Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 18 Medi 2019.
Rydym wedi clywed rhai o'r ystadegau sydd eisoes wedi'u rhestru. Gwyddom fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod llygredd aer bellach yn argyfwng iechyd cyhoeddus gwaeth na dim heblaw ysmygu, ac mae'r ffigur o 2,000 o farwolaethau y flwyddyn yn ffigur syfrdanol. Efallai fy mod i ac eraill yn euog o grybwyll y ffigur gynifer o weithiau fel eich bod yn colli'r synnwyr o faint—2,000 o farwolaethau, neu oddeutu 40 marwolaeth yr wythnos, o rywbeth y gallem ei atal mewn gwirionedd. Dyna'r realiti. Ac wrth gwrs—