Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 18 Medi 2019.
Roedd Margaret Barnard yn ysgrifennydd Anadlu'n Rhydd yng Nghastell-nedd a gefnogir gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, grŵp o bobl yng Nghymru sy'n byw gyda chlefyd yr ysgyfaint, a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn bennaf. Roedd y grŵp yn cynnig cymorth i'w gilydd ac yn codi arian ar gyfer cyfarpar adsefydlu'r ysgyfaint. Roedd Margaret yn gwbl fythgofiadwy i bawb a oedd yn ei hadnabod. Soniaf amdani, nid yn unig oherwydd ei gwaith arobryn gyda Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, ond oherwydd ei phenderfyniad i fyw'n dda, i osod esiampl, er gwaethaf y cyflwr gwanychol a'i lladdodd yn y diwedd yn 2016.
Efallai fod Margaret yn wych, ond nid yw mygu'n rhywbeth gwych o gwbl. Dyna pam y mae angen inni weithredu i helpu pob Margaret arall yng Nghymru—5,500 o flynyddoedd bywyd yn cael eu colli bob blwyddyn yn hen ardal bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, 368 o farwolaethau o nitrogen deuocsid, a llygredd deunydd gronynnol lleiaf bob blwyddyn, ac un ardal bwrdd iechyd yn unig yw honno. Yn fy ardal fy hun, yn Nwyrain De Cymru, amcangyfrifir bod 300 o farwolaethau bob flwyddyn ymhlith rhai 25 oed a hŷn wedi'u priodoli i lygredd aer.
Nawr, efallai nad yw'r rhain yn ffigurau sy'n llenwi'r penawdau fel y gwelwn ar gyfer clefyd y galon a chanser, ond wrth gwrs, mae llygredd aer yn chwarae rhan mewn achosion cardiofasgwlaidd a chanser hefyd. Efallai y byddech yn disgwyl i nifer y marwolaethau oherwydd llygredd aer edrych yn eithaf gwael mewn ardaloedd lle mae'r dwysedd mwyaf o ddefnyddwyr ceir, gorsafoedd pŵer a diwydiant trwm wrth gwrs. Ond mewn gwirionedd, y dystiolaeth orau o statws llygredd aer fel lladdwr anweledig yw'r ffaith mai yng ngogledd Cymru y gwelwn y nifer fwyaf o farwolaethau, oherwydd y deunydd gronynnol lleiaf, a grybwyllwyd gan fy nghyd-Aelod Angela Burns yn gynharach—y llwch peryglus sy'n dod o draul breciau, traul teiars ac o draul wyneb y ffordd. Efallai fod gogledd Cymru'n fwy gwledig, yn llai poblog, ond fel ardaloedd yn y de—Casnewydd a chytrefi—nid oes yno draffig sy'n llifo'n rhydd. Y traffig hwnnw, yn hytrach na ffynonellau eraill, yw'r halogydd aer mwyaf yng Nghymru, ac mae'n broblem frawychus. Mae cael cerbydau trydan cyfatebol yn lle rhai petrol a diesel yn dal i olygu bod ceir, lorïau a bysiau sy'n cynhyrchu'r llwch peryglus hwnnw—y PM2.5—gyda ni heddiw. Eto i gyd, mae ein gwahanu oddi wrth ein ceir, fel y trafodwyd gennym, yn galw am newid diwylliant enfawr yn ogystal â dewisiadau amgen realistig. Wrth gwrs, mae newid wedi digwydd yn y gorffennol; rwy'n cofio pan gyflwynwyd petrol swlffwr isel iawn am y tro cyntaf—a châi hynny ei ystyried yn enghraifft o arloesi gwych. Roedd yn arloesi—roedd yn well na'r petrol plwm a oedd wedi dod cyn hynny—ond dyma ni, nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach, ac mae arnom angen datblygiadau eraill hefyd, a rhaid i gerbydau trydan fod yn rhan o hynny.
Mae angen inni fod yn ddewr ac yn feiddgar, ac mae hynny'n llawer llai brawychus os ydym i gyd yn cytuno bod angen ei wneud. Rwy'n credu bod ewyllys gwleidyddol yma yn y Siambr hon, er mor gelfydd y mae'r gwelliant a grybwyllodd Angela Burns yn gynharach yn cuddio hynny—y gwelliant 'dileu popeth'. Rydym yn croesawu gwelliant Plaid Cymru, sy'n cyflwyno elfen werthfawr i'r ddadl hon yn ein barn ni, ond cawn weld a fydd yn cael ei dderbyn.
Nid dyma'r amser i Lywodraeth, boed yn Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU, fod yn amddiffynnol; mae'n bryd i bob un ohonom droi ymrwymiad yn weithredoedd. Cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei barth rheoli ansawdd aer cyntaf yn Ionawr 2019 ar gyfer Stryd y Parc, nad yw, gyda llaw, yn ardal arbennig o ddifreintiedig. Nid yw mor hawdd dod o hyd i fanylion ynglŷn â sut yn union y mae'r Cyngor yn bwriadu gwneud gwelliannau, er y gallwch ddod o hyd i fanylion ynglŷn â sut y bydd caniatâd cynllunio ar gyfer dau ddatblygiad adeiladu dadleuol yn ychwanegu ymhellach at dagfeydd traffig yno.
Mae'n broblem y dylid ei thrafod, nid yn unig gennym ni, ond gan awdurdodau lleol ledled Cymru sy'n gwneud llawer o'r gwaith ar lawr gwlad, i sicrhau bod eu gweithrediadau'n dryloyw er mwyn i bobl allu cael gafael ar wybodaeth o'r fath i allu gwneud penderfyniadau gwybodus. Un peth yw lleihau cyfaint y traffig ar y ffyrdd, ond mae llawn cymaint o fai ar reolaeth draffig wael ag sydd ar ein cariad at y car, ac mae'n gofyn llawer i gynghorau ôl-osod newidiadau mawr eu hangen i seilwaith lleol, yn enwedig ar adeg pan fo cyllidebau o dan bwysau wrth gwrs.
Mae parthau 50 milltir yr awr yn rhan bosibl o'r ateb, ond nid yr ateb cyfan y byddai Llywodraeth Cymru yn gobeithio amdano. Yn fy ardal i, mae gennym obeithion mawr ar gyfer metro de Cymru, ond mae llawer o'r newidiadau arloesol mwy addawol yn perthyn i'r dyfodol: yn ne-orllewin Cymru, gallai metro yno fod yn rhan o'r ateb, ac edrychwn am gynllunio tuag at hynny; rhaid i reoli traffig fod yn rhan o'r ateb a lleihau cyfaint y traffig dros amser; mae Aelodau'r Cynulliad wedi crybwyll mwy o deithio llesol; trafnidiaeth gyhoeddus, wrth gwrs, y bydd pobl yn gallu ei defnyddio'n effeithiol, a soniais yn y datganiad busnes ddoe sut y mae cyrraedd Caerdydd i weithio yn y bore yn un peth yn fy ardal i, ond mae'n anodd iawn cyrraedd adref yn y nos pan nad oes gwasanaeth bws ar ôl 5.30 pm. Dylai cynlluniau datblygu lleol fynnu bod lleoliad safleoedd ceisiadau tai yn helpu ac nid yn gwaethygu'r broblem mewn mannau lle y ceir problemau eisoes—yn hytrach, dylent eu lliniaru. Fel y dywedais yn gynharach, Ddirprwy Lywydd, nid ydym yn cefnogi'r gwelliant 'dileu popeth'. Rydym yn cefnogi'r hyn y mae gwelliant Plaid Cymru yn ei gynnig i'r ddadl.