Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 18 Medi 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am gyflwyno'r ddadl heddiw ar eu hadroddiad yn dilyn eu hymchwiliad i'r mater pwysig hwn. Rwy'n cydnabod nad yw'r mater wedi cael llawer o ffocws a sylw o ran adroddiadau pwyllgor a gwaith craffu yn y gorffennol, ac rwy'n credu ei bod yn dda fod hynny wedi digwydd yn awr. Mae'n darparu cwestiynau i'r Llywodraeth ac mae'n wir nad oes gennym atebion cyfforddus bob amser, ond mae atebion gonest yn ein hymateb am y sefyllfa bresennol, ac yn wir, yn ein hymrwymiad i fuddsoddi'r amser a'r ymdrech sy'n angenrheidiol i gyflawni'r math o wasanaeth y byddai pob un ohonom yn y Siambr hon ei eisiau i'n hetholwyr. Oherwydd rwy'n cydnabod bod gwasanaethau endosgopi yn hanfodol os ydym am fod mewn sefyllfa i gynnal archwiliadau amserol o ansawdd uchel ar gyfer ystod o feysydd triniaeth. Mae'n rhagofyniad ar gyfer cyflawni'r amseroedd aros ar gyfer diagnosteg a chanser, cyflawni achrediad uned endosgopi, ac wrth gwrs darparu gwell canlyniadau ar gyfer cyflyrau fel canser. Fodd bynnag, ni ddylem ddiystyru'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu ein GIG. Mae'n cynnwys gwelliannau angenrheidiol mewn data a chynllunio, recriwtio a hyfforddi, diwygio a safoni ein llwybrau clinigol, yn ogystal â buddsoddi cyfalaf mewn unedau a galluogwyr digidol newydd.
Felly, mae'n her amlochrog, a'r cyfan yn erbyn cefndir o gynnydd gwirioneddol yn y galw o flwyddyn i flwyddyn, a gaiff ei lywio gan boblogaeth sy'n heneiddio a chanllawiau clinigol sy'n newid. Felly, mae'n galw am weithredu ar unwaith, wrth gwrs, ond mae'n rhaid i hynny gyd-fynd â'r ffocws mwy hirdymor a pharhaus y gwn fod y pwyllgor wedi'i gydnabod a'i ddeisyfu gan y Llywodraeth. Ac rydym yn cytuno ar hynny, felly nid mater syml o roi arian ychwanegol er mwyn lleihau rhestrau aros yw hyn. Dyna pam y byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor erbyn diwedd mis Hydref, a byddaf yn sicrhau ei fod yn rhoi sylw i'r pwyntiau y mae'r pwyllgor wedi'u codi. Yn y cyfamser, rydym wedi gweithredu amryw o gamau brys sy'n ofynnol ac wedi rhoi rhaglen genedlaethol fanwl a chynhwysfawr ar waith. Rwyf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw, a gwn fod y Cadeirydd wedi cyfeirio ato, i amlinellu'r dull rydym wedi'i fabwysiadu yn fanylach, y cynnydd a wnaed hyd yma, ac wrth gwrs, y gwaith a fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf. Felly, bydd angen inni symud yn gyflym wedyn at yr amcan a'r gweithredoedd sy'n ofynnol yn y tymor canolig er mwyn sefydlogi gwasanaethau endosgopi, ac yna'r amcanion a'r camau mwy hirdymor sydd eu hangen i sicrhau gwasanaeth gwirioneddol gynaliadwy. Felly, sefydlwyd y rhaglen fel gwasanaeth a gyfarwyddir yn genedlaethol gan y Llywodraeth, yn hytrach na'i harwain gan y GIG, ac mae hynny'n gyson, os mynnwch, yng nghyd-destun yr uchelgeisiau a nodwyd gennym yn 'Cymru Iachach'. Bydd yna adegau pan fydd angen i ni weithredu arweiniad canolog cryfach.
Felly, cadeirir bwrdd y rhaglen endosgopi newydd gan ddirprwy brif weithredwr y GIG a'r dirprwy brif swyddog meddygol. Mae'r bwrdd yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o'r byrddau iechyd a phobl sy'n cynrychioli rhaglenni gwaith cysylltiedig pwysig fel canser, patholeg a sgrinio'r coluddyn. Rwy'n meddwl am bwynt Hefin David ynglŷn â’r diddordeb sydd gan Norgine yn y maes hwn, ac rwy'n credu y gallai fod yn briodol gweld a fyddent yn cyfarfod ac yn cael trafodaeth uniongyrchol â'r bwrdd endosgopi. Fe af ar drywydd hynny mewn sgwrs gydag ef am y cwmni lleol. Ond bydd y bwrdd hwnnw'n goruchwylio pedair ffrwd waith, gan edrych ar gynllunio galw a chapasiti, addysg a hyfforddiant y gweithlu, datblygu llwybrau clinigol a gofynion cyfleusterau a seilwaith. Darparir cefnogaeth sylweddol eisoes gan gydweithrediaeth y GIG. Mae hynny'n cynnwys arweinydd y rhaglen genedlaethol a'u tîm, yn ogystal ag arweinwyr clinigol a rheolaethol ar gyfer pob un o'r pedair ffrwd waith a amlinellais. Cefnogir y rhaglen gan y £1 miliwn a ddyrannais fel rhan o gyllideb y GIG ar gyfer 2019-20. Mae mwy na hanner hwnnw wedi'i ddyrannu eisoes i gefnogi'r rhaglen waith a nodais.
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd pob uned ledled Cymru yn cael ymweliadau cyn-asesu i bennu'r hyn sydd ei angen yn lleol i gyflawni'r safon achredu a osodwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon. Nid wyf am geisio dweud y teitl llawn fel y bu Angela Burns yn ddigon dewr i wneud, ond mae yna her wirioneddol i sicrhau bod y seilwaith yn ei le er mwyn cyrraedd y safonau hynny. Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r tîm yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac maent yn cydnabod nad ydynt yn debygol o fodloni'r safon oherwydd eu lleoliad ffisegol ar hyn o bryd. Ac mae’n bosibl nad yw hyn yn ddiddorol iawn o ran trafodaeth wleidyddol, ond mae’r ffordd dechnegol y mae angen i chi gynllunio lle, y gofod sydd ei angen arnoch chi—mae'r holl bethau hynny'n elfennau gwirioneddol bwysig yn y gwaith o gyflawni'r canlyniadau y mae pob un ohonom yma eisiau eu gweld. Felly, bydd yn galw am fuddsoddiad cyfalaf, a fydd yn cymryd cryn dipyn o amser. Dylem wybod beth yw cyflwr pob un o'n hunedau, felly mae gweithdy cenedlaethol wedi'i gynllunio i roi ystyriaeth bellach i hynny a disgwylir y bydd adroddiadau'r unedau'n dod i law y byrddau iechyd erbyn diwedd y flwyddyn. Rydym hefyd wedi cwmpasu’r rhaglen hyfforddi, wedi sicrhau'r elfennau sy’n allweddol i’r gwaith o’i chyflawni, ac rwy'n gobeithio y bydd yr hyfforddeion endoscopi clinigol cyntaf yn dechrau ar eu hyfforddiant cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. A bydd y rolau hyn yn allweddol i wasanaethau cynaliadwy o ystyried y sefyllfa recriwtio heriol ar gyfer meddygon, sef prif ddarparwyr archwiliadau ac ymyriadau hyd yma.
Gallaf weld bod amser yn brin, Gadeirydd, ond rwyf wedi rhoi ymateb manwl i'r pwyllgor ac wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a'r pwyllgor ei hun ar y camau rydym yn eu cymryd a'r cynnydd a wneir, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y pwyllgor ei hun yn dychwelyd at yr adroddiad hwn yn y dyfodol, a'r camau y mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i'w cymryd heddiw.