Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 18 Medi 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y camau y mae'r Llywodraeth hon wedi'u cymryd i alluogi pobl yng Nghymru i anadlu aer glân. Ac ers fy natganiad diwethaf ar y pwnc hwn yn gynnar eleni, mae ein hymdrechion wedi canolbwyntio ar fynd i'r afael â llygredd aer yn yr ardaloedd o Gymru y mae'n effeithio arnynt waethaf, ac fe wneir cynnydd tuag at gyflwyno Deddf aer glân. Yn ogystal â nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd tuag at ddeddfwriaeth newydd, mae gwelliannau'r Llywodraeth yn cywiro gwallau yn y cynnig gwreiddiol, sy'n cynnwys hen ffigurau a datganiadau gwallus.
Wrth ateb cwestiwn penodol Jenny Rathbone ynghylch ffigurau, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn pwysleisio bod y ffigurau a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar effaith llygredd aer yn seiliedig ar astudiaethau gwyddonol sy'n ceisio rhoi amcangyfrif rhesymedig o'r lefel gyffredinol o niwed a achosir. Mae'n gyfrifiad i ddangos maint y niwed. Nid yw'r un peth, er enghraifft, â dweud bod 2,000 o bobl yn marw'n gynnar bob blwyddyn o ganlyniad i ddamweiniau ceir. Byddai rhestr o'r fath mewn gwirionedd yn tanddatgan y gwir niwed. Nid yw'n hawdd priodoli effaith llygredd aer yn yr un modd a bydd tybiaethau gwahanol a wneir yn y cyfrifiadau a ddefnyddir i lunio amcangyfrifon yn cynhyrchu ffigurau gwahanol. Ond ar wahân i'r heriau ystadegol hynny, mae'r ffigur yn ein galluogi i ddweud yn hyderus mai llygredd aer yw'r risg iechyd cyhoeddus mwyaf sydd gennym.
Mae'r camau cyfreithiol y cyfeiria cynnig yr wrthblaid atynt yn ymwneud â materion ansawdd aer lleol yng nghanol dinas Caerdydd a Heol Hafodyrynys yng Nghaerffili. Mae'n wir, wrth gwrs, fod problemau ansawdd aer hyd yn oed yn waeth wedi arwain at yr un her gyfreithiol yn Lloegr, ac yn wir mewn gwledydd ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Ers ein dadl ddiwethaf, mae awdurdodau lleol Caerdydd a Chaerffili wedi cynhyrchu eu cynlluniau i fynd i'r afael â'r broblem o dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ac mewn ymateb i gyngor arbenigol annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac rydym hefyd wedi defnyddio ein swyddogion ein hunain i gynorthwyo'r awdurdodau lleol gyda chapasiti ac arbenigedd ychwanegol. Rydym wedi llunio set arall o gyfarwyddiadau ar gyfer y ddau awdurdod lleol ac rydym wedi dyrannu cyllid ychwanegol i gefnogi'r gwaith o gyflawni fel y gallwn fod yn sicr yr eir i'r afael â'r materion hyn yn yr amser byrraf posibl. Rwy'n cymeradwyo'r ddau awdurdod am fwrw ymlaen â'r gwaith hwn heb betruso nac oedi.
Yn fy natganiad diwethaf ar ansawdd aer, cyhoeddais benderfyniad fy nghyd-Aelod, Ken Skates, i wneud y cyfyngiadau cyflymder o 50 mya a gyflwynwyd gennym mewn ardaloedd â phroblem llygredd aer ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yn rhai parhaol. Ers hynny, rydym wedi parhau i fonitro eu heffeithiolrwydd ac rydym wedi gosod camerâu cyflymder cyfartalog i sicrhau bod yr holl yrwyr sy'n defnyddio'r ffyrdd yn cadw at y terfynau. Ar hyn o bryd rydym— [Torri ar draws.] Ddim am funud. Rydym wrthi'n cyflwyno arwyddion cliriach, yn ateb i gwestiwn penodol Mandy Jones. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr arwyddion yn esbonio pam y mae'r parthau 50 mya hynny yno fel bod y cyhoedd yn deall y rhesymau sy'n sail iddynt, oherwydd rwy'n credu mai dyna lle y gwnaethom gamgymeriad gyda hynny. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Mae gennyf un yn fy etholaeth i, fel y byddwch wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen, ac nid yw pobl yn deall y rheswm drosto. Felly, rydym wrthi'n cynllunio hynny a byddant yn cael eu gosod yn y dyfodol agos iawn. Fe ildiaf.