Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 18 Medi 2019.
Os gwnaiff fy nghyd-Aelod aros ychydig funudau, fe ddatblygaf ychydig mwy ar hynny. Ond mae'r hyn rydych newydd ei ddweud yn atgyfnerthu ein galwad am Fil aer glân, oherwydd dyna'r math o drafodaethau y gallem ni fel Cynulliad, ym mhob un o'n pwyllgorau a chan gymryd tystiolaeth briodol gan y bobl, ddechrau eu cael—pa mor bell y gallwn ei wthio, ble y gallwn arwain, beth yw'r addewidion, beth sy'n gorfodi, beth sy'n cymell, sut y mae'n gweithio?
Oherwydd mater i ni yw hyn. Mae'r mwyafrif llethol o'r llygryddion hyn yn rhai a wnaed gan bobl, a ni sy'n dewis cynyddu'r defnydd ohonynt. Rhaid inni dderbyn bod ein penderfyniadau ni, y rhai a wnawn wrth fwrw ati i deithio yn y car neu fynd ar wyliau tramor neu beth bynnag, yn effeithio ar ansawdd yr aer a anadlwn. Nid wyf yn awgrymu y dylem ddeddfu i leihau'r defnydd o geir, ond rwy'n dweud y dylem i gyd ystyried sut y defnyddiwn ein ceir, a golyga hynny fod yn rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus wella ac mae angen inni wneud llai o ddefnydd o geir a gwella ein defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.
Un ateb syml, a dyma un peth y gallem ei roi yn ein Bil aer glân, fyddai lleihau'r llygredd yn rhai o'n dinasoedd a'n trefi drwy annog awdurdodau lleol i orfodi'r is-ddeddfau presennol ynglŷn â cheir sy'n segura, sef ceir ar stop â'u hinjan yn rhedeg am gyfnod afresymol o amser. Mae pawb ohonom wedi'i weld, mae yna amrywiaeth o bobl sy'n gwneud y math yma o beth. Rydym yn gwybod hynny, mae'n siŵr ein bod wedi'i wneud ein hunain. Am bob £1 a fuddsoddwyd ar fynd i'r afael â'r broblem hon gan awdurdod lleol, ceir tystiolaeth fod dros £4 yn dychwelyd. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru i edrych ar sut y gellid mynd i'r afael â'r mater hwn yn well, oherwydd byddai'n rhywbeth y gellid ei wneud yn hawdd ac yn gyflym.
Mae Llywodraeth Cymru yn aml wedi cuddio y tu ôl i'r dadleuon amgylcheddol yn eu hamharodrwydd i fwrw ymlaen ag uwchraddio'r M4, ond yr wrthddadl a anwybyddir yn gyfleus yw bod y draffordd o amgylch Casnewydd wedi'i blocio am sawl awr bob dydd â cherbydau ar stop neu'n teithio ar gyflymder araf iawn—yr un broblem—gan bwmpio llygryddion i'r atmosffer. Ymddengys hefyd fod y Llywodraeth yn credu y bydd buddsoddi mewn seilwaith cerbydau trydan yn helpu i ddatrys problem allyriadau, ond nid yw'n datrys y broblem yn ei chyfanrwydd. Er nad yw cerbydau o'r fath yn cynhyrchu'r un lefelau o nwyon tŷ gwydr, maent yn dal i allyrru llygryddion gronynnol, ac mae 45 y cant o'r llygryddion hynny, fel y dywedais yn gynharach, yn dod o lwch breciau a theiars. Yr hyn y mae angen inni ganolbwyntio arno yw llai o geir yn hytrach na cheir mwy newydd. Mae angen inni edrych—mae angen i chi fod yn edrych—ar sut y mae tynnu pobl oddi ar y ffordd ac ehangu'r rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'r risgiau i iechyd sy'n gysylltiedig ag ansawdd aer gwael yn hysbys iawn. Mae clefydau cardiofasgwlaidd presennol yn gwaethygu a cheir risg uwch o asthma a chanser yr ysgyfaint. Fel y crybwyllodd Huw Irranca-Davies eisoes rwy'n credu, mae plant yn arbennig o agored i niwed. Bydd effeithiau'r llygredd y maent yn ei anadlu heddiw i'w weld yn y dyfodol. Maent yn tueddu i anadlu'n gynt nag oedolion ac mae eu hysgyfaint yn dal i dyfu. Mae cysylltiad rhwng anadlu llygredd aer yn ystod beichiogrwydd a phwysau geni isel a genedigaeth gynamserol. Mae plant yn llai o faint felly maent yn aml yn llawer is ac felly'n nes. Yn eu cadeiriau gwthio bach, cânt eu gwthio i fyny ac i lawr y palmentydd ac maent yn anadlu'r holl fygdarthau o bibelli ecsôst.
Yn ôl Asthma UK, gwelwyd cynnydd o 8 y cant yn nifer y bobl a fu farw o bwl o asthma yn 2018 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Ac mae 33 y cant yn fwy—mwy na thraean—o bobl yn marw ers 2008 oherwydd hyn. At hynny, ymhlith y boblogaeth hŷn, gall ansawdd aer gwael effeithio'n andwyol ar gyflyrau presennol. Cafodd cysylltiad cronig â lefelau uchel o lygredd aer uwch eu cysylltu ag achosion o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, broncitis cronig, asthma ac emffysema.
Mae niferoedd y marwolaethau a briodolir i lygryddion yn uwch o lawer mewn ardaloedd trefol o gymharu ag ardaloedd gwledig a cheir graddiant amddifadedd, gyda'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn gweld y crynodiadau nitrogen deuocsid uchaf a'r nifer fwyaf o farwolaethau a briodolir i lygryddion. Mae'n ddiddorol ac yn drist nodi, yn ôl adroddiad 'Toxic air at the door of the NHS' gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn 2018, fod dau ysbyty yng Nghaerdydd a mwy na hanner meddygfeydd meddygon teulu'r ddinas yn cofnodi lefelau o ddeunydd gronynnol sy'n uwch na chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. Mae marwolaethau y gellir eu hatal sy'n deillio o glefydau anadlol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn uwch na 60 y cant ymhlith dynion a 66 y cant ymhlith menywod, o gymharu â dim ond 11 y cant ymhlith dynion a menywod os ydych yn digwydd byw mewn maestref ddeiliog braf neu allan yn y wlad. Ystadegyn ysgytwol, sy'n ofnadwy o annheg ac sy'n arwain at ragor o anghydraddoldebau mewn cymdeithas.
Nid ar gyflyrau anadlol yn unig y mae llygredd aer yn effeithio, ond ar gyflyrau cylchrediad y gwaed hefyd. Mae ymchwil gan Sefydliad Prydeinig y Galon wedi canfod bod mewnanadlu crynodiadau uchel o ddeunydd gronynnol yn y tymor byr yn unig yn cynyddu'r risg o drawiad ar y galon o fewn y 24 awr gyntaf i ddod i gysylltiad â llygredd o'r fath. Mae astudiaethau hefyd wedi canfod bod gronynnau mewn pibelli ecsôst diesel yn gwaethygu'r clefyd atherosglerosis—mawredd, heddiw yw fy niwrnod ar gyfer dweud geiriau anodd, onid e?—y cyfeirir ato'n fwy cyffredin fel braster sy'n crynhoi o gwmpas y rhydwelïau. Yn fyd-eang, amcangyfrifir bod 80 y cant o'r marwolaethau a briodolir i lygredd aer yn deillio o glefyd cardiofasgwlaidd.
Nawr, Weinidog, rwyf wedi nodi llawer o'r cefndir yma i ddangos pam y mae angen i ni fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael a hoffwn sôn yn fyr am y camau y byddwn yn gofyn i chi eu cymryd. Fel plaid, rydym yn croesawu'r cyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru yn mynd iddo wrth fynd i'r afael â llygredd aer ac ansawdd aer, ond galwn arnoch i fynd lawer ymhellach. Ym mis Mehefin 2019, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wrth y Siambr fod aer glân yn ganolog i'n llesiant, a galwaf arni i ystyried y datganiad hwn pan fyddwch yn ystyried ein cynnig heddiw.
Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi gosod cynllun uchelgeisiol i leihau lefelau deunydd gronynnol 30 y cant y flwyddyn nesaf a 46 y cant erbyn 2030, gan dorri £5.3 biliwn oddi ar gostau llygredd aer i gymdeithas yn flynyddol o 2030 ymlaen. Ac mae ein cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn yr arweiniad hwn. Mae strategaeth aer glân Llywodraeth y DU yn gweithio law yn llaw â'r strategaeth twf glân ac mae'r cynllun amgylcheddol 25 mlynedd yn creu ymagwedd gyfannol tuag at lanhau aer y DU a gwella iechyd pawb ohonom. Ond credwn eich bod wedi llusgo'ch traed ar leihau allyriadau'n ddigonol yng Nghymru. Yma, cynyddodd yr allyriadau 5 y cant rhwng 2015 a 2016 ac 1.4 y cant arall y flwyddyn, ar gyfartaledd, rhwng 2009 a 2016, ond gostyngodd allyriadau'r DU 5 y cant. Rydym eisiau'r Bil aer glân hwn. Credwn y byddem yn hoffi cael syniadau clir iawn o'r hyn y gallai ei wneud. Rydym yn credu y gallem ei gyrraedd drwy gydweithio cydlynol ar draws y pleidiau ar Fil da a fyddai'n mynd i'r afael â'r broblem ofnadwy ac anodd iawn hon.
Rwyf am droi'n gyflym iawn at y gwelliannau. Rydym wrth ein boddau ac yn ddiolchgar iawn am welliant Plaid Cymru. Rydym yn ei gefnogi. Mae arnaf eisiau gwneud un pwynt, sef bod gwir angen inni annog gwneuthurwyr y dechnoleg i gyd-fynd â'n huchelgais gwleidyddol, oherwydd rydym am gael y targedau 2030 hyn, ond mae angen iddynt ysgwyddo'u cyfrifoldeb a gwneud i hynny ddigwydd mewn gwirionedd. Ac o ran y Llywodraeth, mae'n rhaid i mi ddweud bod gwelliant y Llywodraeth, gwelliant 'dileu popeth', mor ddi-fudd mewn dadl eang ac mae'n mynd yn groes i'r ysbryd cydweithredol yr ydym eisiau ei weld ar fater mor bwysig yn fyd-eang. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau pawb heddiw i weld sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddarparu awyr lanach a gwell i bobl Cymru.