Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 18 Medi 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfraniadau o bob cwr i'r llawr ar y pwnc pwysig hwn. Gallwn hollti blew ynglŷn â'r rhifau, boed yn 1,400 neu'n 2,000; rwy'n credu mai'r hyn y mae pawb ohonom yn ei dderbyn yw bod nifer annerbyniol o farwolaethau cynamserol yng Nghymru. Daeth y ffigur yn ein cynnig ni gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef corff y Llywodraeth ei hun, yn ôl yr hyn a ddeallaf, sy'n ei chynghori ar faterion iechyd cyhoeddus. I roi rhif mesuradwy, mae hynny'n fwy na 40 o farwolaethau yr wythnos. Nawr, pe bai rhywun yn dod i'r Siambr hon neu i'r ddeddfwrfa hon a dweud bod y nifer hon o farwolaethau cynamserol yn digwydd mewn unrhyw agwedd arall ar ein bywydau, byddai gweithredu cyflym yn y maes penodol hwn.
Nodaf yr hyn a ddywedodd Llyr Gruffydd am ddadl fer Dai Lloyd, lle y tynnodd sylw at y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd i lanhau dŵr budr. Gant a hanner o flynyddoedd yn ôl, câi ei weld fel peth arferol i bobl dynnu dŵr o ffynhonnau llygredig ac ati, a dyna beth oedd cymdeithas yn ei dderbyn. Fel y dywedodd Angela Burns yn ei sylwadau agoriadol, ni all fod yn dderbyniol i ni ddioddef rhywbeth sy'n hawl. Mae gennym hawl i gael aer glân. A lle bynnag yr ydych yn byw, ym mha gymuned bynnag yr ydych yn byw, dylech gael yr hawl honno, a soniodd Mohammad Asghar am yr hyn a ddywedodd yr Arlywydd John F. Kennedy: dylem ei chael fel y bwriadodd natur. Ac mae gennym fodd o wneud hynny. Gwyddom beth yw'r peirianwaith mewn perthynas â llygredd, fel y nododd llawer o siaradwyr, yn enwedig ym maes trafnidiaeth, ond hefyd ym maes cynllunio.
Tynnodd Jenny Rathbone, yr Aelod dros Ganol Caerdydd, sylw at ffordd brifwythiennol yng Nghaerdydd yr wyf yn gyfarwydd iawn â hi—Ffordd Casnewydd, er enghraifft. Ac am rannau mawr o'r dydd, mae tagfeydd arni, ac mae'r tagfeydd hynny'n digwydd am nad oes gan lawer o bobl ddewis arall. Mae'n rhaid iddynt ddefnyddio'r car. Ac oni bai ein bod ni fel llunwyr polisi, gan weithio gyda rhannau eraill o Lywodraeth, Llywodraeth Leol ac ar lefel y DU yn genedlaethol, yn gwneud y newidiadau hyn, byddwn yn parhau i weld y lefel hon o farwolaethau cynamserol.
Ac wrth gwrs, yr hyn y mae pobl yn ei weld yn amlwg hefyd yw'r afiechydon critigol sy'n arwain at y marwolaethau cynamserol hynny. Mae llawer o ddegau o filoedd o bobl, fel y crybwyllodd Nick Ramsay yn ei sylwadau, wrth sôn am Margaret Barnard, yn mygu i farwolaeth. A allwch chi ddychmygu gwylio rhywun annwyl yn mygu i farwolaeth araf dros fisoedd a blynyddoedd, gan wybod y gallai'r bobl sy'n gyfrifol am ein hamgylchedd ac yn gyfrifol am ein deddfwrfeydd a'n safbwyntiau polisi wneud gwelliannau dramatig ym mhob ffordd pe baent eisiau? A dyna pam y mae'r cynnig hwn yn galw am gyflwyno Deddf aer glân yn y rhaglen ddeddfwriaethol.
Yn anffodus, mae'r Llywodraeth wedi dewis peidio â gwneud hynny, ac nid wyf yn derbyn ateb y Gweinidog mai'r rheswm na ellir gwneud hyn yn y pen draw yw Brexit. Mae'r Llywodraeth wedi profi dro ar ôl tro y gallant gyflwyno'r ddeddfwriaeth pan fydd ganddynt fater pwysig dan sylw, fel y profodd y Bil cyflogau amaethyddol, a gyflwynwyd yn gyflym iawn. Onid yw 2,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yn argyfwng cenedlaethol, Weinidog, argyfwng y mae gennych arfau i ymdrin ag ef? Pam na wnewch chi fel Llywodraeth ymdrin â hynny? Does bosibl nad yw hyn yn rhywbeth a ddylai fod ar eich radar ac na ddylid ymdrin ag ef mewn modd amserol, yn hytrach na beio Brexit am beidio â chyflwyno'r broses ddeddfwriaethol.
Yn yr un modd, gan gefnogi argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch aer glân, sef yr hyn y mae ein cynnig yn galw amdano—gallwch fynd ymhellach. Mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny? Pam nad ydych chi'n defnyddio hynny fel meincnod, yn hytrach na dweud bod Llywodraeth y DU, fel y dywedwch, yn cyfyngu ar hawliau gweithwyr, ac ati? Onid dyna'r gwir? Mae'r Prif Weinidog ac arweinwyr eraill yn San Steffan wedi dweud y byddant yn ymgorffori yn y gyfraith yr hawliau a enillwyd drwy waith caled dros ddegawdau lawer. Mae hynny'n ffaith. Gallwch godi eich ysgwyddau cymaint ag y dymunwch, Weinidog, ond mae hynny'n ffaith. O dan eich goruchwyliaeth chi, mae pobl yn marw oherwydd ansawdd aer gwael ac nid yw'r Llywodraeth hon yn defnyddio'r dulliau sydd ar gael iddi.