Safbwynt y Llywodraeth ar Brexit

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 24 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:37, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod pethau'n symud yn weddol gyflym mewn ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys yn gynharach heddiw. Gwyddom fod Seneddwyr Democrataidd yn yr Unol Daleithiau yn dechrau camau uchelgyhuddo yn erbyn yr Arlywydd Trump ac rydym ni'n clywed bod Aelodau Seneddol y gwrthbleidiau yn ystyried dechrau prosesau uchelgyhuddo yn erbyn Boris Johnson, pe byddai'n gwrthod ymddiswyddo. Nawr, fel plaid, byddwn yn cefnogi hynny; deallir bod Aelodau eich plaid chithau hefyd yn barod i gefnogi'r camau hynny. A fyddai hwnnw'n gam yr hoffech ei weld yn digwydd, fel Prif Weinidog?