Gwasanaethau Rheilffyrdd yn Islwyn

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 24 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:41, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mater sy'n codi pryder yw diffyg toiledau ar y trenau newydd sydd ar y gweill ar gyfer y rhwydwaith, sy'n gwasanaethu Islwyn a Chymoedd y De. Ac mae'n ymddangos mai'r cynnig sy'n cael ei wneud i bobl sy'n anabl, yn oedrannus neu sydd â chyflyrau meddygol yw dod oddi ar y trên i ddefnyddio toiled mewn gorsaf ac yna aros am y trên nesaf. Tybed a ydych chi'n credu bod y dull hwnnw'n dderbyniol.