Bargeinion Dinesig yng Ngorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 24 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:44, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Cytunwyd i ryddhau £18 miliwn cychwynnol o gyllid bargen ddinesig gan Lywodraethau Cymru a'r DU ym mis Gorffennaf. Mae trefniadau manwl ar gyfer y ddau brosiect cyntaf yn mynd rhagddynt erbyn hyn. Rwyf i eisiau i weithrediad y fargen gyflymu, gan sicrhau twf economaidd ar draws y de-orllewin.