith eto, mae diffyg cynllunio gweithlu strategol dros y degawd neu ddau diwethaf yn golygu na fydd ein GIG yn gallu ymdopi â phwysau yn y dyfodol. Mae'n rhaid i ni ostwng ein gallu i ganfod canser am nad oes gennym weithlu i gynnal profion pellach.
Mae pwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU o'r farn y dylid sgrinio pawb dros 50 oed am ganser y coluddyn er mwyn mynd i'r afael â'r 16,000 o farwolaethau blynyddol o ganlyniad i'r clefyd dychrynllyd hwn. Unwaith eto, nid ydym wedi mynd i'r afael â'r argymhelliad hwn oherwydd problemau capasiti. Nid prinder arian yw'r rheswm am hyn; canlyniad diffyg blaengynllunio ydyw a methiant llwyr Llywodraethau olynol i weithredu cynllunio strategol ar gyfer y gweithlu.
Rwy'n croesawu argymhelliad y pwyllgor a galwadau am gynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol. Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi derbyn argymhellion y pwyllgor a'i fod wedi dweud yn glir mai gofyniad sylfaenol ac nid targed yw'r trothwy sgrinio o 60 y cant. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod yn nes at 100 y cant yn defnyddio'r gwasanaeth, ond er mwyn gwneud hynny, mae angen inni sicrhau bod gennym ddigon o gapasiti yn awr i ymdopi â'r cynnydd aruthrol a ragwelir yn y garfan o bobl dros 50 oed.
Bydd hyn yn gofyn am gynllunio strategol ar lefel Cymru a'r DU. Rwy'n annog y Gweinidog ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru i weithio'n agos gyda'r gwledydd cartref eraill, yn ogystal â Llywodraeth y DU, i sicrhau bod gennym ddigon o staff wedi'u hyfforddi'n dda ar draws ein gwasanaethau diagnostig. Gallwn drechu'r clefyd ofnadwy hwn drwy sicrhau bod pawb sydd mewn perygl yn cael eu sgrinio'n rheolaidd a'u bod yn ymwybodol o arwyddion cynnar canser y coluddyn. Bryd hynny yn unig y gallwn sicrhau nad oes yn rhaid i deuluoedd eraill ddioddef yr hyn y bu'n rhaid i deuluoedd Sam a Steffan ei ddioddef. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am gyflwyno'r ddadl heddiw ar eu hadroddiad yn dilyn eu hymchwiliad i'r mater pwysig hwn. Rwy'n cydnabod nad yw'r mater wedi cael llawer o ffocws a sylw o ran adroddiadau pwyllgor a gwaith craffu yn y gorffennol, ac rwy'n credu ei bod yn dda fod hynny wedi digwydd yn awr. Mae'n darparu cwestiynau i'r Llywodraeth ac mae'n wir nad oes gennym atebion cyfforddus bob amser, ond mae atebion gonest yn ein hymateb am y sefyllfa bresennol, ac yn wir, yn ein hymrwymiad i fuddsoddi'r amser a'r ymdrech sy'n angenrheidiol i gyflawni'r math o wasanaeth y byddai pob un ohonom yn y Siambr hon ei eisiau i'n hetholwyr. Oherwydd rwy'n cydnabod bod gwasanaethau endosgopi yn hanfodol os ydym am fod mewn sefyllfa i gynnal archwiliadau amserol o ansawdd uchel ar gyfer ystod o feysydd triniaeth. Mae'n rhagofyniad ar gyfer cyflawni'r amseroedd aros ar gyfer diagnosteg a chanser, cyflawni achrediad uned endosgopi, ac wrth gwrs darparu gwell canlyniadau ar gyfer cyflyrau fel canser. Fodd bynnag, ni ddylem ddiystyru'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu ein GIG. Mae'n cynnwys gwelliannau angenrheidiol mewn data a chynllunio, recriwtio a hyfforddi, diwygio a safoni ein llwybrau clinigol, yn ogystal â buddsoddi cyfalaf mewn unedau a galluogwyr digidol newydd.
Felly, mae'n her amlochrog, a'r cyfan yn erbyn cefndir o gynnydd gwirioneddol yn y galw o flwyddyn i flwyddyn, a gaiff ei lywio gan boblogaeth sy'n heneiddio a chanllawiau clinigol sy'n newid. Felly, mae'n galw am weithredu ar unwaith, wrth gwrs, ond mae'n rhaid i hynny gyd-fynd â'r ffocws mwy hirdymor a pharhaus y gwn fod y pwyllgor wedi'i gydnabod a'i ddeisyfu gan y Llywodraeth. Ac rydym yn cytuno ar hynny, felly nid mater syml o roi arian ychwanegol er mwyn lleihau rhestrau aros yw hyn. Dyna pam y byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor erbyn diwedd mis Hydref, a byddaf yn sicrhau ei fod yn rhoi sylw i'r pwyntiau y mae'r pwyllgor wedi'u codi. Yn y cyfamser, rydym wedi gweithredu amryw o gamau brys sy'n ofynnol ac wedi rhoi rhaglen genedlaethol fanwl a chynhwysfawr ar waith. Rwyf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw, a gwn fod y Cadeirydd wedi cyfeirio ato, i amlinellu'r dull rydym wedi'i fabwysiadu yn fanylach, y cynnydd a wnaed hyd yma, ac wrth gwrs, y gwaith a fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf. Felly, bydd angen inni symud yn gyflym wedyn at yr amcan a'r gweithredoedd sy'n ofynnol yn y tymor canolig er mwyn sefydlogi gwasanaethau endosgopi, ac yna'r amcanion a'r camau mwy hirdymor sydd eu hangen i sicrhau gwasanaeth gwirioneddol gynaliadwy. Felly, sefydlwyd y rhaglen fel gwasanaeth a gyfarwyddir yn genedlaethol gan y Llywodraeth, yn hytrach na'i harwain gan y GIG, ac mae hynny'n gyson, os mynnwch, yng nghyd-destun yr uchelgeisiau a nodwyd gennym yn 'Cymru Iachach'. Bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithredu arweiniad canolog cryfach.
Felly, cadeirir bwrdd y rhaglen endosgopi newydd gan ddirprwy brif weithredwr y GIG a'r dirprwy brif swyddog meddygol. Mae'r bwrdd yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o'r byrddau iechyd a phobl sy'n cynrychioli rhaglenni gwaith cysylltiedig pwysig fel canser, patholeg a sgrinio'r coluddyn. Rwy'n meddwl am bwynt Hefin David ynglŷn â’r diddordeb sydd gan Norgine yn y maes hwn, ac rwy'n credu y gallai fod yn briodol gweld a fyddent yn cyfarfod ac yn cael trafodaeth uniongyrchol â'r bwrdd endosgopi. Fe af ar drywydd hynny mewn sgwrs gydag ef am y cwmni lleol. Ond bydd y bwrdd hwnnw'n goruchwylio pedair ffrwd waith, gan edrych ar gynllunio galw a chapasiti, addysg a hyfforddiant y gweithlu, datblygu llwybrau clinigol a gofynion cyfleusterau a seilwaith. Darparir cefnogaeth sylweddol eisoes gan gydweithrediaeth y GIG. Mae hynny'n cynnwys arweinydd y rhaglen genedlaethol a'u tîm, yn ogystal ag arweinwyr clinigol a rheolaethol ar gyfer pob un o'r pedair ffrwd waith a amlinellais. Cefnogir y rhaglen gan y £1 miliwn a ddyrannais fel rhan o gyllideb y GIG ar gyfer 2019-20. Mae mwy na hanner hwnnw wedi'i ddyrannu eisoes i gefnogi'r rhaglen waith a nodais.
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd pob uned ledled Cymru yn cael ymweliadau cyn-asesu i bennu'r hyn sydd ei angen yn lleol i gyflawni'r safon achredu a osodwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon. Nid wyf am geisio dweud y teitl llawn fel y bu Angela Burns yn ddigon dewr i wneud, ond mae yna her wirioneddol i sicrhau bod y seilwaith yn ei le er mwyn cyrraedd y safonau hynny. Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r tîm yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac maent yn cydnabod nad ydynt yn debygol o fodloni'r safon oherwydd eu lleoliad ffisegol ar hyn o bryd. Ac mae’n bosibl nad yw hyn yn ddiddorol iawn o ran trafodaeth wleidyddol, ond mae’r ffordd dechnegol y mae angen i chi gynllunio lle, y gofod sydd ei angen arnoch chi—mae'r holl bethau hynny'n elfennau gwirioneddol bwysig yn y gwaith o gyflawni'r canlyniadau y mae pob un ohonom yma eisiau eu gweld. Felly, bydd yn galw am fuddsoddiad cyfalaf, a fydd yn cymryd cryn dipyn o amser. Dylem wybod beth yw cyflwr pob un o'n hunedau, felly mae gweithdy cenedlaethol wedi'i gynllunio i roi ystyriaeth bellach i hynny a disgwylir y bydd adroddiadau'r unedau'n dod i law y byrddau iechyd erbyn diwedd y flwyddyn. Rydym hefyd wedi cwmpasu’r rhaglen hyfforddi, wedi sicrhau'r elfennau sy’n allweddol i’r gwaith o’i chyflawni, ac rwy'n gobeithio y bydd yr hyfforddeion endoscopi clinigol cyntaf yn dechrau ar eu hyfforddiant cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. A bydd y rolau hyn yn allweddol i wasanaethau cynaliadwy o ystyried y sefyllfa recriwtio heriol ar gyfer meddygon, sef prif ddarparwyr archwiliadau ac ymyriadau hyd yma.
Gallaf weld bod amser yn brin, Gadeirydd, ond rwyf wedi rhoi ymateb manwl i'r pwyllgor ac wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a'r pwyllgor ei hun ar y camau rydym yn eu cymryd a'r cynnydd a wneir, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y pwyllgor ei hun yn dychwelyd at yr adroddiad hwn yn y dyfodol, a'r camau y mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i'w cymryd heddiw.
Diolch. Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Byr ydy'r amser sydd gennyf innau hefyd. Allaf i longyfarch a diolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma? Angela Burns yn gyntaf, yn olrhain yr her sylweddol—gweithredu ac atebion sydd eu hangen nawr. Ac, wrth gwrs, i ddweud y peth sy'n amlwg: mae angen mwy o staff arbenigol a mwy o unedau endosgopi nawr i fynd i'r afael â'r her yma.
Dwi'n ddiolchgar iawn i Hefin David am olrhain ei brofiad diweddar e, a hefyd am ddweud, yn amlwg, bod yna glefydau eraill y dylem ni fod yn meddwl amdanynt, ddim jest cancr y coluddion, megis clefyd Crohn ac ulcerative colitis, a phwysigrwydd paratoi'r coluddion gogyfer colonosgopi yn y lle cyntaf. Weithiau dyn ni'n anghofio am baratoi y pethau mwyaf sylfaenol.
Dwi hefyd yn diolch i Caroline Jones am bwysleisio'r pwysau sydd ar wasanaethau a phwysigrwydd diagnosis cynnar yn hyn o beth. A hefyd dwi'n diolch i'r Gweinidog am ei ymateb cadarnhaol i argymhelliad y pwyllgor. Dyn ni'n edrych ymlaen at weld y cynllun gweithredu yma'n gweld golau dydd. Mae'r her yn sylweddol, ac mae'r her yn mynnu ateb cadarn nawr. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.