– Senedd Cymru ar 18 Medi 2019.
Symudwn yn awr at eitem 9, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ansawdd aer, a galwaf ar Angela Burns i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7133 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai yng Nghymru y mae peth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU a bod rhai ardaloedd wedi torri rheoliadau'r UE ers sawl blwyddyn, gan arwain at gymryd Llywodraeth Cymru i'r llys am ddiffyg gweithredu.
2. Yn gresynu bod tua 2,000 o bobl yn marw'n gynnar bob blwyddyn (6 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru) o ganlyniad i ansawdd aer gwael.
3. Yn nodi ymhellach bod llygredd aer yn dwysáu cyflyrau presennol ar yr ysgyfaint ac yn achosi asthma a chanser yr ysgyfaint, ac nad oes dealltwriaeth lawn eto o effeithiau hirdymor ansawdd aer gwael.
4. Yn galw ar y Cynulliad hwn i basio bil aer glân, a'i ddeddfu, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, cyn etholiadau nesaf y Cynulliad.
5. Yn credu y dylai'r Ddeddf:
a) ymgorffori yn y gyfraith ganllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd;
b) mandadu Llywodraeth Cymru i gynhyrchu strategaeth ansawdd aer statudol bob pum mlynedd;
c) rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer yn briodol, a chymryd camau yn ei erbyn;
d) cyflwyno 'hawl i anadlu' lle y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu grwpiau agored i niwed pan fydd rhai lefelau yn torri'r canllawiau a argymhellir.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Yn ystod y ddadl heddiw, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dangos mai Cymru sydd â'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU—ystadegyn damniol ynddo'i hun—ond yn ogystal â hynny, caiff ei waethygu ymhellach gan y realiti ofnadwy fod 6 y cant o'r marwolaethau blynyddol yng Nghymru yn digwydd o ganlyniad i ansawdd aer gwael a'r effaith y mae ansawdd aer gwael yn ei chael ar asthma, cyflyrau'r ysgyfaint a chyflyrau'r galon a chylchrediad y gwaed. A dyma pam ei bod yn hanfodol i'r Cynulliad roi blaenoriaeth i gyflwyno Bil aer glân cyn diwedd y pumed Cynulliad.
Mae problemau anadlu'n effeithio ar un o bob pump o'r boblogaeth. Wrth i elusennau a gweithwyr meddygol proffesiynol weithio'n galed i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o drin ac atal clefydau anadlol, maent yn ymladd brwydr yn erbyn ansawdd aer sy'n gwaethygu'n barhaus. Amcangyfrifodd adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2014 fod dros 13,500 o flynyddoedd bywyd wedi'u colli yng Nghymru. Am frawddeg ingol yw honno. Nid pobl ydynt mewn gwirionedd, ond y blynyddoedd y gallent fod wedi byw pe na baent wedi cael y clefydau erchyll hyn oherwydd ansawdd aer gwael. Ac mae 13,500 o flynyddoedd bywyd yn nifer enfawr o flynyddoedd bywyd. Maent hefyd yn dweud mai llygredd aer yw'r ail flaenoriaeth iechyd cyhoeddus ar ôl ysmygu. Amcangyfrifir bod cost llygredd aer i GIG Cymru o ran costau i'r gwasanaeth iechyd a diwrnodau gwaith a gollir yn fwy na £1 biliwn y flwyddyn. Mae hynny'n 11 y cant o gyllideb GIG Cymru ar gyfer 2019-20.
Diffinnir llygrydd aer fel unrhyw sylwedd yn yr aer sy'n gallu niweidio pobl. Mae deunydd gronynnol a nitrogen deuocsid yn ddau lygrydd. Mae deunydd gronynnol yn gymysgedd o solidau a hylifau, sy'n cynnwys carbon, sylffadau, nitradau, llwch mwynol a dŵr yn hongian yn yr aer. Mae grŵp arbenigol Llywodraeth y DU ar ansawdd aer yn nodi bod hanner y llygredd gronynnol o drafnidiaeth ffyrdd yn cynnwys gronynnau sy'n ymwneud â thraul breciau, cyflwr wyneb y ffordd a theiars yn dirywio, sy'n ffactorau enfawr sy'n cyfrannu at y broblem. Mae'n syndod fod peth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU yng Nghymru, o ystyried ein dwysedd poblogaeth cymharol isel a'n dinasoedd llai. Ond mae gan Gaerdydd a Phort Talbot lefelau uwch o rai llygryddion na Birmingham neu Fanceinion, ac mae rhan o Gaerffili wedi'i dynodi fel y ffordd fwyaf llygredig yn y DU y tu allan i Lundain.
Ni sydd ar fai am hyn. Mae'r mwyafrif llethol o lygryddion aer yn rhai a wneir gan bobl ac mae'r lefelau cynyddol yn deillio o'r dewisiadau y mae Llywodraethau a dinasyddion yn eu gwneud bob dydd. Mae'n rhaid i ni dderbyn bod ein penderfyniadau—[Torri ar draws.]
Diolch am ildio ac mae'n ddrwg gennyf dorri ar draws eich sylwadau agoriadol. Pa mor bell y credwch y dylem fynd fel deddfwyr a llunwyr polisi i gydnabod yr her y mae hi wedi'i nodi mewn perthynas â dinasyddion unigol hefyd, o ran presgripsiynu pethau megis teithio llesol o amgylch ysgolion, y tu hwnt i ddarparu llwybrau'n unig, ond dweud mewn gwirionedd, 'Bydd rhieni'n gweithio gyda'r ysgolion hynny i sicrhau bod eu plant yn mynd i'r ysgol drwy gerdded neu feicio neu ar sgwter, ac nid mewn ceir'? Oherwydd mae'r effaith ar iechyd plant o amgylch ysgolion yn enfawr.
Os gwnaiff fy nghyd-Aelod aros ychydig funudau, fe ddatblygaf ychydig mwy ar hynny. Ond mae'r hyn rydych newydd ei ddweud yn atgyfnerthu ein galwad am Fil aer glân, oherwydd dyna'r math o drafodaethau y gallem ni fel Cynulliad, ym mhob un o'n pwyllgorau a chan gymryd tystiolaeth briodol gan y bobl, ddechrau eu cael—pa mor bell y gallwn ei wthio, ble y gallwn arwain, beth yw'r addewidion, beth sy'n gorfodi, beth sy'n cymell, sut y mae'n gweithio?
Oherwydd mater i ni yw hyn. Mae'r mwyafrif llethol o'r llygryddion hyn yn rhai a wnaed gan bobl, a ni sy'n dewis cynyddu'r defnydd ohonynt. Rhaid inni dderbyn bod ein penderfyniadau ni, y rhai a wnawn wrth fwrw ati i deithio yn y car neu fynd ar wyliau tramor neu beth bynnag, yn effeithio ar ansawdd yr aer a anadlwn. Nid wyf yn awgrymu y dylem ddeddfu i leihau'r defnydd o geir, ond rwy'n dweud y dylem i gyd ystyried sut y defnyddiwn ein ceir, a golyga hynny fod yn rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus wella ac mae angen inni wneud llai o ddefnydd o geir a gwella ein defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.
Un ateb syml, a dyma un peth y gallem ei roi yn ein Bil aer glân, fyddai lleihau'r llygredd yn rhai o'n dinasoedd a'n trefi drwy annog awdurdodau lleol i orfodi'r is-ddeddfau presennol ynglŷn â cheir sy'n segura, sef ceir ar stop â'u hinjan yn rhedeg am gyfnod afresymol o amser. Mae pawb ohonom wedi'i weld, mae yna amrywiaeth o bobl sy'n gwneud y math yma o beth. Rydym yn gwybod hynny, mae'n siŵr ein bod wedi'i wneud ein hunain. Am bob £1 a fuddsoddwyd ar fynd i'r afael â'r broblem hon gan awdurdod lleol, ceir tystiolaeth fod dros £4 yn dychwelyd. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru i edrych ar sut y gellid mynd i'r afael â'r mater hwn yn well, oherwydd byddai'n rhywbeth y gellid ei wneud yn hawdd ac yn gyflym.
Mae Llywodraeth Cymru yn aml wedi cuddio y tu ôl i'r dadleuon amgylcheddol yn eu hamharodrwydd i fwrw ymlaen ag uwchraddio'r M4, ond yr wrthddadl a anwybyddir yn gyfleus yw bod y draffordd o amgylch Casnewydd wedi'i blocio am sawl awr bob dydd â cherbydau ar stop neu'n teithio ar gyflymder araf iawn—yr un broblem—gan bwmpio llygryddion i'r atmosffer. Ymddengys hefyd fod y Llywodraeth yn credu y bydd buddsoddi mewn seilwaith cerbydau trydan yn helpu i ddatrys problem allyriadau, ond nid yw'n datrys y broblem yn ei chyfanrwydd. Er nad yw cerbydau o'r fath yn cynhyrchu'r un lefelau o nwyon tŷ gwydr, maent yn dal i allyrru llygryddion gronynnol, ac mae 45 y cant o'r llygryddion hynny, fel y dywedais yn gynharach, yn dod o lwch breciau a theiars. Yr hyn y mae angen inni ganolbwyntio arno yw llai o geir yn hytrach na cheir mwy newydd. Mae angen inni edrych—mae angen i chi fod yn edrych—ar sut y mae tynnu pobl oddi ar y ffordd ac ehangu'r rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'r risgiau i iechyd sy'n gysylltiedig ag ansawdd aer gwael yn hysbys iawn. Mae clefydau cardiofasgwlaidd presennol yn gwaethygu a cheir risg uwch o asthma a chanser yr ysgyfaint. Fel y crybwyllodd Huw Irranca-Davies eisoes rwy'n credu, mae plant yn arbennig o agored i niwed. Bydd effeithiau'r llygredd y maent yn ei anadlu heddiw i'w weld yn y dyfodol. Maent yn tueddu i anadlu'n gynt nag oedolion ac mae eu hysgyfaint yn dal i dyfu. Mae cysylltiad rhwng anadlu llygredd aer yn ystod beichiogrwydd a phwysau geni isel a genedigaeth gynamserol. Mae plant yn llai o faint felly maent yn aml yn llawer is ac felly'n nes. Yn eu cadeiriau gwthio bach, cânt eu gwthio i fyny ac i lawr y palmentydd ac maent yn anadlu'r holl fygdarthau o bibelli ecsôst.
Yn ôl Asthma UK, gwelwyd cynnydd o 8 y cant yn nifer y bobl a fu farw o bwl o asthma yn 2018 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Ac mae 33 y cant yn fwy—mwy na thraean—o bobl yn marw ers 2008 oherwydd hyn. At hynny, ymhlith y boblogaeth hŷn, gall ansawdd aer gwael effeithio'n andwyol ar gyflyrau presennol. Cafodd cysylltiad cronig â lefelau uchel o lygredd aer uwch eu cysylltu ag achosion o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, broncitis cronig, asthma ac emffysema.
Mae niferoedd y marwolaethau a briodolir i lygryddion yn uwch o lawer mewn ardaloedd trefol o gymharu ag ardaloedd gwledig a cheir graddiant amddifadedd, gyda'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn gweld y crynodiadau nitrogen deuocsid uchaf a'r nifer fwyaf o farwolaethau a briodolir i lygryddion. Mae'n ddiddorol ac yn drist nodi, yn ôl adroddiad 'Toxic air at the door of the NHS' gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn 2018, fod dau ysbyty yng Nghaerdydd a mwy na hanner meddygfeydd meddygon teulu'r ddinas yn cofnodi lefelau o ddeunydd gronynnol sy'n uwch na chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. Mae marwolaethau y gellir eu hatal sy'n deillio o glefydau anadlol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn uwch na 60 y cant ymhlith dynion a 66 y cant ymhlith menywod, o gymharu â dim ond 11 y cant ymhlith dynion a menywod os ydych yn digwydd byw mewn maestref ddeiliog braf neu allan yn y wlad. Ystadegyn ysgytwol, sy'n ofnadwy o annheg ac sy'n arwain at ragor o anghydraddoldebau mewn cymdeithas.
Nid ar gyflyrau anadlol yn unig y mae llygredd aer yn effeithio, ond ar gyflyrau cylchrediad y gwaed hefyd. Mae ymchwil gan Sefydliad Prydeinig y Galon wedi canfod bod mewnanadlu crynodiadau uchel o ddeunydd gronynnol yn y tymor byr yn unig yn cynyddu'r risg o drawiad ar y galon o fewn y 24 awr gyntaf i ddod i gysylltiad â llygredd o'r fath. Mae astudiaethau hefyd wedi canfod bod gronynnau mewn pibelli ecsôst diesel yn gwaethygu'r clefyd atherosglerosis—mawredd, heddiw yw fy niwrnod ar gyfer dweud geiriau anodd, onid e?—y cyfeirir ato'n fwy cyffredin fel braster sy'n crynhoi o gwmpas y rhydwelïau. Yn fyd-eang, amcangyfrifir bod 80 y cant o'r marwolaethau a briodolir i lygredd aer yn deillio o glefyd cardiofasgwlaidd.
Nawr, Weinidog, rwyf wedi nodi llawer o'r cefndir yma i ddangos pam y mae angen i ni fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael a hoffwn sôn yn fyr am y camau y byddwn yn gofyn i chi eu cymryd. Fel plaid, rydym yn croesawu'r cyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru yn mynd iddo wrth fynd i'r afael â llygredd aer ac ansawdd aer, ond galwn arnoch i fynd lawer ymhellach. Ym mis Mehefin 2019, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wrth y Siambr fod aer glân yn ganolog i'n llesiant, a galwaf arni i ystyried y datganiad hwn pan fyddwch yn ystyried ein cynnig heddiw.
Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi gosod cynllun uchelgeisiol i leihau lefelau deunydd gronynnol 30 y cant y flwyddyn nesaf a 46 y cant erbyn 2030, gan dorri £5.3 biliwn oddi ar gostau llygredd aer i gymdeithas yn flynyddol o 2030 ymlaen. Ac mae ein cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn yr arweiniad hwn. Mae strategaeth aer glân Llywodraeth y DU yn gweithio law yn llaw â'r strategaeth twf glân ac mae'r cynllun amgylcheddol 25 mlynedd yn creu ymagwedd gyfannol tuag at lanhau aer y DU a gwella iechyd pawb ohonom. Ond credwn eich bod wedi llusgo'ch traed ar leihau allyriadau'n ddigonol yng Nghymru. Yma, cynyddodd yr allyriadau 5 y cant rhwng 2015 a 2016 ac 1.4 y cant arall y flwyddyn, ar gyfartaledd, rhwng 2009 a 2016, ond gostyngodd allyriadau'r DU 5 y cant. Rydym eisiau'r Bil aer glân hwn. Credwn y byddem yn hoffi cael syniadau clir iawn o'r hyn y gallai ei wneud. Rydym yn credu y gallem ei gyrraedd drwy gydweithio cydlynol ar draws y pleidiau ar Fil da a fyddai'n mynd i'r afael â'r broblem ofnadwy ac anodd iawn hon.
Rwyf am droi'n gyflym iawn at y gwelliannau. Rydym wrth ein boddau ac yn ddiolchgar iawn am welliant Plaid Cymru. Rydym yn ei gefnogi. Mae arnaf eisiau gwneud un pwynt, sef bod gwir angen inni annog gwneuthurwyr y dechnoleg i gyd-fynd â'n huchelgais gwleidyddol, oherwydd rydym am gael y targedau 2030 hyn, ond mae angen iddynt ysgwyddo'u cyfrifoldeb a gwneud i hynny ddigwydd mewn gwirionedd. Ac o ran y Llywodraeth, mae'n rhaid i mi ddweud bod gwelliant y Llywodraeth, gwelliant 'dileu popeth', mor ddi-fudd mewn dadl eang ac mae'n mynd yn groes i'r ysbryd cydweithredol yr ydym eisiau ei weld ar fater mor bwysig yn fyd-eang. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau pawb heddiw i weld sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddarparu awyr lanach a gwell i bobl Cymru.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod lefelau annerbyniol o lygredd aer yn parhau mewn rhai ardaloedd o Gymru, y DU ac Ewrop.
Yn gresynu at y ffaith bod rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod dod i gysylltiad ag ansawdd aer gwael am dymor hir yn cyfrannu at farwolaeth cynifer â 36,000 o bobl yn y DU, a chynifer â 1,400 o bobl yng Nghymru.
Yn nodi hefyd y gall dod i gysylltiad â llygredd aer yn y tymor byr wneud clefydau anadlol yn waeth, fod dod i gysylltiad â llygredd aer yn yr hirdymor yn cynyddu perygl afiachusrwydd a marwolaeth o ganser yr ysgyfaint a chyflyrau eraill, ac y gallwn ddisgwyl i effeithiau iechyd eraill ansawdd aer gwael ddod i’r amlwg wrth i’r ddealltwriaeth wyddonol wella.
Yn croesawu camau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys cyflwyno terfynau cyflymder parhaol o 50mya; cyflwyno ymgyrch y Diwrnod Aer Glân a datblygu Cynllun Aer Glân i Gymru.
Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddefnyddio pob cam deddfwriaethol ac anneddfwriaethol posibl er mwyn gwella ansawdd aer.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Llyr.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Cynnwys is-bwyntiau newydd ym mhwynt 5:
mynnu bod cerbydau sy'n defnyddio diesel yn unig a phetrol yn unig yn cael eu dileu yn raddol erbyn 2030;
creu parthau aer glân mewn trefi a dinasoedd;
rhoi'r hawl i gymunedau osod offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai;
galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd;
llunio cynlluniau cenedlaethol a rhanbarthol i leihau llygredd aer yng Nghymru;
diwygio'r gyfraith gynllunio i'w gwneud yn ofynnol y rhoddir mwy o bwys ar effaith llygredd aer yn y system gynllunio.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i groesawu'r cynnig yma? Mi fyddwn ni, wrth gwrs, yn hapus iawn i gefnogi'r cynnig, ond rŷm ni am gynnig gwelliant jest er mwyn ymhelaethu ychydig ynglŷn â'r hyn rŷm ni'n teimlo y gellid ei weithredu.
Mi wnaeth Plaid Cymru, wrth gwrs, gynnal trafodaeth ar y pwnc yma yn gynharach eleni, felly rŷm ni'n hapus iawn i weld bod y gefnogaeth yn parhau a bod hwn yn rhywbeth rŷm ni gyd, wrth gwrs, yn awyddus i'w weld, neu gobeithio bod pob un ohonom ni yn awyddus i'w weld. Oherwydd mae'r difrod sy'n cael ei achosi gan lygredd yn yr aer yn ddiamheuol. Rŷm ni wedi clywed rhai o'r ystadegau.
Rydym wedi clywed rhai o'r ystadegau sydd eisoes wedi'u rhestru. Gwyddom fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod llygredd aer bellach yn argyfwng iechyd cyhoeddus gwaeth na dim heblaw ysmygu, ac mae'r ffigur o 2,000 o farwolaethau y flwyddyn yn ffigur syfrdanol. Efallai fy mod i ac eraill yn euog o grybwyll y ffigur gynifer o weithiau fel eich bod yn colli'r synnwyr o faint—2,000 o farwolaethau, neu oddeutu 40 marwolaeth yr wythnos, o rywbeth y gallem ei atal mewn gwirionedd. Dyna'r realiti. Ac wrth gwrs—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Wel, iawn, o'r gorau.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dderbyn ymyriad. Wrth gwrs, dyna'r ffigur ar gyfer marwolaethau a roddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond faint o salwch, a salwch difrifol, a achosir sy'n cuddio o dan y ffigur graffig hwnnw rydych newydd ei roi?
Pwynt cwbl ddilys, ac rwy'n falch eich bod wedi'i wneud oherwydd mae'n bwysig ein bod yn cofio hynny hefyd.
Mae'n effeithio'n anghymesur, wrth gwrs, ar bobl mewn ardaloedd difreintiedig, ac mae hynny, unwaith eto, yn rhywbeth sy'n peri pryder enfawr. Rydym yn gwybod y gall cysylltiad tymor byr a hirdymor â llygredd aer amgylchynol arwain at gyfyngu ar weithrediad yr ysgyfaint, heintiau anadlol ac asthma sy'n gwaethygu. Mae cysylltiad rhwng mamau a anadlodd lygredd a chanlyniadau geni anffafriol, fel pwysau geni isel, genedigaethau cyn amser a babanod sy'n fach o ystyried oedran y beichiogrwydd. Mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg hefyd sy'n awgrymu y gall llygredd aer amgylchynol effeithio ar ddiabetes a datblygiad niwrolegol mewn plant. Gall achosi llawer o ganserau, fel y gwyddom, ac mae rhai llygryddion aer hefyd yn gysylltiedig â chyflyrau seiciatrig.
Fel llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd, wrth gwrs, ceir effeithiau ecolegol hefyd. Gall llygredd aer achosi niwed amgylcheddol difrifol i'r aer wrth gwrs, ond hefyd i ddŵr daear ac i bridd, a gall fygwth amrywiaeth bywyd yn ddifrifol. Mae astudiaethau ar y berthynas rhwng llygredd aer a lleihad yn amrywiaeth rhywogaethau yn dangos yn glir effeithiau niweidiol halogion amgylcheddol ar ddiflaniad anifeiliaid a rhywogaethau o blanhigion.
Bydd llawer o'r Aelodau'n ymwybodol fod gennym grŵp trawsbleidiol ar Ddeddf aer glân yn y Cynulliad hwn wrth gwrs, a Dr Dai Lloyd sy'n ei gadeirio. Mae'n rhaid imi ddweud, pan ddefnyddiodd Dai ei ddadl fer, nifer o fisoedd yn ôl bellach, i alw am Ddeddf, rhannodd gyda ni un peth a arhosodd gyda mi: 150 a mwy o flynyddoedd yn ôl roedd pobl yn goddef dŵr yfed brwnt, ac rydym yn edrych yn ôl ac yn meddwl, 'Dyna warthus oedd hynny'. Wel, rydym ni'n goddef, neu rydym wedi bod yn goddef aer brwnt. Yn y blynyddoedd sydd i ddod, byddwn yn edrych yn ôl yn yr un ffordd ac yn meddwl, 'Sut ar y ddaear y gallasom ddychmygu y gallem oddef hynny?' Rwy'n gobeithio'n awr fod pobl yn sylweddoli bod yr amser wedi dod i weithredu.
Felly, gan symud ymlaen at ein gwelliant, yn amlwg, fel y dywedais, rydym yn gefnogol i'r cynnig a'r egwyddor y tu ôl iddo, ac roeddem am sôn ymhellach efallai am rai o'r camau y teimlwn fod eu hangen.
Mae angen bod cerbydau sy'n defnyddio disel yn unig a phetrol yn unig yn cael eu dileu yn raddol erbyn 2030, a chyn hynny os yn bosibl, ond yn sicr mae angen i'r dechnoleg fedru caniatáu inni wneud hynny. Mae yna opsiynau. Mae yna le yng nghanolbarth Cymru sy'n cynhyrchu ceir hydrogen. Bues i ar ymweliad yna—Riversimple. Hynny yw, mae yna opsiynau yn bodoli. Yr hyn sydd yn rhaid inni ei wneud yw sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hynny.
Rydym ni angen gweld parthau aer glân mewn trefi a dinasoedd. Mi glywom ni am Gaerdydd a Phort Talbot â lefelau uwch o particulate matter na Birmingham a Manceinion, a rhai o'r strydoedd, wrth gwrs, sydd ymhlith y mwyaf llygredig ym Mhrydain y tu allan i Lundain.
Rydym ni angen rhoi hawl i gymunedau osod offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai. Rydym ni angen galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd. Rydym ni angen llunio, ie, cynlluniau cenedlaethol ond cynlluniau rhanbarthol hefyd er mwyn lleihau llygredd aer yng Nghymru, a dwi yn teimlo'n gryf bod angen diwygio'r gyfraith gynllunio hefyd, i'w gwneud yn ofynnol i roi mwy o bwys ar effaith llygredd aer o fewn y gyfundrefn honno.
Mae yna lawer mwy y gellir ei wneud. Y rhwystredigaeth fwyaf i fi yw nad yw lot o hyn wedi'i wneud yn barod. Mae yna ormod o lusgo traed wedi bod. Fel yr oeddwn yn ei ddweud yn gynharach, mae pob wythnos arall rydym ni'n aros yn golygu tua 40 o farwolaethau diangen, i bob pwrpas. Felly, mae'r amser am siarad yn gorfod dod i ben, a dwi'n edrych ar y Llywodraeth fan hyn gan ddweud, 'Mae'n amser gweithredu.'
Roedd Margaret Barnard yn ysgrifennydd Anadlu'n Rhydd yng Nghastell-nedd a gefnogir gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, grŵp o bobl yng Nghymru sy'n byw gyda chlefyd yr ysgyfaint, a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn bennaf. Roedd y grŵp yn cynnig cymorth i'w gilydd ac yn codi arian ar gyfer cyfarpar adsefydlu'r ysgyfaint. Roedd Margaret yn gwbl fythgofiadwy i bawb a oedd yn ei hadnabod. Soniaf amdani, nid yn unig oherwydd ei gwaith arobryn gyda Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, ond oherwydd ei phenderfyniad i fyw'n dda, i osod esiampl, er gwaethaf y cyflwr gwanychol a'i lladdodd yn y diwedd yn 2016.
Efallai fod Margaret yn wych, ond nid yw mygu'n rhywbeth gwych o gwbl. Dyna pam y mae angen inni weithredu i helpu pob Margaret arall yng Nghymru—5,500 o flynyddoedd bywyd yn cael eu colli bob blwyddyn yn hen ardal bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, 368 o farwolaethau o nitrogen deuocsid, a llygredd deunydd gronynnol lleiaf bob blwyddyn, ac un ardal bwrdd iechyd yn unig yw honno. Yn fy ardal fy hun, yn Nwyrain De Cymru, amcangyfrifir bod 300 o farwolaethau bob flwyddyn ymhlith rhai 25 oed a hŷn wedi'u priodoli i lygredd aer.
Nawr, efallai nad yw'r rhain yn ffigurau sy'n llenwi'r penawdau fel y gwelwn ar gyfer clefyd y galon a chanser, ond wrth gwrs, mae llygredd aer yn chwarae rhan mewn achosion cardiofasgwlaidd a chanser hefyd. Efallai y byddech yn disgwyl i nifer y marwolaethau oherwydd llygredd aer edrych yn eithaf gwael mewn ardaloedd lle mae'r dwysedd mwyaf o ddefnyddwyr ceir, gorsafoedd pŵer a diwydiant trwm wrth gwrs. Ond mewn gwirionedd, y dystiolaeth orau o statws llygredd aer fel lladdwr anweledig yw'r ffaith mai yng ngogledd Cymru y gwelwn y nifer fwyaf o farwolaethau, oherwydd y deunydd gronynnol lleiaf, a grybwyllwyd gan fy nghyd-Aelod Angela Burns yn gynharach—y llwch peryglus sy'n dod o draul breciau, traul teiars ac o draul wyneb y ffordd. Efallai fod gogledd Cymru'n fwy gwledig, yn llai poblog, ond fel ardaloedd yn y de—Casnewydd a chytrefi—nid oes yno draffig sy'n llifo'n rhydd. Y traffig hwnnw, yn hytrach na ffynonellau eraill, yw'r halogydd aer mwyaf yng Nghymru, ac mae'n broblem frawychus. Mae cael cerbydau trydan cyfatebol yn lle rhai petrol a diesel yn dal i olygu bod ceir, lorïau a bysiau sy'n cynhyrchu'r llwch peryglus hwnnw—y PM2.5—gyda ni heddiw. Eto i gyd, mae ein gwahanu oddi wrth ein ceir, fel y trafodwyd gennym, yn galw am newid diwylliant enfawr yn ogystal â dewisiadau amgen realistig. Wrth gwrs, mae newid wedi digwydd yn y gorffennol; rwy'n cofio pan gyflwynwyd petrol swlffwr isel iawn am y tro cyntaf—a châi hynny ei ystyried yn enghraifft o arloesi gwych. Roedd yn arloesi—roedd yn well na'r petrol plwm a oedd wedi dod cyn hynny—ond dyma ni, nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach, ac mae arnom angen datblygiadau eraill hefyd, a rhaid i gerbydau trydan fod yn rhan o hynny.
Mae angen inni fod yn ddewr ac yn feiddgar, ac mae hynny'n llawer llai brawychus os ydym i gyd yn cytuno bod angen ei wneud. Rwy'n credu bod ewyllys gwleidyddol yma yn y Siambr hon, er mor gelfydd y mae'r gwelliant a grybwyllodd Angela Burns yn gynharach yn cuddio hynny—y gwelliant 'dileu popeth'. Rydym yn croesawu gwelliant Plaid Cymru, sy'n cyflwyno elfen werthfawr i'r ddadl hon yn ein barn ni, ond cawn weld a fydd yn cael ei dderbyn.
Nid dyma'r amser i Lywodraeth, boed yn Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU, fod yn amddiffynnol; mae'n bryd i bob un ohonom droi ymrwymiad yn weithredoedd. Cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei barth rheoli ansawdd aer cyntaf yn Ionawr 2019 ar gyfer Stryd y Parc, nad yw, gyda llaw, yn ardal arbennig o ddifreintiedig. Nid yw mor hawdd dod o hyd i fanylion ynglŷn â sut yn union y mae'r Cyngor yn bwriadu gwneud gwelliannau, er y gallwch ddod o hyd i fanylion ynglŷn â sut y bydd caniatâd cynllunio ar gyfer dau ddatblygiad adeiladu dadleuol yn ychwanegu ymhellach at dagfeydd traffig yno.
Mae'n broblem y dylid ei thrafod, nid yn unig gennym ni, ond gan awdurdodau lleol ledled Cymru sy'n gwneud llawer o'r gwaith ar lawr gwlad, i sicrhau bod eu gweithrediadau'n dryloyw er mwyn i bobl allu cael gafael ar wybodaeth o'r fath i allu gwneud penderfyniadau gwybodus. Un peth yw lleihau cyfaint y traffig ar y ffyrdd, ond mae llawn cymaint o fai ar reolaeth draffig wael ag sydd ar ein cariad at y car, ac mae'n gofyn llawer i gynghorau ôl-osod newidiadau mawr eu hangen i seilwaith lleol, yn enwedig ar adeg pan fo cyllidebau o dan bwysau wrth gwrs.
Mae parthau 50 milltir yr awr yn rhan bosibl o'r ateb, ond nid yr ateb cyfan y byddai Llywodraeth Cymru yn gobeithio amdano. Yn fy ardal i, mae gennym obeithion mawr ar gyfer metro de Cymru, ond mae llawer o'r newidiadau arloesol mwy addawol yn perthyn i'r dyfodol: yn ne-orllewin Cymru, gallai metro yno fod yn rhan o'r ateb, ac edrychwn am gynllunio tuag at hynny; rhaid i reoli traffig fod yn rhan o'r ateb a lleihau cyfaint y traffig dros amser; mae Aelodau'r Cynulliad wedi crybwyll mwy o deithio llesol; trafnidiaeth gyhoeddus, wrth gwrs, y bydd pobl yn gallu ei defnyddio'n effeithiol, a soniais yn y datganiad busnes ddoe sut y mae cyrraedd Caerdydd i weithio yn y bore yn un peth yn fy ardal i, ond mae'n anodd iawn cyrraedd adref yn y nos pan nad oes gwasanaeth bws ar ôl 5.30 pm. Dylai cynlluniau datblygu lleol fynnu bod lleoliad safleoedd ceisiadau tai yn helpu ac nid yn gwaethygu'r broblem mewn mannau lle y ceir problemau eisoes—yn hytrach, dylent eu lliniaru. Fel y dywedais yn gynharach, Ddirprwy Lywydd, nid ydym yn cefnogi'r gwelliant 'dileu popeth'. Rydym yn cefnogi'r hyn y mae gwelliant Plaid Cymru yn ei gynnig i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Jenny Rathbone.
Diolch. Ni allaf ddweud fy mod yn anghytuno â dim y mae'r siaradwyr wedi'i ddweud hyd yn hyn ac rwy'n credu bod llawer iawn o gytundeb ynglŷn â'r argyfwng sy'n ein hwynebu a'r camau gweithredu sydd eu hangen. Felly, gobeithiaf y bydd y Gweinidog, yn ei hymateb, yn dweud wrthym pam y mae'n credu mai dim ond 1,400 o bobl yng Nghymru sy'n marw o lygredd aer pan fo Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn dweud ei fod yn 2,000, oherwydd mae hwnnw'n wahaniaeth eithaf sylweddol.
Rwy'n mynd i siarad am y sefyllfa yng Nghaerdydd, gan fy mod i'n gynrychiolydd o Gaerdydd, ac mae gan Gaerdydd lygredd aer sy'n cyfateb i, neu'n waeth na'r llygredd aer ym Manceinion a Birmingham ac mae hwnnw'n ystadegyn eithaf damniol o ystyried bod Birmingham a Manceinion yn gytrefi llawer iawn mwy o faint. Felly, mae gennym broblem wirioneddol ddifrifol yma yng Nghaerdydd, a gallwn weld pam, gan ein bod yn gwybod bod pedwar o bob pump o bobl yn cymudo i Gaerdydd mewn car a dim ond 8 y cant sy'n cerdded a 2 y cant yn unig sy'n beicio. Felly, mae angen gweld newid mawr yn y diwylliant a newid ymddygiad.
Un o'r ardaloedd mwyaf llygredig yn fy etholaeth i yw Ffordd Casnewydd, sy'n cynnwys Ysbyty Brenhinol Caerdydd—cyn-ysbyty, canolfan iechyd estynedig bellach—ond sydd drws nesaf i ysgol gynradd, sydd â lefelau hollol erchyll o lygredd aer oherwydd nifer y cymudwyr sy'n mynd heibio'r drws yn y bore. Felly, maent wedi cyflwyno sgrin werdd, coeden werdd artiffisial ar y ffens i geisio diogelu eu buarth rhag mwg gwenwynig, ac mae'n syniad da—yn wir, yn ôl cynlluniau peilot mewn mannau eraill, bydd yn lleihau'r llygredd oddeutu 20 y cant, ond yn amlwg, nid yw hynny'n ddigonol mewn ardal hynod o lygredig. Hoffwn weld y ffordd honno'n cau ond dywedir wrthyf fod y traffig sy'n mynd ar y llwybr amgen eisoes ar 106 y cant o'r capasiti. Felly, nid yw'r mathau hynny o atebion lleol yn ddigon.
Rhaid inni gyfyngu ar y traffig a ddefnyddir i gymudo ar gyfer teithiau ysgol a phobl sy'n mynd i'r gwaith yn gyffredinol, ac mae hynny'n golygu wrth gwrs fod angen gwell system trafnidiaeth gyhoeddus, ond mae angen inni hefyd newid yn gyfan gwbl y ffordd y meddyliwn am sut y mae ein plant yn mynd i'r ysgol. Mae angen inni beidio â dangos unrhyw oddefgarwch tuag at rieni sy'n dal i fynnu mynd â'u plentyn yn syth at gatiau'r ysgol, sy'n ddrwg i'r plentyn ac yn ddrwg i'r gymuned gyfan. Yr wythnos diwethaf, euthum gyda'r aelod cabinet dros yr amgylchedd a thrafnidiaeth ar Gyngor Caerdydd ar daith feicio o Ysgol Uwchradd Llanisien i Ben-twyn, o ble y bydd llawer o fyfyrwyr yn fy etholaeth yn teithio i Ysgol Uwchradd Llanisien. Mae bron yn 3 milltir ac mae cost cludiant i'r ysgol yn rhwystr enfawr i lawer o bobl ifanc nad ydynt yn mynd i'r ysgol oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio'r tocyn bws erbyn diwedd yr wythnos, er eu bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae honno'n sefyllfa enbyd ac mae angen inni sicrhau bod gan y disgyblion hyn ddulliau amgen o deithio, ac os gallwn roi cynllun prynu beiciau iddynt, mae llwybrau ar gael eisoes, gydag un neu ddau o fannau cyfyng y mae angen mynd i'r afael â hwy, i'w galluogi i gyrraedd yr ysgol yn eithaf rhwydd—maent yn 11 oed a hŷn—heb orfod dibynnu ar gludiant ysgol drud. Felly, dyna un peth.
Bydd bysiau trydan yn dod i Gaerdydd am eu bod wedi llwyddo i gael arian gan yr Adran Drafnidiaeth, ac mae hynny'n mynd i fynd—. Mae pedwar o'r llwybrau bws hyn ar Ffordd Casnewydd yn mynd i fod yn lanach o ganlyniad. Ond mae gwir angen i ni weld y math o barthau aer glân sy'n mynd i gael eu cyflwyno yn Birmingham, ac sydd wedi'u haddo ym Manceinion hefyd, er mwyn sicrhau bod ein prifddinas yn teimlo fel prifddinas yn hytrach na man lle mae'r boblogaeth fwyaf difreintiedig yn gorfod byw mewn ardaloedd lle y ceir llygredd helaeth.
Hoffwn atgoffa Aelodau'r Blaid Geidwadol fod peidio â thrydaneiddio'r brif lein i Abertawe hefyd yn cyfrannu'n helaeth at y llygredd sy'n parhau yng Nghaerdydd, a hynny am fod y drafnidiaeth ddeufodd yn golygu, pan fydd y trên naill ai'n mynd tuag at Abertawe neu'n dod yn ôl o Abertawe, ei bod yn chwydu nwyon diesel allan yn hytrach na thrydan sy'n llawer glanach. Felly, mae angen inni weld newid enfawr.
A'r newid mawr arall y mae angen inni ei weld yw e-feiciau, y rhoddodd llawer ohonom gynnig arnynt pan ddaethant yma ddoe. Mae hwn yn gyfle enfawr i bobl newid o ddefnyddio ceir i ddefnyddio, nid beiciau ond e-feiciau, am eu bod yn galluogi rhai llai abl yn gorfforol i ddefnyddio beic, maent yn eich galluogi i fynd i fyny bryniau serth, fel sydd gennyf yn fy etholaeth, ac maent hefyd yn eich galluogi i gario siopa trwm adref yn ddidrafferth. Felly, rwy'n credu bod e-feiciau yn un o'r ffyrdd y gallwn hyrwyddo ffordd wahanol o symud o gwmpas ein dinas. Ond mae'n rhaid i ni feddwl hefyd am bethau fel barthau gwahardd traffig ger ysgolion i atal pobl rhag gwneud y peth anghywir a gwaethygu traffig y tu allan i'r ysgol gan beryglu pob disgybl.
Mewn araith yn y Brifysgol Americanaidd yn Washington ym mis Mehefin 1963, dywedodd yr Arlywydd John F. Kennedy:
yr hyn sy'n ein cysylltu yn fwyaf sylfaenol yw ein bod i gyd yn byw ar y blaned fach hon. Mae pob un ohonom yn anadlu'r un aer.
Roedd hwnnw'n ddyfyniad enwog gan ddyn enwog iawn ac wrth gwrs, mae'n ddatganiad mor wir. Yn ddiweddarach yn yr un araith, siaradodd am hawliau dynol ac aeth ymlaen i ddweud—dyma'r dyfyniad:
yr hawl i anadlu fel y darparodd natur—hawl cenedlaethau'r dyfodol i fod yn iach.
Am hynny y mae'r ddadl hon y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ffaith drist fod Cymru'n cynnwys rhai o'r ardaloedd mwyaf llygredig yn y Deyrnas Unedig, ac mae cysylltiad clir rhwng ansawdd aer, amddifadedd ac iechyd. Mae astudiaethau wedi dangos bod perygl i iechyd y cyhoedd yn sgil cysylltiad mynych â llygredd aer. Mae llygredd aer yn cynyddu'r cysylltiadau â marwolaethau drwy gael effaith andwyol ar gyflyrau presennol yr ysgyfaint. Mae hefyd yn achosi asthma a chanser yr ysgyfaint. Mae'r risg hon yn arbennig o ddifrifol i blant sy'n dod i gysylltiad â llygredd aer. Mae'n gysylltiedig â diabetes, gweithredoedd gwybyddol, namau geni, canlyniadau, a niwed i organau fel yr iau a'r arennau—rhannau hynod o bwysig o'n cyrff. Mae rhai o'r ardaloedd mwyaf llygredig yn fy rhanbarth i, sef de-ddwyrain Cymru. Ar draws ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, mae tua 15 y cant o oedolion yn cael triniaeth ar gyfer problemau anadlu.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol mai cartrefi wrth yr A472 yn Hafodyrynys sy'n dioddef y lefel uchaf o nitrogen deuocsid yng Nghymru. Dim ond y rhai a gofnodwyd yng nghanol Llundain oedd yn uwch na'r lefelau a gofnodwyd yn 2015 a 2016. Mewn ymateb, mae cyngor Caerffili wedi penderfynu rhoi camau drastig ar waith i brynu 23 o'r adeiladau yr effeithiwyd arnynt waethaf er mwyn eu dymchwel. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddarparu'r cyllid angenrheidiol, yr amcangyfrifir y bydd yn £4.5 miliwn. Caniatawyd i'r sefyllfa hon yn Hafodyrynys barhau'n rhy hir. Mae polisi cyngor Caerffili o wneud cyn lleied â phosibl ac aros i dechnoleg newid erbyn 2025 wedi bod yn druenus o annigonol.
Ddirprwy Lywydd, mae hyn yn pwysleisio'r angen am Ddeddf aer glân yng Nghymru. Mae Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ac Awyr Iach Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil o'r fath. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf yn ymateb i'r risgiau iechyd a achosir gan ansawdd aer gwael yng Nghymru. O ganlyniad i'r methiant hwn i weithredu, mae ClientEarth wedi rhoi camau cyfreithiol ar waith. Mae Gweinidogion wedi methu gosod targedau clir yn hytrach na gwneud datganiad amwys sy'n gwadu atebolrwydd. Byddai Deddf aer glân Gymreig yn ymgorffori yn y gyfraith y canllawiau ansawdd aer a gynhyrchwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Byddai'n mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu strategaeth ansawdd aer statudol gyda thargedau clir i wella ansawdd aer yng Nghymru. Byddai dyletswydd ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer ac i roi camau buan ac effeithiol ar waith yn unol â hynny, a byddai'n cyflwyno gorfodaeth ar awdurdodau lleol i hysbysu grwpiau diamddiffyn pan fydd lefelau llygredd yn torri'r canllawiau a argymhellir.
Ddirprwy Lywydd, fel y dywedodd yr Arlywydd Kennedy dros 50 mlynedd yn ôl, mae'r hawl i anadlu aer glân yn hawl ddynol. Rydym oll yn anadlu'r un aer; mae gan bob un ohonom hawl i anadlu aer glân. Hoffwn annog pawb ohonoch i gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch.
Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y pwnc pwysig hwn a diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon. Fel y nodais droeon, ansawdd aer gwael yw un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf sy'n wynebu Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli ac yn byw ynddo, Gorllewin De Cymru, sydd â pheth o'r ansawdd aer mwyaf brwnt yn y DU. Mae lefelau PM10 yn aml yn uwch na'r trothwy dyddiol diogel; mewn sawl ysgol yn fy rhanbarth, rydym wedi cael llawer o ddyddiau yn yr ychydig fisoedd diwethaf lle'r oeddent yn ddwbl y trothwy dyddiol diogel.
Llygryddion aer sy'n gyfrifol am farwolaethau o leiaf bump o bobl y dydd yng Nghymru a'r cyfrannwr mwyaf i lygredd aer yw trafnidiaeth. Ers i Lywodraeth Lafur y DU gymell y newid i ddiesel, cynyddodd nifer y gronynnau a'r nitrogen deuocsid yn ein hatmosffer yn ddramatig. Cydnabu Llywodraeth bresennol y DU ffolineb y polisi hwn ac mae wedi cyflwyno system dreth cerbydau newydd i gosbi'r cerbydau sy'n llygru fwyaf. Maent hefyd wedi cyflwyno cynllun sgrapio newydd wedi'i gynllunio i dynnu hen gerbydau sy'n llygru oddi ar y ffordd, a gwnaethant ymrwymiad i symud tuag at ddyfodol o gerbydau trydan yn unig drwy gael gwared ar yr holl injans tanwydd ffosil yn raddol erbyn 2040.
Rwy'n croesawu'r camau hyn. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu i gefnogi'r camau hyn gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu achos llys am ei diffyg gweithredu i fynd i'r afael â llygredd aer. Mae'n hen bryd iddi gyflawni ei dyletswyddau i'r cyhoedd yng Nghymru. Gall ddechrau drwy weithredu i leihau tagfeydd traffig, sy'n chwyddo effaith llygredd traffig. Mae wedi cyflwyno cyfyngiadau cyflymder o 50 mya ar yr M4 ger fy nghartref, ac eto ychydig iawn o dystiolaeth os o gwbl a geir y bydd yn helpu i wella ansawdd yr aer. Y cyfan y mae wedi'i wneud yw cynyddu tagfeydd traffig. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y system gynllunio yn rhoi ystyriaeth i'r effaith y bydd datblygiadau newydd yn ei chael ar dagfeydd traffig.
Rwyf bob amser wedi dweud bod llygredd aer yn broblem iechyd y cyhoedd a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael ar lefel genedlaethol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Rwy'n ei chael hi'n anodd deall sut y credwch ei bod yn broblem fawr, ond rydych chi'n dal i wrthwynebu 50 mya, sy'n amlwg yn lleihau faint o—
Wel, oherwydd bod y tagfeydd traffig ar gyffordd 41 ac yn y blaen yn erchyll.
Gallech gael pawb yn rhuthro o gwmpas ar 100 mya, ond ni fyddai ond yn cynyddu'r llygredd, oherwydd byddai mwy fyth o gerbydau.
Ond mae'r tagfeydd yno o gerbydau ar stop wedi—
Na, ni allwch gael sgwrs ar draws y Siambr.
Gallwn gael sgwrs yn nes ymlaen.
Yn ogystal ag awdurdodau lleol yn monitro ansawdd aer, mae angen cael system adrodd i rybuddio trigolion am ansawdd aer gwael. Gellid defnyddio datblygiadau fel y lloeren Sentinel-5C a wnaed ym Mhrydain, sy'n monitro llygryddion aer, ar lefel genedlaethol i wella'r dull o ragfynegi lefelau uchel o lygredd aer a dylid eu defnyddio i rybuddio'r cyhoedd am ddigwyddiadau o'r fath, yn yr un modd ag y mae adroddiadau tywydd yn cynnwys cyfrif paill. Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithredu ar hyn ar frys. Mae lefelau llygredd uchel yn lladd.
Rhaid inni ystyried yr heriau enfawr o ran seilwaith a ddaw yn sgil trydaneiddio trafnidiaeth. Sut y gallwn gyflwyno pwyntiau gwefru i'r bobl nad ydynt yn ddigon ffodus i feddu ar dramwyfa neu garej? Buaswn yn annog y Llywodraethau, yng Nghymru ac yn San Steffan, i fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu dulliau di-wifr o wefru cerbydau.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Nid un arall, mae'n ddrwg gennyf. O, ewch ymlaen. Ewch ymlaen.
O ran pwysigrwydd llygredd, a yw eich plaid bellach yn deall ac o'r farn fod cysylltiad agos iawn rhwng llygredd a newid yn yr hinsawdd?
Rwyf wedi credu hynny erioed. [Torri ar draws.] Rwy'n siarad drosof fy hun. Rydych wedi gofyn cwestiwn i mi; nid gofyn i fy mhlaid a wnaethoch. Fe ofynnoch chi i mi—fy mhwynt, ac rwyf wedi'i bwysleisio. Diolch.
Felly, mae angen i Gymru a San Steffan fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu dulliau di-wifr o wefru cerbydau. Mae angen i'r ddwy Lywodraeth sicrhau hefyd na rwystrir y broses o gyflwyno pwyntiau gwefru cerbydau trydan gan y system gynllunio. Rhaid inni fynd benben â'r her iechyd cyhoeddus fawr hon. Rhaid inni wella ein ffordd o weithredu. Dylid annog ffyrdd amgen o deithio—cerdded, pan fo modd. Mae'n rhaid i ni gyd weithio gyda'n gilydd, er mwyn sicrhau nad oes neb yn marw o ganlyniad i ansawdd aer gwael yn y dyfodol. Mae arnom angen Deddf aer glân, gan nad yw dymchwel tai mewn ardaloedd sydd wedi'u llygru'n helaeth yn ateb. Rhaid inni fynd i'r afael â'r broblem ac nid y symptomau. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch o gael cyfrannu at y ddadl hon. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, am resymau cywir iawn, mae newid hinsawdd wedi dod i ddominyddu ein hagenda wleidyddol. Ond i lawer o bobl, oherwydd nad ydynt yn gweld effaith uniongyrchol yn yr hyn y maent yn ei wneud, ni chânt eu darbwyllo i wneud rhai o'r dewisiadau a fyddai o fudd mawr i ni yn hirdymor. Ond o ran ansawdd aer, mae'n faes sy'n cael effaith ar unwaith, ac mae gwella ansawdd aer yn cynnig mantais uniongyrchol. Rwy'n credu mai dyna sydd angen i ni ei bwysleisio y prynhawn yma.
Rwyf wedi cefnogi hyn yn gyson. Dyma oedd un o'r areithiau cyntaf imi eu gwneud yn y pumed Cynulliad hwn, pan heriais y Llywodraeth ynglŷn â pham nad oedd ganddynt adran ar ansawdd aer yn eu rhaglen lywodraethu. Yn ffodus, fe wnaethant unioni hynny'n gyflym iawn, ac rwy'n credu ein bod wedi datblygu'n sylweddol. Roedd yn rhan ganolog o'r strategaeth a lansiwyd gennym y llynedd ar ddinasoedd byw, ac rwy'n falch iawn o weld y camau arloesol a gyflwynir ac awgrymiadau yn y maes polisi hwn, ac yn wir rwy'n cynnwys gwelliant Plaid yn y categori hwnnw.
Drwy gyd-ddigwyddiad, Ddirprwy Lywydd, ceir erthygl ragorol yn y Financial Times heddiw sy'n crynhoi rhywfaint o'r gwaith ymchwil diweddar sy'n dangos effeithiau tymor byr aer gwael, ac nid wyf yn credu bod neb wedi canolbwyntio ar hynny y prynhawn yma mewn gwirionedd, felly efallai y caf amlinellu rhai o'r astudiaethau diweddaraf. Yn y bôn, mae'n dangos yr effeithiau tymor byr ar ddatblygiad plant, ar gynhyrchiant, ar effeithiolrwydd gwybyddol—mae'r holl bethau hyn yn cael eu gweld fel rhai ag iddynt effeithiau tymor byr mawr, yn ogystal â rhai hirdymor. Darganfu ymchwil a wnaed yn Israel fod cynnydd cymedrol mewn deunydd gronynnol ar ddiwrnod arholiad ysgol uwchradd myfyrwyr Israelaidd yn gysylltiedig â gostyngiad sylweddol yng nghanlyniadau arholiadau'r myfyrwyr hynny. Pan fyddwch yn meddwl amdano o ddifrif, gallai un diwrnod arwyddocaol o lygredd aer gael effaith ddramatig ar eich addysg a'ch rhagolygon ar gyfer y dyfodol—mae hynny'n syfrdanol.
Edrychodd gwaith ymchwil arall ar staff canolfannau galwadau a weithiai i'r un cwmni ond mewn gwahanol ddinasoedd yn Tsieina. Ar ddiwrnodau llygredig, gostyngai'r cynhyrchiant rhwng 5 a 6 y cant. Mae ansawdd aer gwael hefyd yn achosi perfformiad gwannach—ac nid wyf yn dychmygu hyn—ymhlith pêl-droedwyr proffesiynol yn yr Almaen. Ar ddiwrnod gêm, os ydych wedi dod i gysylltiad ag aer o ansawdd gwael, maent wedi gallu mesur ei fod yn cael effaith ar eich gallu corfforol a meddyliol. Dengys astudiaeth arall fod byw mewn rhan o'r Unol Daleithiau sydd â chyfradd uchel o lygredd carbon monocsid yn gwneud mwy o niwed i faban yn y groth na phe bai'r fam yn ysmygu 10 sigarét y dydd, a dengys astudiaeth arall fod bron i 3,000 o blant yn Barcelona a ddaeth i gysylltiad â mwy na'r cyfartaledd o lygredd aer yn dioddef yn sgil datblygiad gwybyddol arafach. Mae'r rhain yn ganfyddiadau arwyddocaol iawn sy'n peri pryder, ac mae angen inni roi ystyriaeth ddifrifol iawn iddynt.
Hoffwn edrych hefyd ar faes hollol wahanol i orffen, sef ansawdd llygredd aer dan do. Mae astudiaethau wedi dangos y gall fod dros dair gwaith yn waeth na llygredd awyr agored, ac mae ymgyrchwyr yn y DU wedi galw'r effaith hon ar ein cartrefi yn 'flychau gwenwynig' oherwydd nifer y gronynnau llygredd aer sy'n gallu cael eu dal y tu mewn i'n cartrefi. Mae ymchwil wedi dweud bod hyn yn deillio o ganlyniad i gyfuniad o weithgareddau dan do, fel coginio neu losgi coed, ynghyd â llygredd awyr agored o drafnidiaeth, sy'n dod i mewn, gan greu crynhoad o lygredd y tu mewn i'r cartref, ac mae'r crynoadau hyn o lygredd yn cymryd llawer mwy o amser i wasgaru na llygredd awyr agored. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cofio, o ran ansawdd cynllunio tai a'n polisi presennol, o ran sut yr awn ati i adnewyddu a gwella effeithlonrwydd ynni ac yn y blaen, fod yna effaith real ar ansawdd aer, ac y gall y llygryddion sy'n cronni yn y cartref droi ein mannau mwyaf gwerthfawr yn fannau sy'n peri niwed sylweddol.
Felly, rwy'n credu bod gwir angen inni gael strategaeth gynhwysfawr yn awr ar gyfer ansawdd aer. Mae'n cyd-fynd â newid yn yr hinsawdd, ond mae hefyd yn cyd-fynd â llawer o faterion iechyd y cyhoedd, cynhyrchiant, effeithlonrwydd yr economi a chanlyniadau addysgol. Ond rwy'n falch iawn ynglŷn â chywair y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n credu o ddifrif fod hyn y tu hwnt i wleidyddiaeth bleidiol, a'r hyn yr hoffem ei gael gan bawb a chan y Llywodraeth yw mwy o uchelgais, a byddwn yn eich annog pan fyddwch yn gosod targedau mwy uchelgeisiol, ac rwy'n credu o ddifrif hefyd mai dyna y mae pobl Cymru ei eisiau.
Ers dod yn Aelod Cynulliad, rwyf bellach yn teithio rhwng gogledd Cymru a de Cymru'n rheolaidd, ac rwy'n defnyddio'r M4 o amgylch Casnewydd i wneud hyn. Fel gyrwyr eraill, rwy'n cadw at y cyfyngiad cyflymder. Fodd bynnag, mae gostwng y cyflymder ar yr M4 yn dipyn o syndod, gan nad yw'r arwyddion yn rhoi unrhyw reswm dros y newid, ac nid oes rhybuddion. Yr adwaith naturiol weithiau yw arafu cryn dipyn, yn is o dipyn na'r terfyn cyflymder o 50 mya, ac mae hyn hefyd yn beryglus. Yn yr amgylchiadau hyn, gallaf weld sut y mae damweiniau'n digwydd, a gwn fod hyd yn oed mân ddamweiniau'n dod â'r darn pwysig hwn o seilwaith i stop, a dim ond unwaith yr wythnos yn unig y byddaf yn gwneud hyn; rhaid i rai pobl wneud hyn bob dydd er mwyn cyrraedd y gwaith, dosbarthu pethau ac yn y blaen. A wnewch chi feddwl am arwyddion mwy effeithiol i dynnu sylw gyrwyr at y gostyngiad yn y terfyn cyflymder sydd ar ddod a'r rheswm pam?
Ac rwyf hefyd yn gwybod bod yr M4 o amgylch Casnewydd a'r ffordd sy'n bwydo i mewn iddi yn aml ar stop, oherwydd mae'n rhaid i mi yrru arnynt i ddod i mewn i Gaerdydd, gyda cheir yn segura ar y ffyrdd am gyfnodau hir ac yn creu tagfeydd enfawr. Ni allaf weld sut y mae'r gostyngiad yn y terfyn cyflymder yn helpu pan fydd ceir yn sefyll yn llonydd yn chwydu nwyon ecsôst. Rwyf hefyd yn deall bod asesiadau o ansawdd aer wedi'u cynnal ar ôl i'r terfynau cyflymder gael eu gostwng a bod y canlyniadau'n amhendant. Roeddwn yn meddwl bod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau a pholisi yn seiliedig ar dystiolaeth, ac nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd yma—efallai y gallech egluro hynny imi. Gan i hyn ddigwydd, a yw'r Llywodraeth yn bwriadu parhau i asesu, profi a chyhoeddi'r canlyniadau, a rhoi camau ar waith megis ymestyn y cyfyngiadau ar derfynau cyflymder, neu eu hadfer lle nad ydynt yn gwneud gwahaniaeth? Fel rhywun sy'n byw mewn ardal wledig tu hwnt gydag ansawdd aer da, rwy'n sylwi ar y gwahaniaeth pan fyddaf yn cyrraedd de-ddwyrain Cymru. Fodd bynnag, rwy'n derbyn bod cydbwysedd da i'w daro rhwng yr ymdrech i gael aer glân a gallu pobl i wneud bywoliaeth a chyrraedd lle mae angen iddynt fod, a diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr heddiw, a byddaf yn cefnogi'r ddadl hon.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y camau y mae'r Llywodraeth hon wedi'u cymryd i alluogi pobl yng Nghymru i anadlu aer glân. Ac ers fy natganiad diwethaf ar y pwnc hwn yn gynnar eleni, mae ein hymdrechion wedi canolbwyntio ar fynd i'r afael â llygredd aer yn yr ardaloedd o Gymru y mae'n effeithio arnynt waethaf, ac fe wneir cynnydd tuag at gyflwyno Deddf aer glân. Yn ogystal â nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd tuag at ddeddfwriaeth newydd, mae gwelliannau'r Llywodraeth yn cywiro gwallau yn y cynnig gwreiddiol, sy'n cynnwys hen ffigurau a datganiadau gwallus.
Wrth ateb cwestiwn penodol Jenny Rathbone ynghylch ffigurau, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn pwysleisio bod y ffigurau a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar effaith llygredd aer yn seiliedig ar astudiaethau gwyddonol sy'n ceisio rhoi amcangyfrif rhesymedig o'r lefel gyffredinol o niwed a achosir. Mae'n gyfrifiad i ddangos maint y niwed. Nid yw'r un peth, er enghraifft, â dweud bod 2,000 o bobl yn marw'n gynnar bob blwyddyn o ganlyniad i ddamweiniau ceir. Byddai rhestr o'r fath mewn gwirionedd yn tanddatgan y gwir niwed. Nid yw'n hawdd priodoli effaith llygredd aer yn yr un modd a bydd tybiaethau gwahanol a wneir yn y cyfrifiadau a ddefnyddir i lunio amcangyfrifon yn cynhyrchu ffigurau gwahanol. Ond ar wahân i'r heriau ystadegol hynny, mae'r ffigur yn ein galluogi i ddweud yn hyderus mai llygredd aer yw'r risg iechyd cyhoeddus mwyaf sydd gennym.
Mae'r camau cyfreithiol y cyfeiria cynnig yr wrthblaid atynt yn ymwneud â materion ansawdd aer lleol yng nghanol dinas Caerdydd a Heol Hafodyrynys yng Nghaerffili. Mae'n wir, wrth gwrs, fod problemau ansawdd aer hyd yn oed yn waeth wedi arwain at yr un her gyfreithiol yn Lloegr, ac yn wir mewn gwledydd ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Ers ein dadl ddiwethaf, mae awdurdodau lleol Caerdydd a Chaerffili wedi cynhyrchu eu cynlluniau i fynd i'r afael â'r broblem o dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ac mewn ymateb i gyngor arbenigol annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac rydym hefyd wedi defnyddio ein swyddogion ein hunain i gynorthwyo'r awdurdodau lleol gyda chapasiti ac arbenigedd ychwanegol. Rydym wedi llunio set arall o gyfarwyddiadau ar gyfer y ddau awdurdod lleol ac rydym wedi dyrannu cyllid ychwanegol i gefnogi'r gwaith o gyflawni fel y gallwn fod yn sicr yr eir i'r afael â'r materion hyn yn yr amser byrraf posibl. Rwy'n cymeradwyo'r ddau awdurdod am fwrw ymlaen â'r gwaith hwn heb betruso nac oedi.
Yn fy natganiad diwethaf ar ansawdd aer, cyhoeddais benderfyniad fy nghyd-Aelod, Ken Skates, i wneud y cyfyngiadau cyflymder o 50 mya a gyflwynwyd gennym mewn ardaloedd â phroblem llygredd aer ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yn rhai parhaol. Ers hynny, rydym wedi parhau i fonitro eu heffeithiolrwydd ac rydym wedi gosod camerâu cyflymder cyfartalog i sicrhau bod yr holl yrwyr sy'n defnyddio'r ffyrdd yn cadw at y terfynau. Ar hyn o bryd rydym— [Torri ar draws.] Ddim am funud. Rydym wrthi'n cyflwyno arwyddion cliriach, yn ateb i gwestiwn penodol Mandy Jones. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr arwyddion yn esbonio pam y mae'r parthau 50 mya hynny yno fel bod y cyhoedd yn deall y rhesymau sy'n sail iddynt, oherwydd rwy'n credu mai dyna lle y gwnaethom gamgymeriad gyda hynny. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Mae gennyf un yn fy etholaeth i, fel y byddwch wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen, ac nid yw pobl yn deall y rheswm drosto. Felly, rydym wrthi'n cynllunio hynny a byddant yn cael eu gosod yn y dyfodol agos iawn. Fe ildiaf.
A gaf fi ofyn, Weinidog, a oes tystiolaeth rymus eto fod y parthau hyn yn llwyddo i leihau llygredd aer?
Rydym yn disgwyl—rwy'n credu y bydd gennym flwyddyn o ddata ddiwedd y mis hwn, ond yn sicr mae'r ffeithiau a'r data a welsom yn dangos ein bod yn gwbl gywir i wneud y rheini'n barhaol yn awr.
Ers ein dadl ddiwethaf, rydym hefyd wedi parhau i wneud cynnydd tuag at gyflwyno Deddf aer glân i Gymru a'r cam nesaf wrth ddatblygu'r Ddeddf fydd cyhoeddi cynllun aer glân i ymgynghori arno cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Yn ogystal ag amlinellu'r angen am bwerau newydd drwy ddeddfwriaeth sylfaenol, bydd y cynllun hefyd yn egluro sut y byddwn yn gwneud gwell defnydd o'r pwerau presennol, y camau y byddwn yn eu cymryd i gryfhau monitro, a sut y byddwn yn gwella hygyrchedd yr wybodaeth am ansawdd aer yr ydym am ei chyhoeddi gan ganolbwyntio ar ddiogelu grwpiau agored i niwed. Felly, anogaf yr holl Aelodau Cynulliad sydd â diddordeb yn y pwnc i gyfrannu eu syniadau i'r broses hon, a chroesawaf y consensws trawsbleidiol sy'n datblygu ar y mater hwn, oherwydd bydd ein hiechyd a'r amgylchedd yn elwa o ganlyniad.
Mae'r cynnig gan y Blaid Geidwadol yn dweud y byddai'n well cyflwyno Deddf aer glân yn ystod y tymor Cynulliad hwn—felly, o fewn y 18 mis nesaf. Wrth gwrs, byddai llawer mwy o gapasiti deddfwriaethol ar gael i'r Cynulliad hwn oni bai am lanastr Brexit y Torïaid y mae eu plaid yn llywyddu drosto. Rwy'n teimlo y byddai'n werth i Aelodau Ceidwadol Cymru gydnabod, wrth wneud yr alwad hon, y pwysau dwys ar y ddeddfwrfa hon a'n swyddogion oherwydd methiannau eu plaid.
Mae'r Torïaid yn yr wrthblaid yng Nghymru yn awyddus i siarad am hawliau hefyd, er ei bod yn amlwg i'r gweddill ohonom, o'u gweithredoedd mewn Llywodraeth, fod eu parch at hawliau yn denau iawn. Mae'r Torïaid yn ein beirniadu am barchu dyfarniadau'r Llys Ewropeaidd, er enghraifft, a pholisi eu plaid yw osgoi awdurdodaeth y llys yn llwyr er mwyn tanseilio rheoliadau amgylcheddol, hawliau gweithwyr ac unrhyw amddiffyniadau cymdeithasol eraill y credant y gallant ein hamddifadu ohonynt.
Felly, credaf y bydd angen Deddf aer glân i Gymru er mwyn sicrhau'r lefel o amddiffyniad sydd ei angen arnom, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yn gweithio tuag at hyn ac yn ein cefnogi i'w wneud.
Galwaf ar Andrew R.T. Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfraniadau o bob cwr i'r llawr ar y pwnc pwysig hwn. Gallwn hollti blew ynglŷn â'r rhifau, boed yn 1,400 neu'n 2,000; rwy'n credu mai'r hyn y mae pawb ohonom yn ei dderbyn yw bod nifer annerbyniol o farwolaethau cynamserol yng Nghymru. Daeth y ffigur yn ein cynnig ni gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef corff y Llywodraeth ei hun, yn ôl yr hyn a ddeallaf, sy'n ei chynghori ar faterion iechyd cyhoeddus. I roi rhif mesuradwy, mae hynny'n fwy na 40 o farwolaethau yr wythnos. Nawr, pe bai rhywun yn dod i'r Siambr hon neu i'r ddeddfwrfa hon a dweud bod y nifer hon o farwolaethau cynamserol yn digwydd mewn unrhyw agwedd arall ar ein bywydau, byddai gweithredu cyflym yn y maes penodol hwn.
Nodaf yr hyn a ddywedodd Llyr Gruffydd am ddadl fer Dai Lloyd, lle y tynnodd sylw at y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd i lanhau dŵr budr. Gant a hanner o flynyddoedd yn ôl, câi ei weld fel peth arferol i bobl dynnu dŵr o ffynhonnau llygredig ac ati, a dyna beth oedd cymdeithas yn ei dderbyn. Fel y dywedodd Angela Burns yn ei sylwadau agoriadol, ni all fod yn dderbyniol i ni ddioddef rhywbeth sy'n hawl. Mae gennym hawl i gael aer glân. A lle bynnag yr ydych yn byw, ym mha gymuned bynnag yr ydych yn byw, dylech gael yr hawl honno, a soniodd Mohammad Asghar am yr hyn a ddywedodd yr Arlywydd John F. Kennedy: dylem ei chael fel y bwriadodd natur. Ac mae gennym fodd o wneud hynny. Gwyddom beth yw'r peirianwaith mewn perthynas â llygredd, fel y nododd llawer o siaradwyr, yn enwedig ym maes trafnidiaeth, ond hefyd ym maes cynllunio.
Tynnodd Jenny Rathbone, yr Aelod dros Ganol Caerdydd, sylw at ffordd brifwythiennol yng Nghaerdydd yr wyf yn gyfarwydd iawn â hi—Ffordd Casnewydd, er enghraifft. Ac am rannau mawr o'r dydd, mae tagfeydd arni, ac mae'r tagfeydd hynny'n digwydd am nad oes gan lawer o bobl ddewis arall. Mae'n rhaid iddynt ddefnyddio'r car. Ac oni bai ein bod ni fel llunwyr polisi, gan weithio gyda rhannau eraill o Lywodraeth, Llywodraeth Leol ac ar lefel y DU yn genedlaethol, yn gwneud y newidiadau hyn, byddwn yn parhau i weld y lefel hon o farwolaethau cynamserol.
Ac wrth gwrs, yr hyn y mae pobl yn ei weld yn amlwg hefyd yw'r afiechydon critigol sy'n arwain at y marwolaethau cynamserol hynny. Mae llawer o ddegau o filoedd o bobl, fel y crybwyllodd Nick Ramsay yn ei sylwadau, wrth sôn am Margaret Barnard, yn mygu i farwolaeth. A allwch chi ddychmygu gwylio rhywun annwyl yn mygu i farwolaeth araf dros fisoedd a blynyddoedd, gan wybod y gallai'r bobl sy'n gyfrifol am ein hamgylchedd ac yn gyfrifol am ein deddfwrfeydd a'n safbwyntiau polisi wneud gwelliannau dramatig ym mhob ffordd pe baent eisiau? A dyna pam y mae'r cynnig hwn yn galw am gyflwyno Deddf aer glân yn y rhaglen ddeddfwriaethol.
Yn anffodus, mae'r Llywodraeth wedi dewis peidio â gwneud hynny, ac nid wyf yn derbyn ateb y Gweinidog mai'r rheswm na ellir gwneud hyn yn y pen draw yw Brexit. Mae'r Llywodraeth wedi profi dro ar ôl tro y gallant gyflwyno'r ddeddfwriaeth pan fydd ganddynt fater pwysig dan sylw, fel y profodd y Bil cyflogau amaethyddol, a gyflwynwyd yn gyflym iawn. Onid yw 2,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yn argyfwng cenedlaethol, Weinidog, argyfwng y mae gennych arfau i ymdrin ag ef? Pam na wnewch chi fel Llywodraeth ymdrin â hynny? Does bosibl nad yw hyn yn rhywbeth a ddylai fod ar eich radar ac na ddylid ymdrin ag ef mewn modd amserol, yn hytrach na beio Brexit am beidio â chyflwyno'r broses ddeddfwriaethol.
Yn yr un modd, gan gefnogi argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch aer glân, sef yr hyn y mae ein cynnig yn galw amdano—gallwch fynd ymhellach. Mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny? Pam nad ydych chi'n defnyddio hynny fel meincnod, yn hytrach na dweud bod Llywodraeth y DU, fel y dywedwch, yn cyfyngu ar hawliau gweithwyr, ac ati? Onid dyna'r gwir? Mae'r Prif Weinidog ac arweinwyr eraill yn San Steffan wedi dweud y byddant yn ymgorffori yn y gyfraith yr hawliau a enillwyd drwy waith caled dros ddegawdau lawer. Mae hynny'n ffaith. Gallwch godi eich ysgwyddau cymaint ag y dymunwch, Weinidog, ond mae hynny'n ffaith. O dan eich goruchwyliaeth chi, mae pobl yn marw oherwydd ansawdd aer gwael ac nid yw'r Llywodraeth hon yn defnyddio'r dulliau sydd ar gael iddi.
Buaswn hefyd yn tynnu sylw at yr hyn a ddywedodd David Melding am feinciau'r Ceidwadwyr yn cyflwyno'r ddogfen 'Dinasoedd Byw', sydd bellach oddeutu 12 neu 18 mis oed, gydag atebion go iawn ar gyfer enillion cyflym iawn y gallwn eu cyflawni yn y maes penodol hwn. A buaswn yn annog y Llywodraeth i ddyblu ei hymdrechion yn y maes penodol hwn.
Rwy'n ddiolchgar am gyfraniad Plaid Brexit hefyd a'r arwydd o gefnogaeth gan Caroline Jones a Mandy Jones, oherwydd gwyddom fod trafnidiaeth yn chwarae rhan fawr yn hyn, ac mae gweld llawer o bobl yn troi at geir trydan wedi bod yn rhan o'r ateb a symud tuag at yr agenda honno, ond rydym yn gwybod hefyd mai padiau breciau a gronynnau teiars yn yr aer sydd i gyfrif o hyd am 40 y cant o'r deunydd gronynnol sy'n cael ei anadlu gan ddinasyddion ar hyd a lled Cymru. Felly, buaswn yn gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig sydd ger eu bron heddiw, wedi'i ddiwygio gan y gwelliant derbyniol a gawsom gan Blaid Cymru, ac yn gwrthod y gwelliant 'dileu popeth' a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, sy'n destun gofid mawr yn yr hyn a ddylai fod yn ddadl gydsyniol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.