1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Medi 2019.
2. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar ysgolion rhydd? OAQ54361
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i system addysg gynhwysfawr sy'n sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u cefndir, yn cael y cyfle i wireddu eu potensial. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod ysgolion rhydd wedi codi safonau yn Lloegr, ac mae Ymddiriedolaeth Sutton wedi canfod bod y polisi wedi methu â chyflawni ei ddiben.
Diolch, Prif Weinidog. A ydych chi'n cytuno â mi bod bwriad Prif Weinidog y DU, fel y dywedodd, i greu 30 o ysgolion rhydd ar draws y DU—efallai fod hwnnw'n sylw amhriodol—yn dangos ei anwybodaeth o ddatganoli, oherwydd, fel yr ydym ni i gyd yn ymwybodol yn y Siambr hon, mae addysg wedi ei datganoli? A wnaiff y Prif Weinidog barhau felly i roi sicrwydd i bobl Cymru na fyddwn ni'n gweld marchnadeiddio addysg yng Nghymru drwy sefydlu ysgolion rhydd?
Diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn atodol yna, Llywydd. Rwy'n gobeithio ei fod yn iawn; rwy'n gobeithio ei fod yn fater syml nad oedd Prif Weinidog y DU yn deall datganoli. Byddai hynny'n un peth. Ond mae gen i bryder mawr efallai fod rhywfaint o fwriadoldeb y tu ôl i'r datganiad hwnnw. Bydd rhai Aelodau yn y fan yma yn cofio'r araith a wnaeth Michael Gove yng Nghaeredin yn ystod etholiad arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, pan ddywedodd mai'r ffordd i gadarnhau'r Deyrnas Unedig oedd i Lywodraeth y DU sefydlu, mewn ardaloedd datganoledig, ysgolion ac ysbytai y byddai ganddyn nhw gyfrifoldeb amdanyn nhw. Roedd yn syniad, meddyliais, o oedd â'r nod o arwain at chwalu'r Deyrnas Unedig, a gadewch i ni obeithio pan gyfeiriodd Prif Weinidog y DU at 30 o ysgolion rhydd ledled y Deyrnas Unedig nad oedd yn adleisio'r syniad arbennig o anhapus hwnnw. Mae addysg wedi ei datganoli i Gymru; rydym ni wedi mynd ati'n bwrpasol, yn fwriadol, a thrwy gydol cyfnod datganoli wedi cefnu ar y syniad mai creu marchnad ym maes addysg yw'r ffordd orau i godi safonau. Mae'n bendant nad yw'n gwneud hynny. Y cwbl mae'n ei wneud yw sicrhau bod y rhai sydd â manteision eisoes yn dod yn fwy breintiedig fyth yn y dyfodol. Mae ein polisïau addysg wedi eu seilio erioed ar ein cred y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal i wneud y defnydd gorau posibl o'r holl dalentau y mae'r plentyn hwnnw'n meddu arnynt ac mai nid damwain o'r math o ysgol y mae'n mynd iddi a'r math o addysg y mae'n ei derbyn a ddylai bennu'r cyfleoedd hynny mewn bywyd. Dyna'r hyn y mae ysgolion rhydd yn ei wneud. Dyna pam na fyddwn ni'n eu cael nhw yng Nghymru.
Credaf ei bod hi braidd yn hyf, a dweud y gwir, i'r cyn-Brif Weinidog feirniadu'r polisïau addysg yn Lloegr pan ddarparodd y Llywodraeth, o dan ei arweinyddiaeth ef, y canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr gwaethaf a welodd y wlad hon erioed ac rydym ni'n dal i fod ar waelod tablau cynghrair y DU ym mhynciau Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth. Nawr, un o'r rhesymau am hynny—. Dywedasoch eich bod chi eisiau i bob person ifanc gael cyfle cyfartal: y gwir yw nad ydyn nhw'n cael cyfle cyfartal yma yng Nghymru, gan fod bwlch cyllid o £645 fesul disgybl, bob blwyddyn, yn ôl yr undebau, y mae angen mynd i'r afael ag ef.
Nawr, yr un peth da, wrth gwrs, Prif Weinidog—yr un peth da—yw bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi hwb gwariant sylweddol ar gyfer addysg yn ddiweddar iawn, sy'n golygu, o ganlyniad i'r hwb gwariant hwnnw, y bydd gan Gymru £1.2 biliwn i'w wario ar addysg yn ychwanegol at y swm cyfredol dros y tair blynedd nesaf. A gaf i ofyn i chi: pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i gau'r bwlch cyllid hwnnw, ei ddileu'n llwyr, i roi chwarae teg fel y gall pobl ifanc yma gael y cyfle i ffynnu?
Llywydd, mae cyfraniad yr Aelod yn feinwe o honiadau hen ffasiwn, ac felly'n hynod gamarweiniol. Mae'r ffigur a ddyfynnodd o 2011. Byddech chi'n meddwl y byddai wedi diweddaru ychydig ar ei ffigurau ers hynny. Byddech chi'n meddwl efallai y byddai wedi darllen y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a ddywedodd bod y bwlch rhwng cyllid yng Nghymru a Lloegr bron wedi cael ei ddileu, ac roedd hynny oherwydd toriadau, toriadau—[Torri ar draws.] Roedd y bwlch bron wedi ei ddileu oherwydd y toriadau a wnaed i gyllidebau addysg yn Lloegr. [Torri ar draws.] Wel, gallwch chi ddweud 'nonsens', Darren, os mynnwch chi, ond yr IFS a ddywedodd hynny, nid fi. [Torri ar draws.] Yr IFS—ac adroddwyd ganddynt eto ddoe. Syniad da, rwy'n meddwl, fyddai diweddaru eich ffigurau ac, efallai, eich dealltwriaeth.
Pe byddem ni'n cael arian ar y raddfa yr ydych chi'n ei awgrymu—ac yn sicr nid oes unrhyw sicrwydd y byddwn ni'n ei gael; mae gennym ni setliad blwyddyn yma yng Nghymru, ac mae eich Llywodraeth chi wedi bod yn barod i gynnig tair blynedd yn Lloegr, ond nid i Gymru nac i'r Alban. Pe na bydden nhw wedi gwario rhywfaint o'r arian cyn i ni ei gael—£50 miliwn i lenwi'r bwlch yng nghyfraniadau pensiwn athrawon, a ddylai fod wedi dod gan Lywodraeth y DU ac y maen nhw wedi gwrthod, er gwaethaf rheolau'r fformiwla ariannu, ei roi i ni—a phe byddem ni'n cael yr arian hwnnw, Llywydd, ni fyddwn yn gwastraffu £140 miliwn ar ysgolion rhydd na agorodd erioed, neu a agorodd ac a gaeodd. Os cawn ni arian yma, byddwn yn ei fuddsoddi mewn ffordd a fydd yn cynorthwyo'r bobl ifanc hynny yn ein hysgolion a sicrhaodd y canlyniadau safon uwch a TGAU gorau erioed hynny ym mis Awst eleni. Dyna wirionedd y mater, ac nid yw ymgais yr Aelod, yn ôl ei arfer, i daflu rhyw gysgod ar gyflawniadau plant yng Nghymru yn gwneud unrhyw ddaioni iddyn nhw, ond nid yw'n gwneud dim daioni o gwbl i'w blaid.