Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 24 Medi 2019.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaethau ychwanegol, gyda gwell cerbydau a gorsafoedd yn Islwyn, yn rhan o'n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer metro de Cymru. Bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad ar faterion rheilffyrdd yng Nghymru, sydd wedi ei drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf.